5. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: 'Wrth eich gwaith: rhianta a chyflogaeth yng Nghymru'

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 26 Medi 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 3:30, 26 Medi 2018

Mae yna un peth yn hollol amlwg: mae bod yn fam yn arwain at gosb ariannol gan greu anghyfartaledd cyflogau ar sail rhywedd a'r anghyfartaledd yna yn gwrthod shifftio. Nid ydy enillion tadau, ar y llaw arall, ddim yn cael eu heffeithio yn gyffredinol gan fagu plant. Mae yna gamau ymarferol y gellid eu cymryd ac mae'r pwyllgor yn nodi gweithio hyblyg a gofal plant fel dau fater penodol y mae angen mynd i'r afael â nhw. Law yn llaw â hynny, mae angen creu newid diwylliannol anferth er mwyn creu newid pellgyrhaeddol a llawn. Fel mae Cadeirydd y pwyllgor wedi ei grybwyll, mae gan y byd addysg rôl amlwg iawn i chwarae yn hynny ac rydw i'n edrych ymlaen at weld y cwricwlwm newydd yn gwreiddio yn y maes perthnasau a rhyw.

Mae'r angen am y newid diwylliannol yma i'w weld yn reit glir pan rydym yn trafod gweithio'n hyblyg, sydd, wrth gwrs, yn cynnwys rhannu swyddi, ac yn bwnc rydw i wedi ei godi yn fan hyn sawl gwaith. Wrth ymateb i'r adroddiad, mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn derbyn yr egwyddor o weithio hyblyg ar gyfer eu staff. Ond yn y pwyllgor mi ddywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth mai dim ond chwarter o staff y Llywodraeth sydd yn gweithio ar sail polisïau gweithio'n hyblyg. Nid ydy hynny'n unigryw i'r Llywodraeth; mae'n debyg ei fod yn wir ar draws sefydliadau yng Nghymru. Hynny yw, mae modd, efallai, gwneud rhywbeth mewn theori—gweithio'n hyblyg mewn theori—ond nid ydy o wedyn yn trosglwyddo i rywbeth sydd yn digwydd ar lawr gwlad.

Rŵan, rydw i'n gredwr cryf bod angen i Lywodraeth arwain drwy esiampl. Ac, felly, rydw i'n awgrymu bod Llywodraeth Cymru yn gwneud darn o waith i ganfod pam fod cyn lleied o'u staff nhw yn dewis gweithio'n hyblyg. Beth ydy'r rhwystrau rhag symud ymlaen i wneud yr hyn mae gan bobl yr hawl i wneud? Beth sy'n dal pobl yn ôl? Ac o ganfod rhai o'r rhwystrau yma, sydd, mae'n debyg, yn wir i ddynion yn ogystal â merched—beth ydy'r rhwystrau sydd yn dal pobl yn ôl? Ac o ganfod hynny, efallai y gwnawn ni symud tuag at sefyllfa lle mae gweithio'n hyblyg yn llawer mwy naturiol fel rhan o fywyd y gweithlu yng Nghymru. A beth am gynnig hynny fel ffordd dda iawn o roi ffocws i ddyhead y Prif Weinidog i greu Llywodraeth ffeministaidd? Rydw i'n deall bod yna grŵp o weision sifil wedi gwneud 12 o argymhellion ar rannu swyddi a gweithio'n rhan amser yn y gwasanaeth sifil uwch. Buaswn i'n licio clywed mwy am sut mae'r gwaith yna yn mynd ymlaen. A ydy'r argymhellion yma wedi cael eu derbyn? Ac a ydyn nhw'n cael eu gweithredu yn llawn erbyn hyn?

Yn y maes addysg, rydw i'n siomedig nad ydy'r Llywodraeth yn meddwl y gall hi ddiwygio taliadau neu lwfansau addysgu a dysgu er mwyn caniatáu i gyfrifoldebau gael eu rhannu rhwng dau neu ddwy aelod o staff. Mae'r pwyllgor wedi nodi bod menywod yn y proffesiwn dysgu yn wynebu llawer o rwystrau ac nid wyf yn deall y rhesymeg dros wrthod yr argymhelliad yma. Roedd yr argymhelliad yn galw am ddiwygio'r taliadau, ond beth gawn ni gan y Llywodraeth ydy esboniad nad ydy'r system bresennol yn caniatáu hynny. Wel, dyna'r union bwynt o roi'r argymhelliad ymlaen—er mwyn creu newid o fewn y system.

A jest i droi, ar y diwedd fel hyn, at ofal plant. Ac mae argymhellion y pwyllgor, sydd â'u bwriad o wella'r polisi gofal plant y mae'r Llywodraeth wrthi'n ei gyflwyno ar hyn o bryd—mae'r argymhellion yma wedi cael eu gwrthod. A dyma'r ail bwyllgor i ddod i ganlyniadau tebyg ond, eto, mae'n ymddangos bod y Llywodraeth yn benderfynol o lynu at y polisi diffygiol. A rhan o'r rheswm sy'n cael ei gynnig dros wneud hynny ydy bod y cynnig gofal plant yn rhan greiddiol o faniffesto'r Blaid Lafur, ac yn nodwedd ganolog o'r rhaglen ar gyfer llywodraeth. Wel, yn fy marn i, nid ydy gwrthod argymhelliad oherwydd ymrwymiad maniffesto ddim yn arwydd o agwedd aeddfed tuag at waith craffu, ac mae yna dystiolaeth sylweddol erbyn hyn bod polisi'r Llywodraeth yn anghywir. Mae barn yr arbenigwyr yn glir, mae barn y comisiynydd plant yn glir, ac eto mae'r Llywodraeth yn parhau ar hyd llwybr a fydd yn creu system gofal plant na fydd yn addas i bwrpas.

Rwy'n tawelu efo hynny. Mae llawer o argymhellion eraill y pwyllgor wedi cael eu derbyn, ac rwyf yn edrych ymlaen rŵan at ddod yn ôl at y pwnc pwysig yma, ac i weld mwy o gynnydd y tro nesaf.