Part of the debate – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 26 Medi 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Ar ddechrau'r Cynulliad hwn, cytunodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y dylai wneud craffu ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran lliniaru effeithiau newid hinsawdd yn un o'i flaenoriaethau, a hynny oherwydd ei bwysigrwydd i bobl Cymru. Cytunwyd hefyd y byddai'r pwyllgor yn llunio adroddiad blynyddol ar gynnydd Llywodraeth Cymru ac yn cynnal dadl flynyddol ar ei gynnwys.
Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon ar adroddiad blynyddol cyntaf y pwyllgor ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran lliniaru effeithiau newid hinsawdd, a hoffwn ddiolch i aelodau presennol a blaenorol y pwyllgor sydd wedi cyfrannu at y gwaith hwn. Ategwyd ein gwaith craffu gan grŵp o arbenigwyr o'r byd academaidd, llywodraeth leol a grwpiau busnes a chadwraeth. Mae safbwyntiau'r grŵp yn cael eu hadlewyrchu yn ein casgliadau a'n hargymhellion. Hoffwn gofnodi fy niolch i aelodau'r grŵp hwnnw.
Heddiw, hoffwn ganolbwyntio ar ddwy agwedd ar adroddiad y pwyllgor: ein hasesiad o gynnydd Llywodraeth Cymru ar newid hinsawdd hyd yma; a'n barn ni ar gynlluniau a chamau gweithredu Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.
Yn gyntaf, mae'r pwyllgor wedi asesu cynnydd Llywodraeth Cymru ar newid hinsawdd. Yn ôl yn 2010, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth ar y newid yn yr hinsawdd. Roedd yn ymrwymo i leihau cyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr i lefel 40 y cant islaw lefelau 1990 neu 1995, yn dibynnu ar y nwy, erbyn 2020. Roedd y rheini'n dargedau uchelgeisiol iawn. Y gwir amdani yw na fydd Llywodraeth Cymru'n cyflawni'r targedau hynny. Yn fwy diweddar, pasiodd y Cynulliad Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, sy'n ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru sicrhau bod allyriadau net ar gyfer 2050 o leiaf 80 y cant yn is na llinellau sylfaen 1990 neu 1995. Credaf y gall pawb weld pwysigrwydd adroddiad blynyddol bellach.
Gofynnodd Llywodraeth Cymru i bwyllgor annibynnol y DU ar newid yn yr hinsawdd ddarparu targedau iddi hyd at 2050. Mae ei ddadansoddiad yn dangos ein bod yn llusgo ar ôl gweddill y DU o ran cyflawni ein targedau. Dengys yr ystadegau diweddaraf fod allyriadau Cymru wedi gostwng i 19 y cant islaw lefelau 1990, ond ledled y DU dros yr un cyfnod gostyngodd lefel yr allyriadau 27 y cant.
At ei gilydd, nid yw allyriadau o ddiwydiant wedi newid ers 2008. Mae gostyngiad o 31 y cant ar lefelau 1990 ymhell islaw'r 48 y cant a gyflawnwyd gan y DU yn ei chyfanrwydd. Mae allyriadau o'r sector gorsafoedd pŵer yn mynd i'r cyfeiriad anghywir. Maent wedi cynyddu 17 y cant ers 1990, a dyna pam rwy'n siomedig iawn ynglŷn â'r diffyg cymorth gan San Steffan i'r morlyn llanw.
Rwy'n teimlo braidd yn wael ynglŷn â hyn, mewn gwirionedd, oherwydd rwy'n beio Llywodraeth Cymru am y cynnydd yn y lefelau hyn, ond gallem fod yn eu gostwng pe bai'r Llywodraeth yn San Steffan wedi cefnogi'r morlyn llanw, a fyddai wedi creu ynni na fyddai'n costio cymaint o ran allyriadau. Felly, rwy'n eich beio chi am nad yw Llywodraeth San Steffan wedi gwneud yr hyn y dylent fod wedi'i wneud, sydd i'w weld ychydig bach yn annheg, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn dwyn i gyfrif yr unig bobl y gallwn eu dwyn i gyfrif. Hoffwn pe bai gennym Michael Gove yma a chynrychiolwyr Llywodraeth San Steffan i'w dwyn i gyfrif, ond yn anffodus, Weinidog, chi sydd yma.
O ganlyniad, mae Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd wedi awgrymu targedau llai uchelgeisiol na'r rhai a geir yn strategaeth Llywodraeth Cymru ar y newid yn yr hinsawdd yn 2010. Mae'n ymagwedd bragmataidd ac angenrheidiol o ystyried y diffyg cynnydd. Fodd bynnag, mae'n destun gofid. Nid ydym am weld hyn yn dod yn batrwm, gyda Llywodraeth Cymru yn gosod targedau uchelgeisiol a llawn o ddyhead hirdymor sy'n rhaid eu gostwng pan fo realiti'n dechrau brathu, hyd yn oed os yw rhai o'r rhain yn codi o ddigwyddiadau y tu hwnt i'w rheolaeth.
Mae angen cynllun gweithredu clir, i sicrhau bod gennym fesurau trawslywodraethol a all gyflawni gwelliant graddol ond cyson. Daw hyn â mi at elfen arloesol a gynhyrchwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru): y broses o gyllidebu carbon. O dan y Ddeddf honno, ar gyfer pob cyfnod cyllidebol o bum mlynedd, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru osod cyfanswm uchaf ar gyfer allyriadau net, a ddisgrifir fel 'cyllideb garbon'. Rhaid pennu'r ddwy gyllideb gyntaf o'r cyllidebau carbon hyn, ar gyfer 2016-2020 a 2021-2025, erbyn diwedd eleni. Bydd y cyllidebau carbon yn cynnwys targedau interim mewn rheoliadau a rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau yn ôl y gyfraith na ddefnyddir mwy o garbon na'r hyn a geir yn y cyllidebau. Y cyllidebau carbon hyn fydd y prif sbardun ar gyfer lleihau allyriadau yng Nghymru. Mae'r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru lunio adroddiad yn manylu ar y polisïau a'r cynigion a fydd yn cyflawni pob cyllideb garbon.
Bydd craffu ar y cyllidebau carbon hyn a'r cynlluniau gweithredu cysylltiedig yn flaenoriaeth ar gyfer y pwyllgor hwn. Mae angen meddwl ymhellach ynglŷn â sut y bydd y broses newydd hon yn gweithio'n ymarferol, ond mae'n sicr yn fecanwaith defnyddiol ar gyfer dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Bydd cyllidebau carbon yn ôl eu natur yn gweithredu dull trawslywodraethol. Mae newid yn yr hinsawdd yn creu her sylweddol ac mae'n hanfodol sicrhau ymgysylltiad ar draws y Cabinet ac ar draws y portffolios ar yr agenda hon. Nid rôl yr Aelod Cabinet sy'n ymwneud â'r maes hwn yn unig yw hon; mae'n rôl i bob aelod o'r Cabinet. A hoffwn ddweud, ar lefel bersonol, fy mod yn siomedig mai'r unig Aelod Cabinet sy'n bresennol ar y cam hwn mewn gwirionedd yw'r Aelod Cabinet sy'n mynd i fod yn ymateb. Efallai fod hyn wedi bod yn ddiffygiol yn y gorffennol, ond rwy'n falch o ddweud ei bod yn ymddangos ei fod yn gwella, yn enwedig gyda dyfodiad y cyllidebau carbon. Hoffwn ganmol Ysgrifennydd y Cabinet ar ei chynnydd a'i hannog i ddal ati gyda'i gwaith da.
Fe drof yn awr at ein safbwyntiau ynglŷn â chynlluniau a chamau gweithredu Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. Mae ein hadroddiad yn cwmpasu pedwar maes polisi allweddol. Y cyntaf yw'r cynllun masnachu allyriadau. Yn 2016 cynhyrchodd y sector diwydiannol allyriadau'r Undeb Ewropeaidd, cynhyrchodd y sector diwydiannol 57 y cant o'r holl allyriadau yng Nghymru, felly mae llawer i'w ennill o fynd i'r afael ag allyriadau o'r fath. Rydym yn rhan o gynllun masnachu yr Undeb Ewropeaidd, cynllun sy'n caniatáu i allyrwyr mawr fasnachu lwfansau allyriadau yn ôl yr angen i osgoi talu dirwyon cosbol. Fodd bynnag, mae allyriadau o'r sector hwn wedi cynyddu 12 y cant rhwng 2010 a 2016 mewn gwirionedd. Ar ôl inni adael yr Undeb Ewropeaidd, bydd cyfleoedd i ddatblygu cynllun olynol, a gobeithiaf y bydd gennym gynllun olynol. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi mynegi ei rhwystredigaeth ynghylch y diffyg cynnydd ar hyn ac rwy'n rhannu'r rhwystredigaeth honno. Buaswn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet nodi'r sefyllfa ddiweddaraf o ran trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chynllun olynol posibl.
Yr ail faes polisi y buom yn edrych arno oedd rheoli tir. Yn 2014, amaethyddiaeth a defnydd tir oedd i gyfrif am 12 y cant o gyfanswm yr holl allyriadau yng Nghymru. Roeddem yn argymell dull llawer mwy uchelgeisiol o gynyddu gwaith plannu coed a rhoesom sylw i hynny o dan ein hadroddiad ar goed. Yn anffodus, dros y blynyddoedd diwethaf, mae gweithgaredd plannu coed wedi bod yn llawer is na'r targedau. Mae'r strategaeth goetiroedd ar gyfer Cymru a ddiwygiwyd yn ddiweddar yn cynnwys ymrwymiad i sicrhau cynnydd o 2,000 hectar y flwyddyn fan lleiaf mewn gorchudd coed yng Nghymru o 2020 tan 2030 a thu hwnt. Rydym yn falch nad yw Llywodraeth Cymru wedi troi ei chefn ar ei tharged, ond rydym yn pryderu mai rhagor o'r un peth yw hyn. Nid oes unrhyw arwydd y bydd y strategaeth hon yn cyrraedd y targedau y methodd yr hen un eu cyflawni. Rwy'n eithaf sicr y bydd y pwyllgor am roi adroddiad blynyddol ar dargedau coed hefyd, oherwydd credaf fod rhoi adroddiad blynyddol yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif.
Gwnaethom argymhellion hefyd ynghylch amaethyddiaeth a chynllunio. Yn anffodus nid oes gennyf ddigon o amser i fanylu ar hyn, ond rwy'n falch fod y Llywodraeth yn bwrw ymlaen ag un o'r argymhellion yn adroddiad cyntaf y pwyllgor hwn, a soniai am sicrhau bod cyllid ar gyfer rheoli tir yn y dyfodol yn seiliedig ar gyfraniadau at dargedau ar gyfer lliniaru effeithiau newid hinsawdd.
Yn drydydd, buom yn edrych ar dai ac adeiladau. Gwyddom o'n hymchwiliad diweddar i dai carbon isel fod gan Gymru beth o'r stoc dai hynaf ac oeraf yn Ewrop, ac nid yn unig o ran ynni, ond yn nhermau cyfleoedd bywyd i blant a disgwyliad oes oedolion, sy'n deillio o fyw mewn tai oer. Fel rhan o'r ymchwiliad hwnnw, roeddem yn argymell rhaglen ôl-osod helaeth ar gyfer tai mewn tlodi tanwydd yng Nghymru. Gobeithio y gallwn drafod yr adroddiad hwnnw maes o law.
Roedd yn galonogol gweld rhai o'n hargymhellion yn cael eu hadlewyrchu yn ymgynghoriad y Llywodraeth, 'Cyflawni ein llwybr carbon isel hyd at 2030', er enghraifft argymhellion ar gyfer safonau effeithlonrwydd ynni uwch ar gyfer adeiladu a rhaglen ôl-ffitio hirdymor. Hefyd, hoffwn groesawu gwaith y grŵp cynghori newydd ar ddatgarboneiddio cartrefi yng Nghymru.
Yn olaf, buom yn ystyried polisi trafnidiaeth. Yn 2014, trafnidiaeth oedd i gyfrif am 12.77 y cant o gyfanswm allyriadau Cymru. Mae trafndiaeth yn un maes lle na chafwyd fawr iawn o welliannau o ran lleihau allyriadau. Bron na chafwyd unrhyw welliant ers 2007, ond gan fod cyfanswm y ceir ar y ffyrdd wedi cynyddu ers hynny, mae allyriadau'r ceir bron yn sicr wedi gostwng.
Bydd yr Aelodau wedi clywed y ddadl yr wythnos diwethaf ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Edrychodd y pwyllgor hwn ar weithrediad y Ddeddf honno hefyd. Rwy'n cefnogi casgliadau ein cyd-Aelodau ei bod yn amlwg nad yw'r Ddeddf wedi gwireddu ei nodau. Rydym yn disgwyl gwelliannau yn y maes polisi hwn a byddwn yn ei gadw dan arolwg.
Buom hefyd yn ystyried ffordd liniaru'r M4 a cherbydau trydan a hydrogen. Yn benodol, cwestiynodd ein grŵp arbenigol yr effaith y byddai ffordd liniaru'r M4 yn ei chael ar leihau allyriadau. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet y bydd cyfanswm allyriadau carbon blynyddol defnyddwyr ar rwydwaith priffyrdd de Cymru yn lleihau o ganlyniad. Mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn ei gadw dan arolwg.
Felly, i gloi, beth yw asesiad y pwyllgor hwn o'n sefyllfa? Dyma fyddai fy nhair neges allweddol: mae'r cynnydd ers cyhoeddi'r adroddiad ar y newid yn yr hinsawdd yn 2010 wedi bod yn siomedig, ond mae cynnydd wedi bod; rhaid i'r targedau yn y dyfodol fod yn heriol ac yn ymestynnol, ond rhaid iddynt hefyd fod yn realistig ac yn gyraeddadwy, a phan ddown yn ôl i adrodd yn flynyddol, trefn y mae'n ymddangos ein bod yn symud tuag ati, disgwyliwn weld cynnydd; ac mae yna gyfleoedd cyffrous wrth inni weld arloesedd o Ddeddf yr amgylchedd, megis cyllidebu carbon, yn dod yn weithredol.
Dyma ein hadroddiad blynyddol cyntaf ar gyflawni camau i liniaru effeithiau newid hinsawdd. Mae wedi dangos maint yr her o'n blaenau. Byddwn yn parhau i gadw'r pwnc hwn dan arolwg ac yn adrodd yn ôl i'r Cynulliad ar y cynnydd.