– Senedd Cymru am 3:59 pm ar 26 Medi 2018.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar adroddiad blynyddol y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig: 'Cynnydd Llywodraeth Cymru o ran lliniaru effeithiau newid hinsawdd'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Mike Hedges.
Cynnig NDM6795 Mike Hedges
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, 'Cynnydd Llywodraeth Cymru o ran lliniaru effeithiau newid hinsawdd: Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mai 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Ar ddechrau'r Cynulliad hwn, cytunodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y dylai wneud craffu ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran lliniaru effeithiau newid hinsawdd yn un o'i flaenoriaethau, a hynny oherwydd ei bwysigrwydd i bobl Cymru. Cytunwyd hefyd y byddai'r pwyllgor yn llunio adroddiad blynyddol ar gynnydd Llywodraeth Cymru ac yn cynnal dadl flynyddol ar ei gynnwys.
Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon ar adroddiad blynyddol cyntaf y pwyllgor ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran lliniaru effeithiau newid hinsawdd, a hoffwn ddiolch i aelodau presennol a blaenorol y pwyllgor sydd wedi cyfrannu at y gwaith hwn. Ategwyd ein gwaith craffu gan grŵp o arbenigwyr o'r byd academaidd, llywodraeth leol a grwpiau busnes a chadwraeth. Mae safbwyntiau'r grŵp yn cael eu hadlewyrchu yn ein casgliadau a'n hargymhellion. Hoffwn gofnodi fy niolch i aelodau'r grŵp hwnnw.
Heddiw, hoffwn ganolbwyntio ar ddwy agwedd ar adroddiad y pwyllgor: ein hasesiad o gynnydd Llywodraeth Cymru ar newid hinsawdd hyd yma; a'n barn ni ar gynlluniau a chamau gweithredu Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.
Yn gyntaf, mae'r pwyllgor wedi asesu cynnydd Llywodraeth Cymru ar newid hinsawdd. Yn ôl yn 2010, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth ar y newid yn yr hinsawdd. Roedd yn ymrwymo i leihau cyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr i lefel 40 y cant islaw lefelau 1990 neu 1995, yn dibynnu ar y nwy, erbyn 2020. Roedd y rheini'n dargedau uchelgeisiol iawn. Y gwir amdani yw na fydd Llywodraeth Cymru'n cyflawni'r targedau hynny. Yn fwy diweddar, pasiodd y Cynulliad Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, sy'n ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru sicrhau bod allyriadau net ar gyfer 2050 o leiaf 80 y cant yn is na llinellau sylfaen 1990 neu 1995. Credaf y gall pawb weld pwysigrwydd adroddiad blynyddol bellach.
Gofynnodd Llywodraeth Cymru i bwyllgor annibynnol y DU ar newid yn yr hinsawdd ddarparu targedau iddi hyd at 2050. Mae ei ddadansoddiad yn dangos ein bod yn llusgo ar ôl gweddill y DU o ran cyflawni ein targedau. Dengys yr ystadegau diweddaraf fod allyriadau Cymru wedi gostwng i 19 y cant islaw lefelau 1990, ond ledled y DU dros yr un cyfnod gostyngodd lefel yr allyriadau 27 y cant.
At ei gilydd, nid yw allyriadau o ddiwydiant wedi newid ers 2008. Mae gostyngiad o 31 y cant ar lefelau 1990 ymhell islaw'r 48 y cant a gyflawnwyd gan y DU yn ei chyfanrwydd. Mae allyriadau o'r sector gorsafoedd pŵer yn mynd i'r cyfeiriad anghywir. Maent wedi cynyddu 17 y cant ers 1990, a dyna pam rwy'n siomedig iawn ynglŷn â'r diffyg cymorth gan San Steffan i'r morlyn llanw.
Rwy'n teimlo braidd yn wael ynglŷn â hyn, mewn gwirionedd, oherwydd rwy'n beio Llywodraeth Cymru am y cynnydd yn y lefelau hyn, ond gallem fod yn eu gostwng pe bai'r Llywodraeth yn San Steffan wedi cefnogi'r morlyn llanw, a fyddai wedi creu ynni na fyddai'n costio cymaint o ran allyriadau. Felly, rwy'n eich beio chi am nad yw Llywodraeth San Steffan wedi gwneud yr hyn y dylent fod wedi'i wneud, sydd i'w weld ychydig bach yn annheg, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn dwyn i gyfrif yr unig bobl y gallwn eu dwyn i gyfrif. Hoffwn pe bai gennym Michael Gove yma a chynrychiolwyr Llywodraeth San Steffan i'w dwyn i gyfrif, ond yn anffodus, Weinidog, chi sydd yma.
O ganlyniad, mae Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd wedi awgrymu targedau llai uchelgeisiol na'r rhai a geir yn strategaeth Llywodraeth Cymru ar y newid yn yr hinsawdd yn 2010. Mae'n ymagwedd bragmataidd ac angenrheidiol o ystyried y diffyg cynnydd. Fodd bynnag, mae'n destun gofid. Nid ydym am weld hyn yn dod yn batrwm, gyda Llywodraeth Cymru yn gosod targedau uchelgeisiol a llawn o ddyhead hirdymor sy'n rhaid eu gostwng pan fo realiti'n dechrau brathu, hyd yn oed os yw rhai o'r rhain yn codi o ddigwyddiadau y tu hwnt i'w rheolaeth.
Mae angen cynllun gweithredu clir, i sicrhau bod gennym fesurau trawslywodraethol a all gyflawni gwelliant graddol ond cyson. Daw hyn â mi at elfen arloesol a gynhyrchwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru): y broses o gyllidebu carbon. O dan y Ddeddf honno, ar gyfer pob cyfnod cyllidebol o bum mlynedd, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru osod cyfanswm uchaf ar gyfer allyriadau net, a ddisgrifir fel 'cyllideb garbon'. Rhaid pennu'r ddwy gyllideb gyntaf o'r cyllidebau carbon hyn, ar gyfer 2016-2020 a 2021-2025, erbyn diwedd eleni. Bydd y cyllidebau carbon yn cynnwys targedau interim mewn rheoliadau a rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau yn ôl y gyfraith na ddefnyddir mwy o garbon na'r hyn a geir yn y cyllidebau. Y cyllidebau carbon hyn fydd y prif sbardun ar gyfer lleihau allyriadau yng Nghymru. Mae'r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru lunio adroddiad yn manylu ar y polisïau a'r cynigion a fydd yn cyflawni pob cyllideb garbon.
Bydd craffu ar y cyllidebau carbon hyn a'r cynlluniau gweithredu cysylltiedig yn flaenoriaeth ar gyfer y pwyllgor hwn. Mae angen meddwl ymhellach ynglŷn â sut y bydd y broses newydd hon yn gweithio'n ymarferol, ond mae'n sicr yn fecanwaith defnyddiol ar gyfer dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Bydd cyllidebau carbon yn ôl eu natur yn gweithredu dull trawslywodraethol. Mae newid yn yr hinsawdd yn creu her sylweddol ac mae'n hanfodol sicrhau ymgysylltiad ar draws y Cabinet ac ar draws y portffolios ar yr agenda hon. Nid rôl yr Aelod Cabinet sy'n ymwneud â'r maes hwn yn unig yw hon; mae'n rôl i bob aelod o'r Cabinet. A hoffwn ddweud, ar lefel bersonol, fy mod yn siomedig mai'r unig Aelod Cabinet sy'n bresennol ar y cam hwn mewn gwirionedd yw'r Aelod Cabinet sy'n mynd i fod yn ymateb. Efallai fod hyn wedi bod yn ddiffygiol yn y gorffennol, ond rwy'n falch o ddweud ei bod yn ymddangos ei fod yn gwella, yn enwedig gyda dyfodiad y cyllidebau carbon. Hoffwn ganmol Ysgrifennydd y Cabinet ar ei chynnydd a'i hannog i ddal ati gyda'i gwaith da.
Fe drof yn awr at ein safbwyntiau ynglŷn â chynlluniau a chamau gweithredu Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. Mae ein hadroddiad yn cwmpasu pedwar maes polisi allweddol. Y cyntaf yw'r cynllun masnachu allyriadau. Yn 2016 cynhyrchodd y sector diwydiannol allyriadau'r Undeb Ewropeaidd, cynhyrchodd y sector diwydiannol 57 y cant o'r holl allyriadau yng Nghymru, felly mae llawer i'w ennill o fynd i'r afael ag allyriadau o'r fath. Rydym yn rhan o gynllun masnachu yr Undeb Ewropeaidd, cynllun sy'n caniatáu i allyrwyr mawr fasnachu lwfansau allyriadau yn ôl yr angen i osgoi talu dirwyon cosbol. Fodd bynnag, mae allyriadau o'r sector hwn wedi cynyddu 12 y cant rhwng 2010 a 2016 mewn gwirionedd. Ar ôl inni adael yr Undeb Ewropeaidd, bydd cyfleoedd i ddatblygu cynllun olynol, a gobeithiaf y bydd gennym gynllun olynol. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi mynegi ei rhwystredigaeth ynghylch y diffyg cynnydd ar hyn ac rwy'n rhannu'r rhwystredigaeth honno. Buaswn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet nodi'r sefyllfa ddiweddaraf o ran trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chynllun olynol posibl.
Yr ail faes polisi y buom yn edrych arno oedd rheoli tir. Yn 2014, amaethyddiaeth a defnydd tir oedd i gyfrif am 12 y cant o gyfanswm yr holl allyriadau yng Nghymru. Roeddem yn argymell dull llawer mwy uchelgeisiol o gynyddu gwaith plannu coed a rhoesom sylw i hynny o dan ein hadroddiad ar goed. Yn anffodus, dros y blynyddoedd diwethaf, mae gweithgaredd plannu coed wedi bod yn llawer is na'r targedau. Mae'r strategaeth goetiroedd ar gyfer Cymru a ddiwygiwyd yn ddiweddar yn cynnwys ymrwymiad i sicrhau cynnydd o 2,000 hectar y flwyddyn fan lleiaf mewn gorchudd coed yng Nghymru o 2020 tan 2030 a thu hwnt. Rydym yn falch nad yw Llywodraeth Cymru wedi troi ei chefn ar ei tharged, ond rydym yn pryderu mai rhagor o'r un peth yw hyn. Nid oes unrhyw arwydd y bydd y strategaeth hon yn cyrraedd y targedau y methodd yr hen un eu cyflawni. Rwy'n eithaf sicr y bydd y pwyllgor am roi adroddiad blynyddol ar dargedau coed hefyd, oherwydd credaf fod rhoi adroddiad blynyddol yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif.
Gwnaethom argymhellion hefyd ynghylch amaethyddiaeth a chynllunio. Yn anffodus nid oes gennyf ddigon o amser i fanylu ar hyn, ond rwy'n falch fod y Llywodraeth yn bwrw ymlaen ag un o'r argymhellion yn adroddiad cyntaf y pwyllgor hwn, a soniai am sicrhau bod cyllid ar gyfer rheoli tir yn y dyfodol yn seiliedig ar gyfraniadau at dargedau ar gyfer lliniaru effeithiau newid hinsawdd.
Yn drydydd, buom yn edrych ar dai ac adeiladau. Gwyddom o'n hymchwiliad diweddar i dai carbon isel fod gan Gymru beth o'r stoc dai hynaf ac oeraf yn Ewrop, ac nid yn unig o ran ynni, ond yn nhermau cyfleoedd bywyd i blant a disgwyliad oes oedolion, sy'n deillio o fyw mewn tai oer. Fel rhan o'r ymchwiliad hwnnw, roeddem yn argymell rhaglen ôl-osod helaeth ar gyfer tai mewn tlodi tanwydd yng Nghymru. Gobeithio y gallwn drafod yr adroddiad hwnnw maes o law.
Roedd yn galonogol gweld rhai o'n hargymhellion yn cael eu hadlewyrchu yn ymgynghoriad y Llywodraeth, 'Cyflawni ein llwybr carbon isel hyd at 2030', er enghraifft argymhellion ar gyfer safonau effeithlonrwydd ynni uwch ar gyfer adeiladu a rhaglen ôl-ffitio hirdymor. Hefyd, hoffwn groesawu gwaith y grŵp cynghori newydd ar ddatgarboneiddio cartrefi yng Nghymru.
Yn olaf, buom yn ystyried polisi trafnidiaeth. Yn 2014, trafnidiaeth oedd i gyfrif am 12.77 y cant o gyfanswm allyriadau Cymru. Mae trafndiaeth yn un maes lle na chafwyd fawr iawn o welliannau o ran lleihau allyriadau. Bron na chafwyd unrhyw welliant ers 2007, ond gan fod cyfanswm y ceir ar y ffyrdd wedi cynyddu ers hynny, mae allyriadau'r ceir bron yn sicr wedi gostwng.
Bydd yr Aelodau wedi clywed y ddadl yr wythnos diwethaf ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Edrychodd y pwyllgor hwn ar weithrediad y Ddeddf honno hefyd. Rwy'n cefnogi casgliadau ein cyd-Aelodau ei bod yn amlwg nad yw'r Ddeddf wedi gwireddu ei nodau. Rydym yn disgwyl gwelliannau yn y maes polisi hwn a byddwn yn ei gadw dan arolwg.
Buom hefyd yn ystyried ffordd liniaru'r M4 a cherbydau trydan a hydrogen. Yn benodol, cwestiynodd ein grŵp arbenigol yr effaith y byddai ffordd liniaru'r M4 yn ei chael ar leihau allyriadau. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet y bydd cyfanswm allyriadau carbon blynyddol defnyddwyr ar rwydwaith priffyrdd de Cymru yn lleihau o ganlyniad. Mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn ei gadw dan arolwg.
Felly, i gloi, beth yw asesiad y pwyllgor hwn o'n sefyllfa? Dyma fyddai fy nhair neges allweddol: mae'r cynnydd ers cyhoeddi'r adroddiad ar y newid yn yr hinsawdd yn 2010 wedi bod yn siomedig, ond mae cynnydd wedi bod; rhaid i'r targedau yn y dyfodol fod yn heriol ac yn ymestynnol, ond rhaid iddynt hefyd fod yn realistig ac yn gyraeddadwy, a phan ddown yn ôl i adrodd yn flynyddol, trefn y mae'n ymddangos ein bod yn symud tuag ati, disgwyliwn weld cynnydd; ac mae yna gyfleoedd cyffrous wrth inni weld arloesedd o Ddeddf yr amgylchedd, megis cyllidebu carbon, yn dod yn weithredol.
Dyma ein hadroddiad blynyddol cyntaf ar gyflawni camau i liniaru effeithiau newid hinsawdd. Mae wedi dangos maint yr her o'n blaenau. Byddwn yn parhau i gadw'r pwnc hwn dan arolwg ac yn adrodd yn ôl i'r Cynulliad ar y cynnydd.
Diolch i'r Cadeirydd am ei sylwadau agoriadol ar yr adroddiad pwyllgor hwn. Yn amlwg, rwy'n newydd i'r pwyllgor ac ni chwaraeais unrhyw ran yn llunio'r adroddiad. Rwy'n cymeradwyo aelodau blaenorol y pwyllgor—David Melding ar fy llaw dde ac aelodau eraill o'r pwyllgor sydd wedi gadael y pwyllgor wedi hynny—ar gyflwyno adroddiad mor gynhwysfawr, ac yn arbennig y sylwadau agoriadol gan y Cadeirydd ynglŷn ag adroddiadau blynyddol.
Un peth sy'n fy nharo, ac eraill sy'n darllen yr adroddiad hwn rwy'n siŵr, yw hyd y cyfnod o amser y caiff y targedau eu gosod ar ei gyfer. Rydych yn sôn am 20, 30, 40 mlynedd i wneud y newidiadau mawr eu heffath rydym yn sôn amdanynt yma ac mewn gwirionedd, onid yw gweithgarwch monitro cyson ar gynnydd—neu fel arall, yn ôl fel y bydd hi—yn rôl hanfodol i unrhyw bwyllgor yn y Cynulliad, a chredaf fod honno'n fenter i'w chroesawu er bod perygl y gallai oddiweddyd gweddill gwaith y pwyllgor os yw'n gyson yn adrodd yn flynyddol ar bob math o bethau.
Roedd sylwadau agoriadol y Cadeirydd yn nodi, yn amlwg, yr un anghysondeb amlwg sy'n neidio allan yn syth o'r ffigur cyntaf, sef gostyngiad o 40 y cant mewn allyriadau carbon i lefelau 1999 erbyn y flwyddyn 2040, ac yn amlwg, rydym wedi mynd tuag yn ôl—erbyn 2020, mae'n ddrwg gennyf, i'r ffigur hwnnw ddod i mewn—ac rydym wedi mynd tuag yn ôl yma yng Nghymru yn methu dal i fyny â gweddill y DU yn y ffordd y maent wedi symud ymlaen at yr un targed. Felly, rwy'n gobeithio, yn y sylwadau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu rhoi yn y ddadl hon, y bydd yn dangos sut y bydd hi'n rhoi'r lori yn ôl ar y ffordd, y car yn ôl ar y ffordd, fel petai, i gyrraedd y targedau hynny—mewn ffordd gynaliadwy, dylwn ychwanegu.
Oherwydd, yn amlwg, mae rhan allweddol o'r adroddiad hwn yn edrych ar sut yr ydym yn chwyldroi ein system drafnidiaeth a sut y mae'r Llywodraeth yn gweithio ar draws pob adran fel eu bod yn gosod pwyntiau gwefru trydan, ac yn arbennig yn modelu'r system o amgylch cynlluniau ffyrdd sy'n aml iawn yn cael eu defnyddio fel enghreifftiau o gynyddu ein hôl troed carbon. Ond os ydych chi'n adeiladu rhai o'r gwelliannau ffyrdd hyn yn y pen draw, honiad y Llywodraeth mewn gwirionedd yw y gallent sicrhau gostyngiad sylweddol o ran rhai o'r allbynnau carbon drwy sicrhau bod traffig yn symud yn fwy effeithlon ac y gellid lleddfu'r stopio ac ailgychwyn a welwn mewn llawer o lefydd ar ein rhwydwaith ffyrdd ar hyn o bryd gan gyfrannu at lygredd aer mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru. Rwy'n mawr obeithio hynny—rwyf wedi darllen ymateb y Gweinidog i'r pwyllgor—ond rwy'n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymroi'n llawnach heddiw i ateb rhai o'r sylwadau hynny ynghylch ffordd liniaru'r M4, er enghraifft, oherwydd clywsom Ysgrifennydd y Cabinet yn y cwestiynau i'r Gweinidog yn dweud bod yr ymchwiliad cyhoeddus gydag ef yn awr, ei fod wedi'i gyflwyno iddo, a honiad y Llywodraeth, mewn gwirionedd, yw y byddwch drwy adeiladu'r ffordd honno yn helpu i gyfrannu at leihau allyriadau carbon yng Nghymru. Rwy'n credu bod y pwyllgor yn awyddus i weld mwy o dystiolaeth o hynny a chredaf fod hynny'n dal i'w brofi ym meddyliau rhai pobl.
Hefyd, mae'n bwynt dilys iawn i Gadeirydd y pwyllgor dynnu sylw ato. Gallaf gofio yn y trydydd Cynulliad, pan oeddwn ar y pwyllgor blaenorol, un Gweinidog Cabinet ar y pryd yn dod ger ein bron heb sylweddoli bod rhwymedigaeth amgylcheddol ar ei adran fel rhan o fenter gyffredinol y Llywodraeth—ni wnaf enwi a chodi cywilydd—ac yn sydyn iawn gafaelodd ei swyddog yn ei fraich a dweud, 'Wel, mewn gwirionedd, mae rhwymedigaeth arnoch fel Gweinidog i adrodd yn flynyddol i'r Prif Weinidog ynghylch y cynnydd y mae eich adran yn ei wneud.' Ac mae'n bwysig fod y Llywodraeth yn gweithio ar y cyd i gyflawni'r agenda hon.
A bod yn deg, clywsom heddiw wrth graffu ar adran comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol fod ganddi hyder y ceir mwy o gydweithio ar draws y Llywodraeth, ond mae'n dibynnu ar yr unigolion ac ar ymrwymiad yr unigolion oherwydd eu bod yn atebol am eu hadrannau. Felly, unwaith eto, yn ei hymateb heddiw, gobeithiaf y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu rhoi hyder inni fod y trefniadau cydweithio y mae hi wedi'u rhoi ar waith, a bod yn deg â hi, yn wydn, yn gadarn ac na fyddant yn newid o un unigolyn i'r llall pe bai ad-drefnu'r Cabinet yn digwydd, ac y byddant yn parhau yn y Cabinet a'r strwythurau Llywodraeth sydd gennym yma yng Nghymru.
Yn amlwg, o fy nghefndir ffermio wrth gwrs, mae tir yn rhan bwysig iawn o'r pethau y mae gennyf ddiddordeb ynddynt, ac mae'n peri gofid imi weld y diffyg coedwigaeth a gwaith datblygu coedwigaeth a fu. Er clod iddi, roedd gan y Llywodraeth darged uchelgeisiol iawn o 100,000 hectar i'w plannu, ac nid yw hyd yn oed wedi crafu'r wyneb o ran cyrraedd y targed hwnnw ar hyn o bryd. Credaf fod 96,000 o hectarau i gael eu cyflawni o hyd os yw'r targed hwnnw i'w gyflawni yn y ffrâm amser a osododd y Llywodraeth iddi ei hun yn wreiddiol. Ac er ei bod yn dal ei gafael yn dynn ar y targed hwnnw, rwy'n meddwl efallai y dylid gosod nod mwy realistig ar waith bellach oherwydd nid yw'n ymwneud â chyfaddef methiant; mae'n ymwneud â bod yn realistig ynghylch yr hyn y gall y Llywodraeth ei gyflawni, yn hytrach na dal ei gafael ar darged a gafodd ei nodi, ac nad oes modd ei gyflawni, mae'n amlwg, oherwydd yn y cyfnod o amser a fu ers sefydlu'r targed hwn dros y tair neu bedair blynedd ddiwethaf, dim ond 2,500 hectar a blannwyd yma yng Nghymru mewn gwirionedd. Gyda'r ewyllys gorau yn y byd dros yr oddeutu 14 mlynedd nesaf, nid ydych yn mynd i blannu 7,000 hectar o goetir bob blwyddyn i gyflawni'r 100,000 a osodwyd gennych. Felly, gadewch inni fod yn realistig: gadewch i ni roi targed realistig i'r diwydiant coedwigaeth, i'r diwydiant tir.
Hefyd, hoffwn grybwyll cynllunio, ond rwy'n sylweddoli fy mod yn brin o amser, fel y mae'r Dirprwy Lywydd yn dynodi, ond mae hon yn eitem agenda sy'n mynnu llawer o sylw gan y rhai sy'n ein hethol i'r sefydliad hwn. Edrychaf ymlaen at fy ngwaith ar y pwyllgor ac yn benodol, at ddwyn y Llywodraeth i gyfrif, ond yn bwysicach, at weld cynnydd yn y maes polisi pwysig hwn a gallu edrych arno yn y pen draw a dweud, 'Fe wnaethom wahaniaeth.' Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd.
Rwy'n hapus iawn i gymryd rhan yn y drafodaeth bwysig yma ar adroddiad ein pwyllgor newid hinsawdd ni. Diolch i'r Cadeirydd, Mike Hedges, am ei gyflwyniad agoriadol ar adroddiad blynyddol y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran lliniaru effeithiau newid hinsawdd. Mae yna sawl argymhelliad, ac, wrth gwrs, tra bo'r Llywodraeth wedi derbyn y rhan fwyaf ohonyn nhw, nid ydyn nhw'n derbyn nifer o rai eraill hefyd. Awn ni drwy'r rheini rŵan yn fuan.
Yn amlwg, ni fydd Llywodraeth Cymru yn llwyddo i gyrraedd eu targed o leihau allyriadau o 40 y cant erbyn 2020. Mae hynny'n amlwg. Mae'r ystyadegau allyriadau diweddaraf yn 2015 yn dangos bod allyriadau Cymru dim ond 19 y cant o dan lefelau 1990, tra cwympodd allyriadau gweddill Prydain 27 y cant yn is na lefelau 1990. Yn amlwg, gall sefydlu targedau llai heriol rŵan gael ei weld fel gwobrwyo methiant yn y cyd-destun yma. Fel mae eraill wedi'i ddweud, ni fydd cynnydd ar daclo newid hinsawdd a'r argyfwng iechyd cyhoeddus sy'n deillio o lygredd awyr nes bydd pob aelod o'r Cabinet yn cymryd eu cyfrifoldeb o ddifrif i dorri allyriadau yn eu meysydd portffolio unigol nhw.
Nawr, i droi at rai o'r argymhellion yn fyr—
'Argymhelliad 5. Dylai Llywodraeth Cymru roi manylion i’r Pwyllgor am yr hyn y cred y dylai fod yn ofynion Cynllun Masnachu Allyriadau newydd yr UE'— un o'r rhesymau mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu ddweud am fethiant Llywodraeth Cymru i gyrraedd eu targed o ostyngiad o 40 y cant mewn allyriadau erbyn 2020 ydy oherwydd rôl cynllun masnachu allyriadau'r Undeb Ewropeaidd, ETS. Fel mae hi'n ei ddweud,
yr allyriadau hyn yw mwy na 50 y cant o gyfanswm ein hallyriadau, mae felly'n effeithio ar ein gallu i gyflawni'r targed o 40 y cant.
Bydd y cynllun a fydd yn dilyn y cynllun masnachu allyriadau Ewropeaidd yma yn chwarae rôl allweddol felly yn sut bydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd eu targedau lleihau allyriadau. Mae'n fater o siom, felly, bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad 5 ond mewn egwyddor—yr hen dric yna o dderbyn pethau mewn egwyddor eto yn lle jest eu derbyn nhw a mynd amdani.
Nawr, mae cynllun masnachu allyriadau'r Undeb Ewropeaidd yn un o'r 24 maes datganoledig sy'n disgyn o dan y trafodaethau a fframweithiau cyffredin dan adain y cytundeb rhynglywodraethol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn teimlo'n rhwystredig—eu geiriau hi—am y diffyg cynnydd yn y mater yma, ond mae hyn yn ganlyniad naturiol pan ydym ni wedi gorfod derbyn rhewi ein pwerau o ganlyniad i bleidlais yn y lle yma ar Fil ymadael Ewrop. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwybod y gallant yrru'r agenda pan fo pethau'n effeithio ar Gymru heb orfod cymryd sylw o unrhyw beth rydym ni'n ei ddweud.
A throi at argymhelliad 8—
'ymrwymo i darged cenedlaethol o 20 y cant o orchudd canopi coed trefol'— rydym ni wedi clywed cryn dipyn am y targedau coed. Af i ddim dros yr un un ffigurau, ond gall goed leihau carbon a lleihau llygredd awyr, yn amlwg. Mae Llywodraeth Cymru yn bell ar ei hôl hi yn nhermau plannu rhagor o goed, ac mae'n fater o siom eto bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod argymhelliad 8 i fynd ar ôl y targed yma o blannu rhagor o goed. Dylai fod rheidrwydd naturiol ar Lywodraeth i weithredu a derbyn argymhelliad 8, yn enwedig o gofio gofyniadau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gan droi at argymhelliad 13 yn y cyflwyniad swmpus yma—
'Dylai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth adolygu Deddf Teithio Llesol (Cymru)'— yn amlwg, fel mae eraill wedi'i ddweud, mae trafnidiaeth yn faes lle gellir gwneud lleihad sylweddol mewn allyriadau carbon a helpu lleihau llygredd awyr hefyd ar yr un pryd. Eisoes, mewn dadleuon a chwestiynau cyn heddiw yn y Siambr yma, rydym ni wedi clywed rhai yn olrhain pa mor annigonol ydy ymateb Llywodraeth Cymru wedi bod i weithredu Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Mae'n fater o siom, felly, fod yr argymhelliad yma, argymhelliad 13, y dylai'r Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth—bydd yn rhaid i'r Ysgrifennydd Cabinet ddweud wrth ei chyfaill am hyn—
'adrodd yn ôl i’r Pwyllgor o fewn 6 mis' ar sut mae'n dod i adolygu gweithredu Deddf Teithio Llesol (Cymru)—. Mae'r argymhelliad hwn dim ond eto wedi ei dderbyn mewn egwyddor; nid yw wedi'i dderbyn bod angen adolygiad—dim ond wedi ei dderbyn mewn egwyddor. Wedi'r cwbl, mae hynny'n fater o siom. Mae bron i bum mlynedd wedi pasio ers pasio'r Ddeddf yma. Erys graddfeydd teithio llesol yr un peth, ac mae llai o blant yn cerdded neu'n seiclo i'r ysgol.
I gloi, rŵan, mae Llywodraeth Cymru yn darparu £60 miliwn dros dair blynedd o dan y Ddeddf yma—tua £10 y pen y flwyddyn—sydd yn sylweddol llai nag argymhelliad pwyllgor economi'r Cynulliad yma o £17 i £20 y pen bob blwyddyn. Cymharer hynny efo cost o £1.4 biliwn am lwybr du'r M4. Erys heriau sylweddol. Diolch yn fawr.
Rwy'n falch iawn o siarad yn adroddiad blynyddol y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran lliniaru effeithiau newid hinsawdd. Nid wyf yn aelod o'r pwyllgor, ond yn amlwg mae newid hinsawdd yn rhywbeth sy'n effeithio ar bob un ohonom yn y Siambr hon ac mae'n effeithio ar bob adran. Fel y dywedodd y Cadeirydd yn ei sylwadau agoriadol, nid yw hyn yn rhywbeth y gallwn ei glustnodi ar gyfer un pwyllgor penodol. Ac wrth gwrs, mae pawb ohonom wedi profi canlyniadau newid hinsawdd drosom ein hunain yn ddiweddar: y bwystfil o'r dwyrain a'r haf poethaf a gofnodwyd ers dros 40 mlynedd. Credaf felly fod newid hinsawdd yn amlwg yn un o'r materion mawr hynny sy'n bwysig iawn i ni i gyd, ac yn syml iawn ni allwn wadu bod ein hinsawdd yn newid. Felly, mae'n gwbl hanfodol ein bod yn gwneud yr hyn a allwn i sicrhau nad yw'n gwaethygu, a chredaf fod yr adroddiad hwn yn amlygu rhai o'r ffyrdd y gallwn ni yng Nghymru wneud ein rhan, ac yn sicr mae'n tynnu sylw at y ffaith y gallwn wneud llawer mwy nag a wnawn.
Roedd gennyf ddiddordeb arbennig yn y rhan o'r adroddiad a oedd yn ymwneud â safonau ynni tai ac adeiladau a sut y gellir eu gwella ledled Cymru, ac roeddwn yn falch o weld y bydd y rhaglen Cartrefi Clyd yn ymdrin ag effeithlonrwydd ynni mewn 25,000 o gartrefi yn ystod y tymor hwn ac y bydd Llywodraeth Cymru yn adeiladu 1,000 o fathau newydd o gartrefi ledled Cymru drwy'r rhaglen tai arloesol. Yn fy rôl fel cadeirydd pwyllgor monitro rhaglenni Cymru, bûm yn ddigon ffodus i ymweld â sawl prosiect a ariannwyd gan Ewrop sydd wedi ymrwymo i fynd i'r afael â newid hinsawdd a gwella effeithlonrwydd ynni. Fel y mae'r rhan fwyaf ohonoch yn gwybod, caiff y Ganolfan Beirianneg Cynnyrch Cynaliadwy ar gyfer Haenau Diwydiannol Gweithredol Arloesol (SPECIFIC) ym Mhrifysgol Abertawe ei hariannu o gronfa datblygu rhanbarthol Ewrop a'i nod yw troi adeiladau'n orsafoedd pŵer. Mae adeiladau fel gorsafoedd pŵer yn cynhyrchu, storio a rhyddhau eu hynni solar eu hunain, yn wres a thrydan. Mae hyn yn golygu bod adeiladau i bob pwrpas yn strwythurau gweithredol yn hytrach na strwythurau goddefol ac mae'n golygu bod allyriadau carbon mewn adeiladau yn cael eu dileu ac yn lleihau'n ddramatig y ddibyniaeth ar danwydd ffosil a nwy.
Mae hwn yn gynnydd enfawr, a gwn ein bod wedi siarad yn y Siambr hon am y datblygiadau hyn o'r blaen, ond mae'n anhygoel, rwy'n credu, eich bod yn gallu adeiladu tai sy'n weithredol, sy'n gallu cynhyrchu ynni mewn gwirionedd, ac mae'n ymddangos i mi fod yn rhaid cael ymdrech enfawr i wneud yn siŵr ein bod yn cael tai newydd sy'n cael eu hadeiladu yn ôl y safonau hynny. A dyna lle nad wyf yn credu ein bod yn gwneud cymaint ag y gallem ei wneud mewn gwirionedd. Pe bai'r holl dai yn y dyfodol yn cael eu hadeiladu yn y ffordd hon, byddem yn gweld gostyngiad dramatig yn y defnydd o danwyddau ffosil, a byddai cartrefi yn cael eu pweru gan ynni adnewyddadwy a glân. Felly, mae gennym hynny. Mae'r dechnoleg honno wedi cael ei datblygu yma yng Nghymru, yn Abertawe, ac mae'n cael ei—. Mae datblygiadau ar raddfa fach yn ei defnyddio. Ond yng Nghaerdydd, mae gennym filoedd o dai newydd yn cael eu hadeiladu, oherwydd y boblogaeth sy'n cynyddu yng Nghaerdydd, a llawer ohonynt yn fy etholaeth yng Ngogledd Caerdydd, ac wrth siarad â datblygwyr tai preifat, ni fydd yr un ohonynt yn cynnwys y tai gweithredol hyn yn y datblygiadau. Felly, credaf fod hynny'n anffodus tu hwnt, a gwn fod adolygiad ar y gweill o'r rheoliadau adeiladu, felly rwy'n gobeithio y bydd y rheoliadau adeiladu'n sicrhau rhywbeth a fydd yn galluogi adeiladwyr i symud ymlaen yn y modd hwn. [Torri ar draws.] Iawn, yn bendant.
Diolch i chi am gymryd yr ymyriad, Julie. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi y dylid defnyddio'r system gynllunio i orfodi datblygwyr i roi mwy o fecanweithiau ynni effeithlon ar waith a chartrefi ecogyfeillgar, ac yn arbennig mewn ardaloedd gwledig. A ydych yn cytuno â mi y dylai Llywodraeth Cymru fod yn llawer mwy rhagweithiol o bosibl, a rhoi canllawiau i awdurdodau cynllunio roi caniatâd, mewn ardaloedd na fyddai'n cael y caniatâd hwnnw, os yw'r tŷ'n bodloni'r safonau ecogyfeillgar hynny?
Yn yr hyn yr oeddwn yn ei ddweud yma, nid oeddwn yn cyfeirio at yr amodau cynllunio mewn gwirionedd. Roeddwn yn meddwl mwy am y rheoliadau adeiladu ar gyfer y datblygiadau ar raddfa fawr sy'n digwydd. Yn sicr, mewn ardaloedd gwledig, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn fod gennym y safonau uchaf fel rydych wedi'i grybwyll. Ond o ran ardaloedd sensitif, rhaid i unrhyw ddatblygiad gael ei ystyried yn ôl y sefyllfa unigol. Ond rwy'n teimlo bod cyfarfod â'r datblygwyr ar gyfer—wyddoch chi, mae miloedd o gartrefi'n cael eu hadeiladu ac nid ydym yn mabwysiadu'r ffordd newydd hon o weithio.
Mae cyngor Caerdydd mewn gwirionedd yn gallu bwrw ymlaen â rhai datblygiadau tai goddefol bach a adeiladir yn rhan o'u datblygiadau tai cyngor newydd, yn ffodus. Ond mae'n debyg fy mod am orffen ar y ffaith bod angen inni gael effaith enfawr yn y maes hwn a allai wneud gwahaniaeth go iawn er mwyn mynd i'r afael â newid hinsawdd. A rhaid imi ddweud—dof i ben drwy ddweud—fy mod wedi fy nghalonogi'n fawr gan yr hyn a glywais o'r gynhadledd Lafur yn Lerpwl, ac am y symudiad mawr yno tuag at ynni gwyrdd.
Mae'n bleser gennyf gymryd rhan yn y ddadl hon, a agorwyd gan Gadeirydd y pwyllgor yn ei ffordd gadarn ac adeiladol feirniadol arferol. Mae'n dda gweld y gall y pwyllgorau hyn, sy'n gweithredu drwy gonsensws, fod yn gadarn yn eu casgliadau serch hynny. Rwy'n dod i gasgliad ychydig yn wahanol ynghylch rhai o'i sylwadau beirniadol am y Llywodraeth yn methu cyrraedd ei thargedau. Ni allwn fod yn hapusach ei bod wedi methu cyrraedd ei thargedau ar gyfer lleihau allyriadau carbon, oherwydd ni ellir cyflawni y rheini heb y gost fwyaf andwyol i'r trethdalwyr a defnyddwyr trydan. Ni ellir tanbrisio'r datgymalu economaidd a greodd y polisi hwn dros y degawdau diwethaf. Arferem allforio nwyddau a weithgynhyrchwyd o lawer o ddiwydiannau—yn awr rydym wedi allforio'r diwydiannau hynny eu hunain i rannau eraill o'r byd er mwyn osgoi'r costau cynhyrchu uchel y mae'r polisi hwn wedi'u gorfodi arnom.
Gallaf groesawu rhai rhannau o'r adroddiad ar seiliau eraill er ei fod yn ymwneud â lliniaru effeithiau newid hinsawdd. Rwy'n cymeradwyo'n frwd yr argymhellion i blannu mwy o goed. Plannais 36 o goed fy hun yr wythnos diwethaf yn fy ngardd. Credaf y dylai pawb wneud yr un fath cyn belled ag y gallant. Ac yn gwbl sicr rwy'n cymeradwyo casgliadau'r adroddiad mewn perthynas â gwella'r stoc dai. Mae hynny'n hanfodol bwysig, ac rwy'n derbyn y pwyntiau a wnaeth Julie Morgan yn awr yn ei haraith ddiddorol iawn.
Ond rwy'n anghytuno â Julie ynglŷn ag un peth a ddywedodd, pan gyfeiriodd at y bwystfil o'r dwyrain a'r haf poeth a fwynhasom fel adlewyrchiad o newid yn yr hinsawdd. Wel, wrth gwrs, mae'r hinsawdd bob amser yn newid i ryw raddau, ond mae i ba raddau y gallwn ddod i gasgliadau ei bod yn newid yn y ffordd roedd hi'n ei gasglu—yn awgrymu, yn hytrach—yn ei haraith yn fater arall yn llwyr. Cofiaf haf 1976 yn dda iawn, er i mi ei golli gan imi dreulio'r rhan fwyaf ohono yng Nghaliffornia, ac rwyf wedi bod yn aros am un arall fel hwnnw ers 42 o flynyddoedd. Felly, mae'r pethau hyn yn digwydd o bryd i'w gilydd. Nid oes unrhyw dystiolaeth gadarn fod digwyddiadau tywydd eithafol yn fwy cyffredin heddiw nag y buont ar unrhyw adeg yn ein hoes. Yn aml caf fy ngalw'n wadwr newid hinsawdd, ond nid wyf yn gwadu newid hinsawdd o gwbl oherwydd rwy'n cydnabod bod newid hinsawdd yn elfen gyson. Mae newid hinsawdd yn gyffredin ac yn anrhagweladwy, ac yn sicr yn annaroganadwy mewn ffyrdd, ac yn aml mewn gwahanol ffyrdd mewn gwahanol rannau o'r byd. Mae bob amser wedi gwneud hynny a bob amser yn mynd i wneud hynny. Y cwestiwn sy'n codi yw a yw hynny'n achos pryder. Yn sicr, nid oes modd cyfiawnhau, yn ôl unrhyw ymchwil ganfyddadwy y gwn amdani, y math o bryder y mae hyrwyddwyr mwy eithafol y polisïau newid hinsawdd hyn yn ei ddangos.
System gred yw hi mewn gwirionedd ac mae angen ei gwerthuso fel—[Torri ar draws.] Fe ildiaf.
Yr hyn nad wyf yn ei ddeall, pan fyddwch yn dweud nad ydych yn gwadu newid hinsawdd, yw ein bod yn gwybod bod dwywaith cymaint o garbon yn yr atmosffer yn awr nag a oedd cyn y lefelau cyn-ddiwydiannol, ac mae'n rhaid ichi fynd yn ôl lawer o filiynau o flynyddoedd cyn bod digon o weithgaredd folcanig, mae'n debyg, i fod wedi cyrraedd lefel debyg o garbon. Rydym yn gwybod hynny. Mae bron yr holl garbon ychwanegol hwnnw wedi'i greu gan bobl, ac oni bai fod ei effeithiau'n cael eu lliniaru, mae'n debyg y bydd y tymheredd yn parhau i godi. Hynny yw, dyna'r darlun mawr, ac nid wyf yn deall sut y gallwch danseilio hwnnw.
Wel, nid oes unrhyw gysylltiad llinellol rhwng lefelau cynyddol o garbon deuocsid yn yr aer a chofnodion tymheredd. Ceir pendilio, a hyd yn oed os edrychwch chi ar y llinell atchwel linellol yn y graffiau ar y data tymheredd sydd gennym, sydd ei hun yn anghyflawn mewn llawer o ffyrdd, rydych yn dal i fethu profi'r honiad rydych chi newydd ei wneud.
Dyna'r cwestiwn allweddol yma, wrth gwrs: faint y gellir disgwyl i garbon deuocsid atmosfferig cynyddol gynhesu'r ddaear. Ac mae hwn yn faes ansicr iawn mewn gwyddoniaeth, nid yn lleiaf oherwydd bod gan gymylau rôl bwysig i'w chwarae, ac am nad ydym yn deall gwyddoniaeth cymylau yn llwyr mewn gwirionedd. Yn wir, tan yn ddiweddar, barn y mwyafrif ymhlith gwyddonwyr hinsawdd oedd bod cymylau'n chwyddo'r effaith tŷ gwydr sylfaenol yn fawr, ond mae lleiafrif sylweddol bellach, gan gynnwys rhai o'r gwyddonwyr hinsawdd mwyaf blaenllaw, yn anghytuno'n gryf â'r casgliad hwnnw.
Dros filenia, mae tymheredd y ddaear wedi amrywio llawer iawn, ymhell cyn dyfodiad tanwyddau ffosil. Cawsom gyfnod cynnes yn ystod y canoloesoedd, pan gredir bod y tymheredd o leiaf cyn gynhesed, os nad yn gynhesach na'r hyn ydyw heddiw, a 300 i 400 mlynedd yn ôl cawsom oes yr iâ fechan fel y'i gelwir, pan arferai'r afon Tafwys rewi drosti a phan gynhaliwyd ffeiriau rew arni. Ac yn ddi-os, yn y cyfnod ers y 1700au, mae'r Ddaear wedi bod yn cynhesu.
Fe orffennaf gyda'r ystyriaeth hon. Yn fy mhapur ystadegau yn Aberystwyth ar gyfer fy ngradd gyntaf, roedd yna gwestiwn a oedd yn dweud, 'Tuedd yw tuedd yw tuedd. Ond y cwestiwn yw, a all blygu? A fydd yn newid ei chwrs trwy ryw rym nas rhagwelwyd ac yn dod i ben cyn pryd? Trafodwch.' Ac rydym yn dal i'w drafod heddiw, ond yng nghyd-destun newid hinsawdd erbyn hyn. Felly, rwy'n llongyfarch y Llywodraeth ar fethu cyrraedd ei thargedau i gyd mewn modd mor gynhwysfawr, ac rwy'n gobeithio y byddant yn dal ati i wneud hynny.
Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig am eu hadroddiad. Newid hinsawdd yw'r bygythiad mwyaf sy'n wynebu ein planed, ac mae'r rhai sy'n gwadu ei effaith neu ein rôl yn ei greu wedi eu halltudio i'r cyrion, diolch byth, ynghyd ag eraill sy'n credu mewn cynllwynion gwallgof, megis y rhai sy'n credu bod y ddaear yn wastad neu'r rhai sy'n credu mai stori ffug oedd glanio ar y lleuad. Mae newid hinsawdd yn real. Mae'n berygl clir a phresennol, a rhaid inni wneud popeth a allwn i liniaru ei effaith ar y ddynoliaeth.
Ychydig o dan dair blynedd yn ôl, cytunodd 195 o aelodau Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd i gyfyngu ar y cynnydd yn y tymheredd i 1.5 gradd uwchlaw lefelau cyn-ddiwydiannol. Yr wythnos hon, clywsom ei bod eisoes yn rhy hwyr i lawer o ddinasoedd yn Ewrop a bod y trothwy hwnnw eisoes wedi'i groesi. Mewn gwirionedd, mae pob dinas fawr yn Ewrop yn cynhesu. Yn nes at adref, clywsom fod yr A487 yn Niwgwl dan fygythiad a gallai ddiflannu ymhen 20 mlynedd oherwydd newid hinsawdd. Mae cyngor Sir Benfro yn gorfod edrych ar lwybrau amgen.
Gosododd Llywodraeth Cymru dargedau uchelgeisiol ar gyfer lliniaru effeithiau newid hinsawdd drwy leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, ond yn anffodus mae'n ymddangos na fydd y targedau hyn yn cael eu cyrraedd. Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am dynnu sylw at y ffaith y dylai rhesymau'r Llywodraeth dros fethu cyrraedd y targedau fod wedi'u cynnwys yn y polisïau o'r cychwyn cyntaf, ac rwy'n croesawu eu pedwerydd argymhelliad, a fydd yn sicrhau na fydd polisïau yn y dyfodol mor annoeth. Mae'r pwyllgor yn tynnu sylw'n briodol at y rôl y mae coedwigaeth a choetiroedd yn ei chwarae yn lliniaru effeithiau newid hinsawdd, ac maent yn gywir i gwestiynu targedau plannu Llywodraeth Cymru. Os ydym yn gadael yr UE, gall fod cyfle i ail-lunio ein polisïau coedwigaeth ac amaethyddiaeth i ystyried newid hinsawdd. Gallai'r polisi amaethyddol cyffredin ganolbwyntio wedyn, ar gyfer y dyfodol, ar drefniadau rheoli tir sy'n annog defnydd o ddalfeydd carbon a rheoli llifogydd.
Ar drafnidiaeth, mae'r pwyllgor wedi tynnu sylw at y diffyg cynnydd a wnaed ar newid moddol. Prin yw'r dystiolaeth fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'r newid i gerbydau trydan. Mae cyngor Caerffili newydd ddatgelu cynlluniau i sicrhau bod yr holl drafnidiaeth gyhoeddus yn rhedeg ar drydan ac mae'n bwriadu cyflwyno nifer fwy o bwyntiau gwefru cerbydau trydan. Dyma'r math o weithgarwch y dylai Llywodraeth Cymru ei hyrwyddo a sicrhau ei fod yn cael ei ailadrodd ledled Cymru. Yn Aberdeen, defnyddir ynni dros ben o ynni gwynt a solar i greu hydrogen, sy'n cael ei ddefnyddio i redeg fflyd o fysiau. Mae angen i Lywodraeth Cymru osod esiampl yn awr a thynnu sylw at ddewisiadau amgen yn lle petrol a diesel.
Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor unwaith eto am eu hadroddiad ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu eu hargymhellion. Diolch yn fawr.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths?
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu adroddiad y pwyllgor, sy'n cydnabod pwysigrwydd lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, a diolch i'r holl aelodau dan gadeiryddiaeth Mike Hedges. Rwy'n gallu derbyn pob un ond un o argymhellion y pwyllgor. Fel y nododd Dai Lloyd, cafodd un ohonynt ei dderbyn mewn egwyddor. Ond rwy'n falch iawn o ddweud ein bod eisoes yn gwneud cynnydd ar y rhan fwyaf ohonynt.
Yn gynharach y mis hwn roeddwn yn bresennol mewn uwchgynhadledd fyd-eang ar weithgarwch hinsawdd yn San Francisco a ddaeth ag arweinwyr a phobl at ei gilydd o bob rhan o'r byd i fynd i'r afael â'r broblem ryngwladol hon, ac i godi uchelgais i'r lefel nesaf. Drwy ein targedau, ein cyllidebau carbon a'n polisi, rydym yn gosod rhan Cymru o'r ateb. Roedd yr arwyddion mewn perthynas â'n tywydd yn amlwg iawn tra oeddwn yn yr uwchgynhadledd. Soniodd Julie Morgan am y gaeaf hir, gwlyb, ac oer iawn a gawsom eleni, wedi'i ddilyn gan y tywydd poeth, ac roedd yn dangos anwadalrwydd ein tywydd. Ni allodd y ddirprwyaeth o Wlad Groeg ddod oherwydd y llifogydd yr oeddent yn eu cael yn y wlad honno. Er ein bod yn San Francisco, roedd arfordir dwyreiniol America yn cael ei daro gan stormydd nad ydynt wedi gweld eu tebyg ers sawl degawd, ac wrth siarad â chymheiriaid yng Nghanada, roeddent hwythau hefyd wedi cael gaeafau tebyg iawn i ni, ond ar lefel fwy dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
Ni waeth beth y mae Neil Hamilton yn ei draethu, mae'r dystiolaeth wyddonol yn gwbl glir: mae newid hinsawdd yn digwydd, ac mae'n debygol mai allyriadau nwyon tŷ gwydr yw'r achos pennaf. Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn paratoi Cymru i fod yn economi carbon isel sy'n barod i addasu i effeithiau newid hinsawdd. Mae'n nodi llwybr datgarboneiddio clir ar gyfer Cymru yng nghyd-destun rhwymedigaethau presennol y DU ac yn rhyngwladol. Mae'n cynnwys targed uchelgeisiol i leihau allyriadau o leiaf 80 y cant erbyn 2050 beth bynnag am Brexit ac unrhyw ddylanwadau allanol eraill. Ar hyn o bryd rydym yn datblygu'r rheoliadau ategol fel sy'n ofynnol o dan Ddeddf yr amgylchedd.
Fodd bynnag, rhaid ystyried ymateb i fygythiad a realiti newid hinsawdd nid yn unig fel gofyniad amgylcheddol, ond hefyd fel cyfle i addasu ein heconomi, gan gefnogi mwy o gyfleoedd economaidd i bobl a busnesau yng Nghymru, cefnogi atebion tai a thrafnidiaeth gwell, mwy effeithlon ac iachach. Ym mis Gorffennaf, cytunodd y Cabinet i wneud datgarboneiddio yn faes blaenoriaeth yn 'Ffyniant i Bawb', oherwydd ein bod yn cydnabod ei gyfraniad mawr posibl i ffyniant a lles hirdymor. Soniodd Andrew R.T. Davies am y ffaith fy mod wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen ar ddatgarboneiddio i ddarparu'r fframwaith llywodraethu sydd ei angen arnom i sicrhau cymaint â phosibl o gydweithio. Roeddwn yn credu bod hynny'n bwysig iawn i ddangos ein bod yn gweithio ar y cyd ar draws y Llywodraeth. Gofynasoch a fydd yn goroesi ad-drefnu'r Cabinet. Wel, rwy'n credu bod y ffaith iddo gael ei gynnwys yn 'Ffyniant i Bawb'—cydgyfrifoldeb—yn dangos ei fod yn gadarn iawn.
Cyfeiriodd Mike Hedges at y grŵp hwn hefyd. Yn amlwg, nid oes gennyf yr holl ddulliau at fy nefnydd, ac nid oes gan Lywodraeth Cymru yr holl ddulliau at ei defnydd hithau. Fe gyfeirioch chi at y ffaith bod y dulliau hynny gan Lywodraeth y DU at ei defnydd, ond credaf hefyd ei bod hi'n gwbl hanfodol ein bod yn defnyddio'r holl ddulliau sydd gennym. Credaf hefyd ei bod hi'n bwysig iawn fod swyddogion yn gweld ein bod, fel Gweinidogion, yn hapus iawn i gydweithio ar draws y Llywodraeth. Felly, credaf fod sefydliu'r grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol wedi ein galluogi i symud mewn ffordd lawer cyflymach na'r hyn oedd yn digwydd o'r blaen.
Ystyriodd y Cabinet yr holl dystiolaeth, gan gynnwys cyngor gan ein cynghorwyr statudol annibynnol, Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd. Rydym wedi cytuno ar ein targedau lleihau allyriadau interim a'n dwy gyllideb garbon gyntaf. Er i mi glywed cyfeiriad at y ffaith ein bod wedi methu targedau, rhaid imi ddweud ein bod wedi cyrraedd ein targed blynyddol o 3 y cant yn gyson, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Byddwn yn gofyn i'r Aelodau gymeradwyo'r ffigurau mewn perthynas â'n targedau lleihau allyriadau interim a'n cyllidebau carbon drwy reoliadau tuag at ddiwedd y tymor hwn. Rwyf hefyd wedi lansio ymgynghoriad i edrych ar y camau y mae angen inni eu cymryd ar draws y Llywodraeth os ydym i gyrraedd ein targed 2030, ac mae fy swyddogion wedi cynnal digwyddiadau i ddod â rhanddeiliaid at ei gilydd o wahanol sectorau a gwella'r cydweithio a'r arloesedd y bydd eu hangen arnom os ydym am lwyddo. Sylwaf ar argymhellion 1 i 3, sydd, yn gwbl briodol yn fy marn i, yn pwysleisio pwysigrwydd ymgysylltu â rhanddeiliaid ar draws holl waith y Llywodraeth i sicrhau'r llwyddiant hwnnw, ac rydym wedi rhoi ymgysylltiad â rhanddeiliaid, ac adolygu a chraffu annibynnol ar y blaen yn ein gwaith.
Yn y cyfamser, nid ydym yn sefyll yn llonydd. Rydym yn parhau i ddatblygu ein polisau i ddatgarboneiddio cartrefi, er enghraifft. Rydym wedi sefydlu grŵp cynghori ar ddatgarboneiddio cartrefi yng Nghymru i gynghori Gweinidogion ar raglen weithredu i ôl-osod pob eiddo preswyl erbyn 2050 er mwyn bodloni gofynion Deddf yr amgylchedd, a bydd gennym yr adroddiad hwnnw y flwyddyn nesaf. Roeddwn yn meddwl bod Julie Morgan wedi siarad yn huawdl iawn am ddefnyddio rheoliadau adeiladu i symud hyn yn ei flaen, a soniodd Andrew R.T. Davies am gynllunio hefyd. Fel y dywedaf, rhaid inni ddefnyddio pob arf sydd gennym, ac rwy'n sicr yn hapus i wneud hynny.
Rydym yn parhau i weithio gyda'n gilydd a gwneud cynnydd ar alinio cylchoedd cyllidebu carbon a chyllid. Rydym yn mynd i'r afael â datgarboneiddio'r sector cyhoeddus, ac rydym yn buddsoddi mewn seilwaith ar gyfer gwefru cerbydau trydan. Rhaid inni leihau allyriadau—[Torri ar draws.] Nick.
Diolch. Rwy'n cytuno â llawer o'r pwyntiau a wnaeth Caroline Jones am yr angen i newid i gerbydau trydan, ond a gytunwch â mi fod yn rhaid i'r trydan hwnnw gael ei wneud yn rhywle, ac os ydym yn symud oddi wrth ddiesel a phetrol i wefru trydan, bydd y gwefru'n dod o danwydd ffosil ac mewn gwirionedd, gallai fod yn llai effeithlon na pheiriannau petrol modern yn y tymor hir? Felly, mae angen inni sicrhau bod cynhyrchiant trydan adnewyddadwy lleol ar gael nad yw'n cael ei golli ar hyd grid cenedlaethol sy'n aneffeithlon.
Mae'n bwysig iawn fod hynny gennym, a chyfeiriais at Andrew R.T. Davies yn sôn am gynllunio, er enghraifft. Mae'n fy ngofidio bod cynifer o'n polisïau yn ymladd yn erbyn ei gilydd, os hoffech chi. Mae'n bwysig iawn ein bod yn ceisio gwneud yn siŵr fod yr holl bolisïau'n gweithio tuag at y nod hwnnw, a dyna un maes lle rwy'n bendant wedi tynnu sylw at faterion sy'n codi ac rydym yn bwriadu rhoi sylw i'r rheini.
Mae'n rhaid inni leihau allyriadau, a pharatoi hefyd ar gyfer effeithiau newid hinsawdd ar ein cymunedau, ein ffermwyr a'n busnesau, megis effaith sychder, llifogydd a gaeafau llym, ac yn fuan byddaf yn ymgynghori ar gynllun newydd i addasu i newid hinsawdd. Rwy'n cydnabod bod angen camau mawr ymlaen er mwyn datgarboneiddio ein sector amaethyddol heb amharu ar dwf, yn enwedig yn y cyfnod ansicr hwn cyn Brexit. Ni ellir pwysleisio digon fod rheoli'r tir a'i adnoddau naturiol yn gywir yn allweddol er mwyn diogelu'r amgylchedd a chyflawni ein targedau lleihau allyriadau. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fy mod wedi lansio ymgynghoriad 'Brexit a'n tir' ym mis Gorffennaf, a hoffwn annog pob Aelod i ymateb. Ond rwyf am dawelu meddwl Caroline Jones na fydd gennym y PAC yn y dyfodol; bydd gennym bolisi amaethyddol Cymreig penodol.
Mae adroddiad y pwyllgor hefyd yn gwneud argymhellion cadarnhaol ynghylch plannu coed, a chofiaf David Melding yn ei dweud hi wrthyf—credaf mai fy ymddangosiad cyntaf un gerbron y pwyllgor ar ôl i mi gael y portffolio ydoedd. Fe syrthiais ar fy mai, ac mae'n bwysig iawn fod gennym strategaeth goetir ymarferol a realistig iawn, a gwn fod hynny'n rhywbeth y mae fy nghyd-Aelod, Hannah Blythyn, Gweinidog yr Amgylchedd, yn bwrw ymlaen ag ef.
Credaf fod argymhelliad 8, sef yr argymhelliad a wrthodwyd gennym—credaf fod y targed unigol hwnnw'n annhebygol o fod yn ddefnyddiol wrth weithredu ein polisïau neu gyflawni ein nodau creu coetir, ond rwyf am dawelu meddwl yr Aelodau ei fod yn rhywbeth yr ydym o ddifrif yn ei gylch; gwn ei fod yn brif flaenoriaeth i Weinidog yr Amgylchedd. Lansiwyd y strategaeth goedwigaeth newydd, 'Coetiroedd i Gymru', ar 26 Mehefin, ac mae'n manylu ar sut y bwriadwn gyflawni ei nodau dros yr 50 mlynedd nesaf.
Newid hinsawdd yw un o'r bygythiadau mwyaf a wynebwn, ac nid ydym am beryglu lles cenedlaethau'r dyfodol drwy anwybyddu'r her. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r mater pwysig hwn ac i drawsnewid Cymru yn wlad ffyniannus mewn byd carbon isel. Diolch.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Mike Hedges i ymateb i'r ddadl?
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i Andrew Davies, Dai Lloyd, Julie Morgan, Caroline Jones, Neil Hamilton ac Ysgrifennydd y Cabinet am gymryd rhan yn y ddadl hon? Credaf mai'r hyn a gefais yn fwyaf—sut y gallaf ei egluro—yn fwyaf buddiol oedd nad dadl y pwyllgor yn unig oedd hi; nid y pwyllgor yn cael dadl yn gyhoeddus pan fyddant fel arfer yn ei chael mewn cyfarfod pwyllgor oedd hyn. Ymgysylltwyd â llawer o bobl eraill nad ydynt ar y pwyllgor. Credaf fod hynny'n hynod fuddiol.
Nododd Andrew Davies ei gefnogaeth i adrodd blynyddol a'i gefnogaeth i fonitro cyson, a thynnodd sylw at rywbeth nad ydym yn sôn digon amdano: rydym yma i wneud gwahaniaeth. Rydym yma i wneud gwahaniaeth cadarnhaol, a phan fyddwn yn mynychu cyfarfodydd pwyllgor, dyna rydym yno i'w wneud. Tynnodd Dai Lloyd sylw at goed—maent yn defnyddio carbon deuocsid—gorchudd canopi coed trefol o 20 y cant—. Cyfansoddwyd y pwyllgor newid hinsawdd o bobl sy'n frwd i blannu rhagor o goed, fel y profwyd gennym mewn adroddiad diweddar.
Tynnodd Julie Morgan sylw at newid hinsawdd. Gofynnwch i unrhyw un dros 50 oed, a byddant yn dweud wrthych sut y mae'r tywydd wedi newid er pan oeddent yn blant. Er enghraifft, i siarad am law yn unig, roeddwn wedi arfer â'r glaw mân cyson hwnnw a âi yn ei flaen o fis Medi tan fis Ebrill neu fis Mai. Arferem gael glaw mân cyson; bellach rydym yn cael cawodydd enfawr. Roeddwn bob amser yn gwisgo côt ond byth yn gwlychu. Nawr rwy'n gwisgo côt ac rwy'n gwlychu. Rydym yn gweld newid yn yr hinsawdd. Siaradodd Julie Morgan am Cartrefi Clyd, ac mae'n bwysig iawn o safbwynt newid hinsawdd ond mae'r un mor bwysig, neu efallai hyd yn oed yn fwy pwysig, o safbwynt tlodi. Mae gormod o lawer o fy etholwyr, llawer gormod o bobl ar incwm cyfyngedig, yn byw mewn cartrefi oer a llaith. Os gallwn wella cynhesrwydd y cartrefi hynny, byddem yn lleihau newid hinsawdd, ond byddem hefyd yn gwella bywydau llawer iawn o bobl.
Adeiladau fel gorsafoedd pŵer yw'r cyfeiriad yr ydym yn symud iddo, a chredaf ei fod yn gyfeiriad buddiol inni symud iddo, a thai goddefol—mae hynny'n rhywbeth arall hynod o fuddiol. Yr hyn sydd angen inni ei weld yw gwella technoleg batri. Rwy'n dal i'w gweld ar gyfer storio a batris sy'n defnyddio batris ceir. Rhaid bod ffordd well o'i wneud, ac yn sicr rhaid inni edrych am dechnoleg batri well, a fydd yn ein symud ymlaen at y cam nesaf.
Mae Neil Hamilton hefyd yn gwneud llawer o blannu coed. Hoffwn eich llongyfarch ar blannu 36 o goed yn eich gardd. Nid yw fy ngardd i'n ddigon mawr ar gyfer 36 o goed. [Chwerthin.] Ond gwyddom fod carbon yn ocsideiddio i ffurfio carbon deuocsid, ac rydym yn gwybod bod carbon deuocsid yn nwy tŷ gwydr. Gwyddom y ddwy ffaith honno, felly nid wyf yn siŵr sut y gallwn wadu newid yn yr hinsawdd pan fo'r ddwy ffaith yn bethau nad oes neb yn dymuno dadlau yn eu cylch, a chredaf y bydd dadansoddiad atchweliad sgwariau lleiaf yn dangos cynnydd mewn tymheredd dros y 50 mlynedd diwethaf.
Caroline Jones, croeso i ymuno â newid hinsawdd—â phobl sy'n pryderu am newid hinsawdd. Ac rydych yn iawn, mae'r A487 yn Niwgwl mewn perygl. Mae ffyrdd eraill yn mynd i fod mewn perygl. Rydym hefyd yn gwybod am y rhannau hynny o ogledd Cymru sydd dan fygythiad difrifol. Ac unwaith eto, fe sonioch am bwysigrwydd coetiroedd. Efallai fod hwnnw'n un peth y gall pawb ohonom gytuno yn ei gylch: mae arnom angen mwy o goed.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, am groesawu'r adroddiad. Credaf mai un o'r gwendidau wrth i bobl fel fi godi ar eu traed yw nad ydym yn tynnu sylw at y cynnydd sy'n cael ei wneud mewn gwirionedd. Roedd yr un broblem yn union gennyf fel athro. Byddai rhywun yn cyflwyno rhywbeth i mi, ac yn lle dweud, 'Mae'n dda iawn', buaswn yn dweud, 'Wel, mae hwn yn anghywir ac mae hwnna'n anghywir.' Credaf fod tuedd i ni ac i bwyllgorau wneud yn union yr un peth. Mae yna lawer sy'n dda iawn, ond mae'n fater o, 'Wel, hoffwn gwyno am y pethau hyn.'
Credaf fod y Llywodraeth yn symud i'r cyfeiriad iawn, ac eto rydym yn mynd i orfod addasu'r economi. Hoffwn weld mwy yn cael ei wneud ar ynni yng Nghymru. Gwn fod y morlyn llanw yn hoff brosiect i'r rhai sy'n byw yn ardal Abertawe, ond gellir gwneud llawer o bethau eraill er mwyn cynhyrchu ynni gwyrdd. Os na wnawn hynny, yr hyn sy'n fy mhoeni yw y byddwn yn defnyddio mwy o nwy i gynhyrchu trydan. Wedyn, byddwn yn cwyno wrth Ysgrifennydd y Cabinet, nad oes ganddi unrhyw reolaeth dros hyn, pam nad yw'n mynd i'r afael â hynny.
Mae'r targed blynyddol o 3 y cant wedi cael ei gyrraedd. Cododd Nick Ramsay bwynt pwysig iawn yn fy marn i pan ddywedodd mai'r cyfan a wnawn os ydym ond yn defnyddio trydan a gynhyrchwn o eneraduron nwy yw defnyddio mwy o allyriadau ond nid i'r pwynt lle rydych yn gwefru eich car. Yr hyn sydd ei angen, os ydym yn mynd i gael cerbydau trydan, yw defnyddio trydan adnewyddadwy i wneud hynny. Fel arall, ni fyddwn ar ein hennill ond yn fwy na hynny, byddwn yn waeth ein byd oherwydd mae'n fwy na thebyg fod ceir yn fwy effeithlon—mewn gwirionedd mae ceir yn defnyddio petrol yn fwy effeithlon nag y mae gorsafoedd pŵer yn defnyddio nwy i gynhyrchu trydan a symud y trydan hwnnw ar draws y grid. Felly rwy'n credu ei bod hi'n bwysig inni sylweddoli mai yn y pethau syml—. 'O ie, fe gawn geir trydan, bydd gennym yr holl eneraduron nwy hyn a bydd popeth yn wych', ond nid yw hynny'n wir.
Ond credaf ein bod yn gwneud cynnydd da iawn, a diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb a diolch i bawb a gymerodd ran mewn dadl dda iawn yn fy marn i.
Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.