Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 26 Medi 2018.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu adroddiad y pwyllgor, sy'n cydnabod pwysigrwydd lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, a diolch i'r holl aelodau dan gadeiryddiaeth Mike Hedges. Rwy'n gallu derbyn pob un ond un o argymhellion y pwyllgor. Fel y nododd Dai Lloyd, cafodd un ohonynt ei dderbyn mewn egwyddor. Ond rwy'n falch iawn o ddweud ein bod eisoes yn gwneud cynnydd ar y rhan fwyaf ohonynt.
Yn gynharach y mis hwn roeddwn yn bresennol mewn uwchgynhadledd fyd-eang ar weithgarwch hinsawdd yn San Francisco a ddaeth ag arweinwyr a phobl at ei gilydd o bob rhan o'r byd i fynd i'r afael â'r broblem ryngwladol hon, ac i godi uchelgais i'r lefel nesaf. Drwy ein targedau, ein cyllidebau carbon a'n polisi, rydym yn gosod rhan Cymru o'r ateb. Roedd yr arwyddion mewn perthynas â'n tywydd yn amlwg iawn tra oeddwn yn yr uwchgynhadledd. Soniodd Julie Morgan am y gaeaf hir, gwlyb, ac oer iawn a gawsom eleni, wedi'i ddilyn gan y tywydd poeth, ac roedd yn dangos anwadalrwydd ein tywydd. Ni allodd y ddirprwyaeth o Wlad Groeg ddod oherwydd y llifogydd yr oeddent yn eu cael yn y wlad honno. Er ein bod yn San Francisco, roedd arfordir dwyreiniol America yn cael ei daro gan stormydd nad ydynt wedi gweld eu tebyg ers sawl degawd, ac wrth siarad â chymheiriaid yng Nghanada, roeddent hwythau hefyd wedi cael gaeafau tebyg iawn i ni, ond ar lefel fwy dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
Ni waeth beth y mae Neil Hamilton yn ei draethu, mae'r dystiolaeth wyddonol yn gwbl glir: mae newid hinsawdd yn digwydd, ac mae'n debygol mai allyriadau nwyon tŷ gwydr yw'r achos pennaf. Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn paratoi Cymru i fod yn economi carbon isel sy'n barod i addasu i effeithiau newid hinsawdd. Mae'n nodi llwybr datgarboneiddio clir ar gyfer Cymru yng nghyd-destun rhwymedigaethau presennol y DU ac yn rhyngwladol. Mae'n cynnwys targed uchelgeisiol i leihau allyriadau o leiaf 80 y cant erbyn 2050 beth bynnag am Brexit ac unrhyw ddylanwadau allanol eraill. Ar hyn o bryd rydym yn datblygu'r rheoliadau ategol fel sy'n ofynnol o dan Ddeddf yr amgylchedd.
Fodd bynnag, rhaid ystyried ymateb i fygythiad a realiti newid hinsawdd nid yn unig fel gofyniad amgylcheddol, ond hefyd fel cyfle i addasu ein heconomi, gan gefnogi mwy o gyfleoedd economaidd i bobl a busnesau yng Nghymru, cefnogi atebion tai a thrafnidiaeth gwell, mwy effeithlon ac iachach. Ym mis Gorffennaf, cytunodd y Cabinet i wneud datgarboneiddio yn faes blaenoriaeth yn 'Ffyniant i Bawb', oherwydd ein bod yn cydnabod ei gyfraniad mawr posibl i ffyniant a lles hirdymor. Soniodd Andrew R.T. Davies am y ffaith fy mod wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen ar ddatgarboneiddio i ddarparu'r fframwaith llywodraethu sydd ei angen arnom i sicrhau cymaint â phosibl o gydweithio. Roeddwn yn credu bod hynny'n bwysig iawn i ddangos ein bod yn gweithio ar y cyd ar draws y Llywodraeth. Gofynasoch a fydd yn goroesi ad-drefnu'r Cabinet. Wel, rwy'n credu bod y ffaith iddo gael ei gynnwys yn 'Ffyniant i Bawb'—cydgyfrifoldeb—yn dangos ei fod yn gadarn iawn.
Cyfeiriodd Mike Hedges at y grŵp hwn hefyd. Yn amlwg, nid oes gennyf yr holl ddulliau at fy nefnydd, ac nid oes gan Lywodraeth Cymru yr holl ddulliau at ei defnydd hithau. Fe gyfeirioch chi at y ffaith bod y dulliau hynny gan Lywodraeth y DU at ei defnydd, ond credaf hefyd ei bod hi'n gwbl hanfodol ein bod yn defnyddio'r holl ddulliau sydd gennym. Credaf hefyd ei bod hi'n bwysig iawn fod swyddogion yn gweld ein bod, fel Gweinidogion, yn hapus iawn i gydweithio ar draws y Llywodraeth. Felly, credaf fod sefydliu'r grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol wedi ein galluogi i symud mewn ffordd lawer cyflymach na'r hyn oedd yn digwydd o'r blaen.
Ystyriodd y Cabinet yr holl dystiolaeth, gan gynnwys cyngor gan ein cynghorwyr statudol annibynnol, Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd. Rydym wedi cytuno ar ein targedau lleihau allyriadau interim a'n dwy gyllideb garbon gyntaf. Er i mi glywed cyfeiriad at y ffaith ein bod wedi methu targedau, rhaid imi ddweud ein bod wedi cyrraedd ein targed blynyddol o 3 y cant yn gyson, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Byddwn yn gofyn i'r Aelodau gymeradwyo'r ffigurau mewn perthynas â'n targedau lleihau allyriadau interim a'n cyllidebau carbon drwy reoliadau tuag at ddiwedd y tymor hwn. Rwyf hefyd wedi lansio ymgynghoriad i edrych ar y camau y mae angen inni eu cymryd ar draws y Llywodraeth os ydym i gyrraedd ein targed 2030, ac mae fy swyddogion wedi cynnal digwyddiadau i ddod â rhanddeiliaid at ei gilydd o wahanol sectorau a gwella'r cydweithio a'r arloesedd y bydd eu hangen arnom os ydym am lwyddo. Sylwaf ar argymhellion 1 i 3, sydd, yn gwbl briodol yn fy marn i, yn pwysleisio pwysigrwydd ymgysylltu â rhanddeiliaid ar draws holl waith y Llywodraeth i sicrhau'r llwyddiant hwnnw, ac rydym wedi rhoi ymgysylltiad â rhanddeiliaid, ac adolygu a chraffu annibynnol ar y blaen yn ein gwaith.
Yn y cyfamser, nid ydym yn sefyll yn llonydd. Rydym yn parhau i ddatblygu ein polisau i ddatgarboneiddio cartrefi, er enghraifft. Rydym wedi sefydlu grŵp cynghori ar ddatgarboneiddio cartrefi yng Nghymru i gynghori Gweinidogion ar raglen weithredu i ôl-osod pob eiddo preswyl erbyn 2050 er mwyn bodloni gofynion Deddf yr amgylchedd, a bydd gennym yr adroddiad hwnnw y flwyddyn nesaf. Roeddwn yn meddwl bod Julie Morgan wedi siarad yn huawdl iawn am ddefnyddio rheoliadau adeiladu i symud hyn yn ei flaen, a soniodd Andrew R.T. Davies am gynllunio hefyd. Fel y dywedaf, rhaid inni ddefnyddio pob arf sydd gennym, ac rwy'n sicr yn hapus i wneud hynny.
Rydym yn parhau i weithio gyda'n gilydd a gwneud cynnydd ar alinio cylchoedd cyllidebu carbon a chyllid. Rydym yn mynd i'r afael â datgarboneiddio'r sector cyhoeddus, ac rydym yn buddsoddi mewn seilwaith ar gyfer gwefru cerbydau trydan. Rhaid inni leihau allyriadau—[Torri ar draws.] Nick.