7. Dadl ar Ddeiseb P-05-826 — Mae Sir Benfro yn dweud NA!! i gau adran damweiniau ac achosion brys Llwynhelyg!

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:02 pm ar 26 Medi 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:02, 26 Medi 2018

Mae'n braf gallu siarad fel aelod o'r Pwyllgor Deisebau a llefarydd Plaid Cymru ar iechyd. Rydw i'n mynd i siarad am yr egwyddorion o israddio a cholli gwasanaethau brys.

Mae'r ddeiseb yma, wrth gwrs, rydym ni'n ei thrafod heddiw yn adlewyrchiad eto fyth o'r consýrn sy'n codi'n gyson pan fyddwn yn sôn am ad-drefnu gwasanaethau ysbytai, ac yn benodol yr argymhellion sydd wedi bod yn achosi pryderon yn y rhan yma o Gymru bellach ers blynyddoedd. Mae pryderon yn cael eu hanwybyddu yn aml gan wleidyddion sydd yn dweud, 'O, mae'n rhaid inni fynd drwy broses o newid. Mae'n rhaid derbyn hyn.' Efallai y clywn ni gyfeiriadau rhethregol heddiw at yr adolygiad seneddol o ofal iechyd yng Nghymru yn y dyfodol, ond cyn ichi fynd i chwilio'ch hun, mi allaf i addo nad oes yna gyfeiriad yn yr adroddiad hwnnw at unrhyw beth tebyg i'r ad-drefnu sydd yn cael ei argymell yma ar gyfer ardal Hywel Dda. Credwch chi fi, mae'n bwysig ein bod ni yn gwrando ar y deisebwyr a'r protestwyr, achos rydw i'n meddwl bod hawl gan bobl i dderbyn gwasanaethau hanfodol o fewn pellter rhesymol i le maen nhw'n byw, ac mae adran frys ysbyty yn hanfodol, siawns.

Rydw i wedi galw yn y gorffennol am ddatblygu fframweithiau o fewn y gwasanaeth iechyd yn nodi pa wasanaethau a ddylai gael eu darparu ar ba lefel, hynny ydy, rhai gwasanaethau o fewn eich cymunedau neu yn agos iawn at eich cymunedau—eich meddyg teulu chi, fferyllfeydd ac yn y blaen. Mae angen nodi bod rhai gwasanaethau arbenigol mae'n rhaid inni dderbyn bod yn rhaid teithio ymhellach i'w cael nhw, ac rydw i'n cynnwys yn hynny—rydw i wedi cael fy argyhoeddi—gwasanaethau brys trawma arbenigol. Mi wnaf i nodi yn fan hyn ei bod hi'n adlewyrchiad gwael iawn ar benderfyniadau hanesyddol fod cleifion yn y gogledd yn gorfod mynd i Stoke am y gwasanaethau trawma yma yn hytrach na bod buddsoddiad wedi cael ei wneud mewn datblygu gwasanaeth o'r math yna a allai gwasanaethu'r gogledd yng Nghymru. Nid ar chwarae bach, wrth gwrs, mae datblygu'r gwasanaethau hynny rŵan.

Ond, o edrych ar wasanaethau brys yn gyffredinol, mi edrychais i ar adroddiad diweddar a gafodd ei gyhoeddi yn Health Services and Delivery Research—astudiaeth a oedd yn cymharu allbynnau rhwng ardaloedd sydd wedi gweld gwasanaethau A&E yn cael eu canoli ac ardaloedd eraill. Nid yw'r astudiaeth yna ddim yn gweld bod yna fudd wedi dod o ganoli. Newyddion da i chi: wrth ganoli, nid oedd cynnydd mawr yn cael ei weld mewn niferoedd marwolaethau, ond mi oedd hynny oherwydd bod camau lliniarol wedi cael eu cymryd. Oedd, mi oedd yna gynnydd yn y risg o farwolaethau o ganoli ond, yn gyffredinol, nid oedd pethau ddim llawer gwaeth ar ôl canoli, os ydych chi'n cymryd cysur o hynny. Ond, mi oedd yna dystiolaeth o bwysau ar y gwasanaeth ambiwlans o ganlyniad i ganoli, ac mae'n werth nodi hefyd fod yr ardaloedd yr edrychwyd arnyn nhw fel rhan o'r astudiaeth yna yn rhai llai gwledig na'r rhan arbennig yma o orllewin Cymru.

Rydw i'n meddwl hefyd y gallai fod yn ddefnyddiol edrych ar ganfyddiadau astudiaeth Prifysgol Sheffield, yn ôl o 2007, a wnaeth astudio 10,500 o achosion brys a chanfod bod 10 km yn rhagor mewn pellter o adran frys yn cyfateb i 1 y cant o gynnydd mewn marwolaethau. Ac mi oedd y ffigwr yn waeth, wedyn, ar gyfer pobl a oedd â chyflyrau anadlu neu gyflyrau anadlol. Felly, mae pellter o adran frys yn gwneud gwahaniaeth i allbynnau.

Felly, mae yna ffactorau risg ymhlith y newidiadau arfaethedig, ac mae gan bobl, felly, yr hawl i fod â chonsýrn. Ac, wrth gwrs, nid oes gennym ni ddim mo'r manylion rydym ni eu heisiau ar hyn o bryd i wneud gwerthusiad llawn o'r hyn sydd yn cael ei gynnig. Nid oes argymhelliad am ofal allan o oriau; dim cynnydd sylweddol mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol; dim cynlluniau i fuddsoddi yn y gwasanaeth ambiwlans, ac yn y blaen. Yn hytrach, beth sydd gennym ni yw abwyd o ysbyty newydd sbon, ac rydw i'n addo i chi, o bawb rydw i wedi siarad efo nhw, maen nhw'n amheus iawn y caiff hynny ei ddelifro: £350 miliwn, o bosib, o fuddsoddiad—yr holl wariant cyfalaf mewn blwyddyn yng Nghymru. Beth rydym ni angen ei wneud, wrth gwrs, ydy gwella'r elfennau hynny o'r gwasanaeth sy'n mynd i wneud gwahaniaeth go iawn i bobl: cryfhau gofal sylfaenol, buddsoddi mwy mewn hyfforddiant meddygol, taclo problemau recriwtio ac ati, a chadw staff yn y ffordd yna.

I gloi, nid yw tynnu gwasanaethau hanfodol o ardaloedd helaeth o Gymru am wella ein gwasanaeth iechyd ni, mae gen i ofn, ac rydw i'n ddiolchgar iawn i'r deisebwyr am sicrhau un o'r niferoedd uchaf erioed o enwau ar ddeiseb i gael ei hystyried gan ein pwyllgor ni, achos rydych chi'n cynrychioli nid yn unig y bobl yn ardal Hywel Dda, ond pobl ledled Cymru sy'n trysori eu gwasanaeth iechyd lleol nhw.