Part of the debate – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 2 Hydref 2018.
Rwyf hefyd yn bwriadu ymgynghori, Llywydd, er mwyn cyflwyno mesurau cyn gynted â phosib i eithrio'r rhai sy'n gadael gofal yng Nghymru rhag talu'r dreth gyngor tan y byddant yn 25 oed. Mae llawer o awdurdodau lleol eisoes yn gwneud hyn, gan ddefnyddio pwerau disgresiwn. Credaf y dylai hyn fod yn berthnasol ledled Cymru ac rwy'n bwriadu deddfu'n unol â hynny.
Nawr, bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod y fframwaith cyllidol y cytunwyd arno ym mis Rhagfyr 2016 yn cynnwys ymrwymiad y dylai lluosydd o 105 y cant gael ei gymhwyso i holl symiau canlyniadol Barnett. Mae hynny wedi arwain eisoes at £90 miliwn yn ychwanegol ar gyfer Cymru, ac mae £71 miliwn o hynny yn cael ei adlewyrchu yn y gyllideb hon.
Yn olaf yn yr adran hon sy'n ymdrin â sut y caiff refeniw ei godi ar gyfer y gyllideb, trof at y defnydd o gronfeydd wrth gefn. Eglurais wrth y Cynulliad y llynedd fy mod i'n bwriadu gwneud y defnydd mwyaf posibl o gronfa wrth gefn newydd Cymru. Diolch i gydweithrediad agos fy nghyd-Weinidogion, roeddwn yn gallu trosglwyddo'r gronfa wrth gefn honno i'r flwyddyn ariannol gyfredol yn agos iawn at ei huchafswm o £350 miliwn. O ganlyniad, rwyf wedi gallu cynyddu'r swm arfaethedig y bwriedir ei ddefnyddio o'r gronfa wrth gefn yn 2019-20 o £75 miliwn, fel y bwriadwyd yn wreiddiol, i £125 miliwn, gan ryddhau £50 miliwn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru.
Llywydd, mae diogelu gwasanaethau rheng flaen rhag effeithiau gwaethaf cyni yn parhau i fod wrth wraidd cyllideb y Llywodraeth Lafur hon, ac mae hynny'n cynnwys, wrth gwrs, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd Prif Weinidog y DU gyllid ychwanegol ar gyfer y GIG yn Lloegr i nodi dengmlwyddiant a thrigain y gwasanaeth iechyd. Honnodd y pennawd y byddai arian ychwanegol sylweddol ar gyfer Cymru. Ond, fel yr ydym wedi dysgu, roedd angen edrych y tu hwnt i'r penawdau hynny bob amser. Nid ydym yn gwybod eto, Llywydd—mae'r Trysorlys yn dal i fethu â dweud wrthym ni—yn union faint o arian ychwanegol a gaiff Cymru.
Ond dyma'r hyn yr ydym yn ei wybod: bod bron hanner yr arian eisoes wedi'i wario gan Lywodraeth y DU cyn iddo hyd yn oed gyrraedd ein ffiniau. Mae'n rhaid i'r arian hwnnw ariannu dyfarniadau cyflog a newidiadau pensiwn—penderfyniadau a wneir yn San Steffan ac nid yng Nghymru. Serch hynny, yn ogystal â'r cynnydd a gynlluniwyd eisoes, mae'r gyllideb ddrafft hon bellach yn darparu mwy na £0.5 biliwn yn ychwanegol ar gyfer y system iechyd a gofal cymdeithasol, i ddarparu gwasanaethau ar gyfer dinasyddion Cymru ac i gefnogi ein cynllun hirdymor ar gyfer Cymru iachach.
Llywydd, mae'r Llywodraeth hon yn cydnabod y pwysau y mae awdurdodau lleol yn ei wynebu, ac rydym yn parhau i wneud popeth y gallwn ni i'w gwarchod rhag effeithiau gwaethaf cyni. Pan gytunwyd ar y gyllideb derfynol a basiwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol hwn ym mis Ionawr eleni, roedd awdurdodau lleol yn wynebu gostyngiad ariannol o 1 y cant mewn cyllid yn y grant cynnal refeniw ar gyfer y flwyddyn nesaf—sy'n cyfateb i ostyngiad o £43 miliwn. Rydym ni wedi gweithio'n galed wrth baratoi'r gyllideb hon i leihau'r bwlch hwnnw gan fwy na £28 miliwn, ac felly mae'n llai na £15 miliwn bellach yn 2019-20.
Ar yr un pryd, rydym ni wedi gallu adfer arian i nifer o grantiau ac wedi gwneud cyfres o benderfyniadau ariannu eraill y bydd llywodraeth leol yn elwa arnynt, sydd gyda'i gilydd yn £84 miliwn. Mae hyn i'w weld yn y £13.4 miliwn y bydd y gyllideb hon yn ei adfer i'r grant ymyrraeth gynnar, atal a chymorth. Rydym ni hefyd wedi gwrando'n ofalus ar randdeiliaid ynghylch dyfodol y grant a gallaf gadarnhau y prynhawn yma y bydd yn ymddangos yn y gyllideb hon fel dau grant, gan wahanu'r elfennau sy'n gysylltiedig â thai oddi wrth y gweddill. Bydd manylion pellach am y trefniadau newydd hyn ar gael i Aelodau yfory.
Llywydd, mae mynd i'r afael â thlodi plant yn ymrwymiad allweddol i'r Llywodraeth hon. Mae'r gyllideb hon yn cynnwys pecyn o £12.5 miliwn i fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys £2 miliwn yn ychwanegol i ehangu'r gronfa cymorth dewisol, sy'n cael anhawster i ateb y galw, i raddau helaeth o ganlyniad i raglen lem Llywodraeth y DU o doriadau lles. Dyna'r arian sydd yn mynd yn uniongyrchol at y teuluoedd tlotaf yng Nghymru. Mae hefyd yn cynnwys mwy na £3 miliwn i gynnal a dyblu y grant cynllun mynediad datblygiad disgybl i helpu rhieni i dalu am gostau bob dydd sy'n gysylltiedig ag anfon eu plant i'r ysgol. Yma yng Nghymru, byddwn yn darparu £7 miliwn yn ychwanegol wrth i ni ymdrechu i ddarparu prydau ysgol am ddim i filoedd mwy o blant.
Llywydd, trof yn awr at wariant cyfalaf. Mae'r gyllideb ddrafft sydd gerbron yr Aelodau heddiw yn cynnwys ychwanegiadau refeniw a chyfalaf i bob terfyn gwariant adrannol ar gyfer 2019-20, gan gynnwys dyraniadau ychwanegol i'r rhai a gyhoeddwyd ym mis Mai eleni ochr yn ochr â'r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru. Rwyf nawr yn nodi'r terfynau gwariant adrannol ar draws Llywodraeth Cymru.
O ganlyniad i gyllideb ddrafft heddiw, mae cyfanswm prif grŵp gwariant iechyd a gwasanaethau cymdeithasol bellach yn £8.2 biliwn, sef cynnydd o £330 miliwn ar gynlluniau a gyhoeddwyd yn flaenorol, gan gynnwys £287 miliwn ychwanegol ar gyfer y system iechyd a gofal cymdeithasol, a £41 miliwn ychwanegol mewn cyfalaf i gefnogi gwelliannau yn y GIG a moderneiddio'r fflyd ambiwlans.
Cyfanswm prif grŵp gwariant llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus ar hyn o bryd yw £5.4 biliwn, cynnydd o £123 miliwn, gan gynnwys £35 miliwn yn ychwanegol mewn cyfalaf i gefnogi'r grant tai cymdeithasol, a £20 miliwn ar gyfer rhaglen atgyweirio ffyrdd awdurdodau lleol yn rhan o £60 miliwn dros dair blynedd i drwsio'r difrod sy'n gysylltiedig â gaeaf garw a haf poeth eleni.
Cyfanswm prif grŵp gwariant yr economi a thrafnidiaeth ar hyn o bryd yw £1.3 biliwn, cynnydd o £129 miliwn, gan gynnwys cyllid cyfalaf o £26 miliwn y flwyddyn nesaf yn rhan o becyn £78 miliwn ar gyfer y gronfa drafnidiaeth leol, a £10 miliwn y flwyddyn nesaf ar gyfer rhaglen y Cymoedd Technoleg.
Cyfanswm prif grŵp gwariant addysg yw £1.9 biliwn, cynnydd o £68 miliwn, gan gynnwys mwy na £30 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer ysgolion a dyblu'r buddsoddiad, fel y dywedais, yng nghronfa mynediad y grant amddifadedd disgyblion.
Cyfanswm y prif grŵp gwariant ynni, cynllunio a materion gwledig yw £364 miliwn, cynnydd o £34 miliwn, gan gynnwys £17 miliwn yn ychwanegol yn ein rhaglen gwastraff, drwy gyfuniad o arian refeniw a chyfalaf, a bydd yn caniatáu i Ysgrifennydd y Cabinet barhau i allu cyllido awdurdodau parciau cenedlaethol ar draws Cymru.
Llywydd, wrth inni symud drwy'r cyfnod ansicr hwn ac wrth i anawsterau ariannol ddyfnhau, mae'r Llywodraeth hon yn parhau i fod yn ymrwymedig i wneud popeth o fewn ein gallu i helpu ein gwasanaethau cyhoeddus i ateb yr heriau gwirioneddol y maen nhw yn eu hwynebu heddiw. Cyllideb bara menyn y w hon, yn canolbwyntio ar gynnal gwead bywyd Cymru a defnyddio pob ffynhonnell o refeniw a chyfalaf sydd ar gael inni er mwyn gwneud hynny. Fe'i cymeradwyaf i'r Aelodau y prynhawn yma.