3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Cyllideb Ddrafft 2019-20

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 2 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 2:59, 2 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad heddiw, gan gyflwyno ei gyllideb bara menyn? Efallai fod labeli mwy sylfaenol yn arwydd o bethau i ddod. Os bydd yn llwyddiannus yn ei gais am y brif swydd yn ddiweddarach eleni, efallai y gallwn ni ddisgwyl cyllideb cwrw a brechdanau yn y dyfodol. Mae'r anecdotau yn parhau.