Part of the debate – Senedd Cymru am 3:34 pm ar 2 Hydref 2018.
Rwy'n credu bod hon yn gyllideb fedrus iawn, dan amgylchiadau anodd iawn. Mae'n rhaid inni i gyd nodi'r £800 miliwn a allai fod wedi bod ar gael pe byddem wedi llwyddo i gynnal y swm o arian y gellid bod wedi ei ddisgwyl yn unol â chwyddiant, pe na fyddai Llywodraeth y DU yn parhau i gadw at y rhaglen gyni hon, sy'n achosi cymaint o boen i gynifer o'n dinasyddion. Rwy'n credu bod y rheini ohonom ar y meinciau hyn yn arbennig o ofidus am y cynnydd mewn tlodi plant sydd wedi digwydd ers 2010. Felly, rwy'n croesawu yn arbennig y swm o arian yr ydych chi wedi'i neilltuo i alluogi mwy o blant i fanteisio ar brydau ysgol am ddim. Mae'r £7 miliwn ar draws Cymru yn bwysig iawn a hefyd dros £3 miliwn ychwanegol i gynnal y grant amddifadedd disgyblion i alluogi teuluoedd sy'n ei chael yn anodd parhau i alluogi eu plant i gael addysg yn yr un modd â phawb arall.
Nid wyf yn synnu, ar feinciau'r Ceidwadwyr, fod Nick Ramsay yn cwestiynu dilysrwydd dileu statws elusennol ysgolion ac ysbytai preifat. Ond credaf ei bod yn bwysig iawn bod gennym chwarae teg, yn arbennig gan y cynhelir hyfforddiant athrawon, nyrsys a meddygon gan y wladwriaeth ar ran ein dinasyddion, ac mae llawer ohonyn nhw wedyn yn cael eu potsio gan yr ysgolion a'r ysbytai preifat sydd ddim yn gwneud unrhyw gyfraniad at hyfforddiant yr unigolion amhrisiadwy hyn. Felly, mae'n gwbl iawn a phriodol y dylen nhw wneud cyfraniad priodol at gost y bobl y maen nhw'n elwa ohonynt.
Nid wyf yn rhannu pryder Nick Ramsay y byddwn yn defnyddio ein pwerau i godi treth incwm mewn Llywodraeth Lafur Cymru yn y dyfodol. Nid yw'r Alban wedi defnyddio'r pwerau hynny ac maen nhw wedi bod ganddyn nhw ers 1999. Felly, nid oes rheswm penodol dros dybio y byddai hynny'n rhywbeth a fyddai'n wirioneddol agored i Lywodraeth Cymru, oherwydd mae mor hawdd i bobl allu mynd ar draws y ffin i Loegr er mwyn osgoi'r trethi hyn. Mae gennyf lawer mwy o ddiddordeb mewn sut y gallwn wella'r broses o gasglu trethi trafodiadau tir, oherwydd mae'r rheini yn bethau na ellir eu hosgoi.
Mae gennyf ddiddordeb yn yr arian y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i neilltuo ar gyfer buddsoddiad cyfalaf i waredu ein gwastraff, yn ogystal â'r agwedd o ran incwm, oherwydd ymwelais yn ddiweddar â chanolfan ailgylchu Caerdydd i edrych ar y swm o arian y gellir ei godi o ailgylchu'n briodol. Mae pris alwminiwm, er enghraifft, yn uchel iawn ar hyn o bryd; mae pris cardfwrdd yn llai, ond er hynny, mae'n gyfraniad gwerthfawr iawn at leddfu'r gost o gasglu gwastraff pobl. Yn sicr, mae'n rhaid inni barhau i gadw at yr egwyddorion o leihau, ailddefnyddio, ailgylchu. Felly, tybed a wnewch chi ddweud ychydig mwy am y £15 miliwn o arian cyfalaf i wella ein gallu i ailgylchu, ac a ydych chi'n rhagweld y bydd hynny'n cael ei gyflawni gan gonsortiwm o awdurdodau lleol, yn hytrach na bod pob awdurdod lleol yn gorfod darparu ar gyfer eu hunain, oherwydd ymddengys i mi fod honno'n un ffordd o wneud y pethau hyn yn fwy effeithlon.
Byddwch yn ymwybodol, Ysgrifennydd y Cabinet, y bu lobi amser cinio lle'r oedd llawer o bobl yn bresennol ac yn mynnu bod £20 y pen yn cael ei wario ar wella ein llwybrau beicio. Felly, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a'n rhwymedigaethau o dan y ddeddf honno, byddwn yn ddiolchgar pe gallech nodi sut yr ydych chi'n credu bod yr arian ychwanegol yr ydych chi'n ei neilltuo ar gyfer llenwi tyllau yn y ffyrdd, sy'n eithriadol o bwysig i unrhyw un sy'n beicio, ond hefyd ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth lleol, yn ogystal â theithio llesol, sut y mae'r tair elfen hynny yn cydgysylltu i wella nifer y bobl sy'n gallu cael budd o feicio a cherdded heb y bygythiad o gael eu taro gan gerbyd.
Beth bynnag, rwy'n eich llongyfarch ar eich cyllideb ddrafft ac yn edrych ymlaen at ei harchwilio'n fanylach.