Part of the debate – Senedd Cymru am 3:44 pm ar 2 Hydref 2018.
Diolch, Llywydd. Rwy'n croesawu datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r gyllideb ddrafft. Wrth i gyni barhau, nid yw'r swm o arian sydd ei angen i redeg ein gwasanaethau cyhoeddus fel mae'r cyhoedd yn ei ddymuno yn cael ei ddarparu. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi nad yw cyni yn bolisi economaidd ond yn gyfeiriad gwleidyddol. Mae'r Ceidwadwyr yn San Steffan eisiau cwtogi gwariant cyhoeddus a chyfyngu ar y gwasanaethau y mae'r wladwriaeth yn eu darparu. Ac fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn gynharach heddiw, mae £4 biliwn i £6 biliwn ar goll o'n cyllideb ni. Mor wahanol fyddai'r gyllideb heddiw gyda £4 biliwn i £6 biliwn yn ychwanegol. Rwy'n credu y byddai pawb yn gadael y lle hwn yn hapusach o lawer nag y byddwn ni.
Rwy'n credu bod Neil Hamilton wedi gwneud pwynt diddorol iawn—torri'r gôt yn ôl y brethyn. A gaf i ddweud, mai'r pwynt allweddol yw cynyddu eich incwm? Twf economaidd yw’r enw ar hyn. Yr hyn a gawsom ni yw diffyg twf, ac o'r herwydd, nid ydym ni wedi ei gynyddu. Dyna pam mae'r diffyg wedi cynyddu—oherwydd bod twf wedi bod yn araf ar y gorau, ac ar y gwaethaf yn sefyll yn llonydd.
Mae gennyf i dri chwestiwn ar gyfer Ysgrifennydd y Cabinet. Un ynglŷn â chyfalaf trafodiadau: a yw Llywodraeth Dorïaidd San Steffan wedi rhoi unrhyw awgrym ynghylch newid y rheolau o ran ei ddefnyddio? Os nad ydynt, a ellir ei ddefnyddio fel cyfalaf newydd ar gyfer cymorth datblygu economaidd i gwmnïau preifat, ac felly cynyddu'r gwariant cyfalaf dewisol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ar gyfer pethau megis ysgolion newydd, y mae pawb yn y Siambr hon yn ei groesawu?
Yn ail, a oes unrhyw awgrym y caiff y terfyn benthyca ei gynyddu? A fydd bondiau ar gael? Er na fyddwn i nac Ysgrifennydd y Cabinet rwy'n sicr yn eu dewis fel dull o fenthyca, oherwydd maen nhw'n tueddu i fod yn ddrutach; yr hyn y maen nhw wedi ei wneud, a'r rheswm pam mae awdurdodau lleol yn eu hoffi—. Nid ydych chi eisiau eu defnyddio nhw, ond yr hyn yr ydych chi eisiau iddyn nhw ei wneud yw cadw benthyciadau y bwrdd benthyciadau gwaith cyhoeddus yn isel. Pan gynyddodd y bwrdd benthyciadau gwaith cyhoeddus ei gyfraddau, yr hyn a ddigwyddodd oedd i bobl ddechrau edrych ar fondiau, ac yn gyflym iawn daeth costau'r bwrdd benthyciadau gwaith cyhoeddus i lawr yn sylweddol. Rwy'n credu bod hyn yn bwysig iawn.
Yn olaf a gaf i grybwyll y mater o iechyd sylfaenol, iechyd eilaidd a gwariant y gwasanaethau cymdeithasol? Oddeutu’r flwyddyn 2015 fe luniodd yr archwilydd cyffredinol adroddiad ar ymyriadau meddygol nad ydynt yn gwneud unrhyw les i'r claf, a'r gost a amcangyfrifwyd oedd sawl can miliwn o bunnoedd. Nid oedd hyn yn cynnwys gwariant pan oedd y llawdriniaeth yn llwyddiannus, ond gwariant yn dilyn cyfnod yn yr ysbyty pan nad oedd yr unigolyn yn gallu edrych ar ôl ei hunan mwyach ac wedi symud i gartref nyrsio.
Canfu'r diweddar Ddoctor Julian Tudor Hart, a oedd yn gyfarwydd i lawer ohonom ni, gydag eraill, y caiff arian ei wario ar bethau fel lleihau pwysedd gwaed oedd dim ond wedi codi ychydig, sy'n gwneud dim lles o ran iechyd, ond sydd mewn gwirionedd yn ddrud. Ac a gaf i atgoffa Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, pan oeddech chi'n Ysgrifennydd Iechyd, fe sonioch chi ar fwy nag un achlysur, am y gwahanol gyfraddau ymyrryd a gafwyd ar gyfer tynnu tonsiliau mewn dwy ardal o fewn yr un bwrdd iechyd. Felly, nid gwahaniaeth rhwng byrddau iechyd a geir—yn y bôn gwahaniaeth rhwng dau lawfeddyg a geir. Rydych chi ddwywaith mwy tebygol o gael tynnu eich tonsiliau mewn un lle na lle arall.
Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn nodi'n rheolaidd y gostyngiad cymharol mewn gwariant gofal sylfaenol. Ac rwy'n pryderu bod gofal eilaidd yn cael blaenoriaeth dros ofal sylfaenol. Cyflwynodd Sefydliad Nuffield ymchwil yn dangos bod cynhyrchiant mewn ysbytai yng Nghymru, o ran sawl claf y mae un meddyg yn eu trin, wedi gostwng rhwng 2003 a 2013.
Mae gofal cymdeithasol o dan bwysau enfawr, yn enwedig gofal yr henoed a chymorth ar gyfer plant. Rwy'n deall bod cymorth ar gyfer plant wedi cynyddu cant y cant dros y 10 mlynedd diwethaf. Ac fe wyddom ni hefyd fod gofal yr henoed yn parhau i gynyddu. Mae llawer ohonom ni o’r farn ei fod yn beth da—rydym ni i gyd eisiau byw'n hirach, onid ydym? Ond mae costau ynghlwm â hynny, sydd bron i gyd yn disgyn ar ysgwyddau awdurdodau lleol.
Rwy'n falch iawn i weld, ar ôl imi fod yn llais unig yn yr anialwch yn cefnogi gwella iechyd drwy ymdrin â ffactorau fel gordewdra ac ysmygu, sy'n arwain at iechyd gwael, fod llawer o gefnogaeth bellach i weithredu ataliol. Yn wir, roedd Steffan Lewis yn sôn am gamau gweithredu ataliol yn gynharach, a gobeithiaf y bydd mwy o bobl yn sôn am weithredu ataliol. Mae cael rhywun yn yr ysbyty o dan lawdriniaeth mewn nifer o achosion yn arwydd o fethiant nid llwyddiant. Arwydd o lwyddiant fyddai iddynt beidio â bod yno yn y lle cyntaf. Rwy'n credu mai'r nod y dylem ni ymgyrraedd ato yw gwella iechyd yn hytrach na chynyddu gwariant iechyd neu driniaethau iechyd.
Felly, rwy'n croesawu'r gyllideb, rwy'n credu mai dyma'r gorau y gellir ei wneud. A gawn ni'r £4 biliwn i £6 biliwn y dylem ei gael? Byddai Ysgrifennydd y Cabinet a'r rhan fwyaf o'r Aelodau yn yr ystafell hon yn hapus iawn, iawn. Nid ydym yn mynd i gael hwnnw, ac o dan amgylchiadau anodd iawn, rwy'n cymeradwyo Ysgrifennydd y Cabinet am ei gyllideb.