5. Datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: Dathlu Diwrnod Pobl Hŷn

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:16 pm ar 2 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 4:16, 2 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Gan fod y dathliad yn cyd-fynd eleni â dathlu 70 o flynyddoedd ers y datganiad cyffredinol o hawliau dynol, hoffwn achub ar y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad ar y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen ag ef i roi hawliau dynol wrth galon gwasanaethau cyhoeddus Cymru, a gwneud Cymru'r wlad orau yn y byd i heneiddio ynddi. Ni ddylai henaint erydu hawliau dynol unigolyn. Mae gan Gymru hanes hir o weithio gyda a thros bobl hŷn, a hynny o gyflwyno'r strategaeth gyntaf ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru yn 2003 hyd at sefydlu'r comisiynydd pobl hŷn cyntaf y byd yn 2008. Mae'r ymrwymiad hwn i wella bywydau pobl hŷn yn parhau heddiw.

Yn gynharach eleni, dechreuwyd ar raglen waith newydd i adfywio ein pwyslais ar faterion pobl hŷn. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r comisiynydd pobl hŷn a chyda pobl hŷn yn uniongyrchol a'u cynrychiolwyr i gydgynhyrchu fframwaith ar gyfer cymdeithas sy'n mynd yn hŷn. Mae elfen allweddol o'r gwaith hwn yn anelu at wireddu hawliau pobl hŷn, ac rydym ni wedi sefydlu grŵp rhanddeiliaid; rydym wedi ymgynnull i ystyried y camau sydd eu hangen i gyflawni'r union nod hwn. Gall codi ymwybyddiaeth o hawliau dynol rymuso pobl hŷn i fod â rhan weithredol wrth sicrhau bod y gofal a gânt yn cadarnhau eu hawl sylfaenol i gael eu trin ag urddas a pharch. Er hynny, mae'n rhaid inni godi ymwybyddiaeth hefyd o hawliau dynol ymysg y cyrff cyhoeddus a sefydliadau sy'n gweithio gyda phobl hŷn bob dydd.

Daeth y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i rym ym mis Ebrill 2016. Mae'r Ddeddf hon yn rhoi fframwaith cyfreithiol i wella llesiant pobl sydd ag angen gofal a chymorth, ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi sylw dyledus i egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl hŷn. Nid yw cyfeirio at egwyddorion yn unig yn ddigon; mae 'sylw dyledus' yn golygu bod yn rhaid i awdurdodau lleol ystyried o ddifrif sut fydd y dyletswyddau yn effeithio ar y penderfyniadau a wnânt bob dydd. Felly, er enghraifft, gall gwasanaethau eirioli annibynnol roi llais i bobl, gan helpu i sicrhau bod eu safbwyntiau a'u dymuniadau yn cael eu cynrychioli wrth wneud dewisiadau ynghylch eu bywydau eu hunain. Maen nhw'n bwysig ar gyfer cefnogi pobl i ymgysylltu yn weithredol a chymryd rhan wrth ddatblygu canlyniadau eu llesiant eu hunain. Ymgorfforir eiriolaeth ar gyfer pob unigolyn o fewn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014. Bu fy swyddogion yn gweithio gyda'r grŵp rhanddeiliaid technegol i osod safonau ar gyfer gwasanaethau plant ac oedolion drwy'r Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, a elwir yn 'RISCA'. Rydym hefyd yn diweddaru rhan 10 cod ymarfer ar eiriolaeth, er mwyn rhoi canllawiau ymarferol ar sut y gellir sicrhau gwireddu hawliau i bobl hŷn wrth geisio eiriolaeth.

Un o'r pum thema yn egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer personau hŷn yw annibyniaeth. Mae'r gronfa gofal integredig, yr ICF, yn hyrwyddo dull seiliedig ar hawliau dynol, gan gefnogi pobl hŷn i gynnal eu hannibyniaeth a pharhau i fod yn rhan o'u cymuned. Felly, er enghraifft, mae'r tîm ymateb acíwt—yr ART—yn gweithio o Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli i ddarparu gwasanaeth ymateb cyflym 24 awr ar gyfer pobl hŷn bregus y byddai fel arall angen eu derbyn i ysbyty. Mae'r tîm yn gweithio mewn partneriaeth ag ystod o fentrau ICF eraill i hwyluso gofal integredig a gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn ei gartref ei hun. Mae hyn yn caniatáu iddyn nhw aros yn eu cymunedau a pharhau gyda'u bywydau o ddydd i ddydd heb yr ymyriadau yn sgil ymweld ag ysbyty ar gyfer triniaeth ac i gael gwell canlyniadau iechyd o ganlyniad i hynny.

Mae cyfranogiad yn thema hefyd yn egwyddorion y Cenhedloedd Unedig. Rwy'n cydnabod bod yn rhaid i Lywodraeth sicrhau bod y seilwaith yn ei le i gefnogi pobl i barhau i fod yn actif ac ymgysylltu. Felly, mae gwasanaethau trafnidiaeth lleol, cyfleusterau cymunedol megis toiledau cyhoeddus, a mannau i gyfarfod, yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl hŷn. Maen nhw'n rhan annatod o wead cymunedau bywiog a chydlynol. Ac mae gostwng lefelau unigrwydd ac unigedd cymdeithasol ymhlith pobl o bob oed yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru. Yn 'Symud Cymru Ymlaen 2016-2021', cadarnhawyd ein hymrwymiad i ddatblygu strategaeth traws-Lywodraeth ledled y wlad i fynd i'r afael â'r materion hyn erbyn mis Mawrth 2019. A chytunwyd ar gyllid o £750,000 yn 2018-19 ac yn 2019-20 i ddatblygu'r dull traws-lywodraethol hwn.

Mae'r ddadl gyhoeddus gyfredol am unigrwydd a'i effaith ar iechyd corfforol a meddyliol yn mynd i wraidd ein cymdeithas. Mae'n cwestiynu sut yr ydym yn gofalu am ein gilydd ac yn cefnogi ein gilydd. I'r rheini ohonom sy'n mynd yn hŷn, gall y ddadl am unigrwydd finiogi ein ffocws ar sut y byddwn yn treulio ein hamser pan fyddwn wedi rhoi'r gorau i weithio. Dylai pobl o bob oedran gael eu hannog nid yn unig i gynllunio ar gyfer eu dyfodol ariannol, ond hefyd i ystyried y rhwydweithiau cymdeithasol y bydd eu hangen arnynt i gael henaint braf. Dylem ni oll gwestiynu'r hyn yr ydym yn disgwyl i'n cymunedau ei gynnig inni yn ddiweddarach mewn bywyd a sut y gallwn ddechrau adeiladu'r cymunedau hynny yn awr. Drwy wirfoddoli, gofalu am anwyliaid neu thrwy fod yn aelod gwerthfawr o'u cymuned leol, mae pobl hŷn, gadewch i ni fod yn glir, yn ffurfio asgwrn cefn ein cymdeithas. Yn Weinidog dros Blant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, byddaf â rhan weithredol yn y frwydr yn erbyn gwahaniaethu ar sail oedran a stereoteipiau niweidiol o bobl hŷn. Os byddwn yn parhau i edrych ar henaint mewn ffordd negyddol, ni fyddwn yn llwyddiannus wrth greu cymdeithas sy'n cefnogi'r holl bobl hŷn i fwynhau bywyd sy'n werthfawr, yn ystyrlon a phwrpas iddo.