Part of the debate – Senedd Cymru am 4:23 pm ar 2 Hydref 2018.
Trwy ddathlu diwrnod pobl hŷn, mae pobl o bob oed yn cael eu hannog i fod yn bositif yn eu hagwedd wrth wynebu mynd yn hŷn. Fy nod i yw gwneud yn siŵr mai Cymru yw'r lle gorau yn y byd i heneiddio ynddo, ac rwy'n edrych ymlaen at gydweithio â rhanddeiliaid allweddol, y comisiynydd pobl hŷn, ac yn bwysicaf oll, y bobl hŷn eu hunain, i wireddu'r nod hwn. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.