– Senedd Cymru am 4:15 pm ar 2 Hydref 2018.
Felly'r eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol ar ddathlu diwrnod pobl hŷn. Rydw i'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad. Huw Irranca-Davies.
Diolch, Llywydd. Roedd yn Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn ddoe, gan roi cyfle i gymunedau ar draws Cymru werthfawrogi a dathlu'r cyfraniad helaeth ac amrywiol y mae pobl hŷn yn ei wneud i gymdeithas ac economi Cymru.
Gan fod y dathliad yn cyd-fynd eleni â dathlu 70 o flynyddoedd ers y datganiad cyffredinol o hawliau dynol, hoffwn achub ar y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad ar y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen ag ef i roi hawliau dynol wrth galon gwasanaethau cyhoeddus Cymru, a gwneud Cymru'r wlad orau yn y byd i heneiddio ynddi. Ni ddylai henaint erydu hawliau dynol unigolyn. Mae gan Gymru hanes hir o weithio gyda a thros bobl hŷn, a hynny o gyflwyno'r strategaeth gyntaf ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru yn 2003 hyd at sefydlu'r comisiynydd pobl hŷn cyntaf y byd yn 2008. Mae'r ymrwymiad hwn i wella bywydau pobl hŷn yn parhau heddiw.
Yn gynharach eleni, dechreuwyd ar raglen waith newydd i adfywio ein pwyslais ar faterion pobl hŷn. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r comisiynydd pobl hŷn a chyda pobl hŷn yn uniongyrchol a'u cynrychiolwyr i gydgynhyrchu fframwaith ar gyfer cymdeithas sy'n mynd yn hŷn. Mae elfen allweddol o'r gwaith hwn yn anelu at wireddu hawliau pobl hŷn, ac rydym ni wedi sefydlu grŵp rhanddeiliaid; rydym wedi ymgynnull i ystyried y camau sydd eu hangen i gyflawni'r union nod hwn. Gall codi ymwybyddiaeth o hawliau dynol rymuso pobl hŷn i fod â rhan weithredol wrth sicrhau bod y gofal a gânt yn cadarnhau eu hawl sylfaenol i gael eu trin ag urddas a pharch. Er hynny, mae'n rhaid inni godi ymwybyddiaeth hefyd o hawliau dynol ymysg y cyrff cyhoeddus a sefydliadau sy'n gweithio gyda phobl hŷn bob dydd.
Daeth y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i rym ym mis Ebrill 2016. Mae'r Ddeddf hon yn rhoi fframwaith cyfreithiol i wella llesiant pobl sydd ag angen gofal a chymorth, ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi sylw dyledus i egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl hŷn. Nid yw cyfeirio at egwyddorion yn unig yn ddigon; mae 'sylw dyledus' yn golygu bod yn rhaid i awdurdodau lleol ystyried o ddifrif sut fydd y dyletswyddau yn effeithio ar y penderfyniadau a wnânt bob dydd. Felly, er enghraifft, gall gwasanaethau eirioli annibynnol roi llais i bobl, gan helpu i sicrhau bod eu safbwyntiau a'u dymuniadau yn cael eu cynrychioli wrth wneud dewisiadau ynghylch eu bywydau eu hunain. Maen nhw'n bwysig ar gyfer cefnogi pobl i ymgysylltu yn weithredol a chymryd rhan wrth ddatblygu canlyniadau eu llesiant eu hunain. Ymgorfforir eiriolaeth ar gyfer pob unigolyn o fewn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014. Bu fy swyddogion yn gweithio gyda'r grŵp rhanddeiliaid technegol i osod safonau ar gyfer gwasanaethau plant ac oedolion drwy'r Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, a elwir yn 'RISCA'. Rydym hefyd yn diweddaru rhan 10 cod ymarfer ar eiriolaeth, er mwyn rhoi canllawiau ymarferol ar sut y gellir sicrhau gwireddu hawliau i bobl hŷn wrth geisio eiriolaeth.
Un o'r pum thema yn egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer personau hŷn yw annibyniaeth. Mae'r gronfa gofal integredig, yr ICF, yn hyrwyddo dull seiliedig ar hawliau dynol, gan gefnogi pobl hŷn i gynnal eu hannibyniaeth a pharhau i fod yn rhan o'u cymuned. Felly, er enghraifft, mae'r tîm ymateb acíwt—yr ART—yn gweithio o Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli i ddarparu gwasanaeth ymateb cyflym 24 awr ar gyfer pobl hŷn bregus y byddai fel arall angen eu derbyn i ysbyty. Mae'r tîm yn gweithio mewn partneriaeth ag ystod o fentrau ICF eraill i hwyluso gofal integredig a gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn ei gartref ei hun. Mae hyn yn caniatáu iddyn nhw aros yn eu cymunedau a pharhau gyda'u bywydau o ddydd i ddydd heb yr ymyriadau yn sgil ymweld ag ysbyty ar gyfer triniaeth ac i gael gwell canlyniadau iechyd o ganlyniad i hynny.
Mae cyfranogiad yn thema hefyd yn egwyddorion y Cenhedloedd Unedig. Rwy'n cydnabod bod yn rhaid i Lywodraeth sicrhau bod y seilwaith yn ei le i gefnogi pobl i barhau i fod yn actif ac ymgysylltu. Felly, mae gwasanaethau trafnidiaeth lleol, cyfleusterau cymunedol megis toiledau cyhoeddus, a mannau i gyfarfod, yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl hŷn. Maen nhw'n rhan annatod o wead cymunedau bywiog a chydlynol. Ac mae gostwng lefelau unigrwydd ac unigedd cymdeithasol ymhlith pobl o bob oed yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru. Yn 'Symud Cymru Ymlaen 2016-2021', cadarnhawyd ein hymrwymiad i ddatblygu strategaeth traws-Lywodraeth ledled y wlad i fynd i'r afael â'r materion hyn erbyn mis Mawrth 2019. A chytunwyd ar gyllid o £750,000 yn 2018-19 ac yn 2019-20 i ddatblygu'r dull traws-lywodraethol hwn.
Mae'r ddadl gyhoeddus gyfredol am unigrwydd a'i effaith ar iechyd corfforol a meddyliol yn mynd i wraidd ein cymdeithas. Mae'n cwestiynu sut yr ydym yn gofalu am ein gilydd ac yn cefnogi ein gilydd. I'r rheini ohonom sy'n mynd yn hŷn, gall y ddadl am unigrwydd finiogi ein ffocws ar sut y byddwn yn treulio ein hamser pan fyddwn wedi rhoi'r gorau i weithio. Dylai pobl o bob oedran gael eu hannog nid yn unig i gynllunio ar gyfer eu dyfodol ariannol, ond hefyd i ystyried y rhwydweithiau cymdeithasol y bydd eu hangen arnynt i gael henaint braf. Dylem ni oll gwestiynu'r hyn yr ydym yn disgwyl i'n cymunedau ei gynnig inni yn ddiweddarach mewn bywyd a sut y gallwn ddechrau adeiladu'r cymunedau hynny yn awr. Drwy wirfoddoli, gofalu am anwyliaid neu thrwy fod yn aelod gwerthfawr o'u cymuned leol, mae pobl hŷn, gadewch i ni fod yn glir, yn ffurfio asgwrn cefn ein cymdeithas. Yn Weinidog dros Blant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, byddaf â rhan weithredol yn y frwydr yn erbyn gwahaniaethu ar sail oedran a stereoteipiau niweidiol o bobl hŷn. Os byddwn yn parhau i edrych ar henaint mewn ffordd negyddol, ni fyddwn yn llwyddiannus wrth greu cymdeithas sy'n cefnogi'r holl bobl hŷn i fwynhau bywyd sy'n werthfawr, yn ystyrlon a phwrpas iddo.
Trwy ddathlu diwrnod pobl hŷn, mae pobl o bob oed yn cael eu hannog i fod yn bositif yn eu hagwedd wrth wynebu mynd yn hŷn. Fy nod i yw gwneud yn siŵr mai Cymru yw'r lle gorau yn y byd i heneiddio ynddo, ac rwy'n edrych ymlaen at gydweithio â rhanddeiliaid allweddol, y comisiynydd pobl hŷn, ac yn bwysicaf oll, y bobl hŷn eu hunain, i wireddu'r nod hwn. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.
Rwy'n diolch i chi, Gweinidog, am eich geiriau, ac rwyf innau, ar ran grŵp Ceidwadwyr Cymru, hefyd yn llwyr gefnogi eich dyhead i wella hawliau ein pobl hŷn drwy godi ymwybyddiaeth ac, yn fwy na hynny, weld y nod hwn yn cael ei amlygu gan welliant gwirioneddol o ran polisi. Fy mraint aruthrol i yw cael gwasanaethu pobl hŷn yng Nghymru mewn ffordd ddeublyg, fel hyrwyddwr pobl hŷn y Ceidwadwyr Cymreig, a hefyd yn rhinwedd fy swydd fel Aelod Cynulliad dros etholaeth Aberconwy, sydd fel mae'n digwydd yn cynnwys y nifer uchaf o'r bobl dros 65 oed yng Nghymru.
Ar y sail hon rwy'n gwybod o lygad y ffynnon y budd aruthrol a ddaw yn sgil ein pobl hŷn i gymunedau ledled Cymru. Yn aml iawn, y genhedlaeth hŷn a doethach hon, yn fy marn i, yw conglfaen ein cymdeithasau gwirfoddol, yn neilltuo'r blynyddoedd ar ôl eu hymddeoliad yn anhunanol er budd y sector elusennol. At hynny, heb os nac oni bai, yr ystyriaeth o gymuned sydd gan y grŵp oedran hwn sy'n cadw ein seilwaith lleol i fynd rhagddo, gan ymgymryd â'r dasg gyfrifol o sicrhau gwelliannau yn y cymdogaethau a'r cymunedau y maen nhw a ninnau'n byw ynddynt ac y maent yn gofalu amdanynt. Nid ydym yn sylweddoli yn aml pa mor werthfawr yw'r boblogaeth hon o ran lleihau'r pwysau ar ein gwasanaethau cyhoeddus, gan ddarparu'r gwasanaeth gofal plant rhad ac am ddim mwyaf o bosib i rieni sy'n gweithio'n galed ledled Cymru.
Nawr, fy mraint i, dros y saith blynedd diwethaf, fu gweithio gyda Sarah Rochira, y comisiynydd pobl hŷn sy'n ein gadael, ac rwy'n ymwybodol y bydd yn anodd iawn ei dilyn hi. Ond wedi dweud hynny, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio yn agos gyda'n Comisiynydd Pobl Hŷn newydd, Heléna Herklots CBE, y byddaf yn falch o'i chroesawu i'r ail ddigwyddiad 'heneiddio'n dda' a drefnais ar gyfer fy etholwyr fy hun ym mis Tachwedd. Mae gennyf bob ffydd y bydd ei chefndir helaeth, yn hyrwyddo hawliau pobl hŷn gydag Age Concern a Carers UK, yn llywio polisi i sicrhau bod ein cymdeithas yn gwneud mwy hyd yn oed i wella hawliau dyledus pobl hŷn. Rwyf wedi bod wrth fy modd o weld y dathliadau hyn drwy gydol diwrnod rhyngwladol pobl hŷn, ac yn gobeithio y gallwn wneud mwy hyd yn oed bob dydd i wella hyn.
Rydym i gyd yn gwybod y peryglon y gall rhagfarn eu peri i hawliau pobl hŷn yn y gweithle. Mae canllawiau i gyflogwyr gan Fusnes Cymru yn gam cadarnhaol tuag at frwydro yn erbyn agweddau o'r fath yn ein heconomi. Ond a wnewch chi ddweud wrthyf i ymhellach: pa gyllid ychwanegol a gaiff ei gyflwyno ar gyfer ailhyfforddi pobl hŷn yn gyffredinol, a phobl o gefndiroedd amrywiol, fel y byddan nhw'n parhau i wneud y fath gyfraniad hanfodol i'n heconomi? Rydym yn sôn byth a beunydd am unigrwydd ac unigedd cymdeithasol; beth all fod yn well na chael pobl yn ôl i'r gwaith, lle gallan nhw gyfarfod â'u cyfoedion a'u cymrodyr gweithio? Mae hynny i mi yn gleddyf deufin, y mae angen i ni mewn gwirionedd, ei ddefnyddio o'u plaid nhw. Felly, diolchaf i chi eto, Gweinidog, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi i fwrw ymlaen gyda hyn o beth. Diolch.
Rwy'n ymddiheuro. Nid oeddwn yn disgwyl y byddwn i ar fy nhraed mor gyflym â hyn, ond rwy'n hapus i fod felly. Janet, a gaf i ddiolch yn fawr iawn ichi am y cyfraniad hwn, a chroesawu eich swydd fel hyrwyddwr eich plaid dros bobl hŷn? Rydych yn gywir i bwysleisio unwaith eto swyddogaeth pobl hŷn fel ased yn ein cymdeithas, yn eu gwaith gwirfoddoli, eu darpariaeth am eu gofal eu hunain, fel gofalwyr, gan gynnwys, wrth gwrs, ofal plant—fel y gwelwn ni nawr, yn rhyfedd iawn, wrth i ni gyflwyno'r cynnig gofal plant. Mewn gwirionedd, rydym yn mynd i gymunedau lle, yn aml iawn, y neiniau a'r modrybedd ac ewythrod sy'n darparu elfen fawr o'r gofal plant hefyd. Maen nhw'n ased yn bendant, ac mae angen inni ddathlu hyn a sôn am hyn yn llawer mwy aml, oherwydd yn rhy aml o lawer, nid yn unig yn y cyfryngau ond ar lafar yn gyffredin, rydym yn defnyddio'r ystrydebau negyddol hynny am faich, cymhlethdodau henaint, a'r effaith ar y gwasanaeth iechyd. Wel, ydym, rydym yn cydnabod hynny. Daw llawenydd o fynd yn hen ac yn yr hyn y gallwch ei gyfrannu pan fyddwch wedi mynd yn hen. Fe ddaw henaint â'i gymhlethdodau, a daw â'r angen inni ddarparu gofal cywir a chefnogaeth. Ond, bobl bach, caiff hynny ei wrthbwyso'n fawr gan y cyfraniad a wnewch chi i gymdeithas ac i'ch cymunedau. Dywedaf hynny fel rhywun sy'n hapus a llawen i heneiddio fy hunan—nid o reidrwydd yn ddoethach, ond yn hŷn.
Diolch ichi hefyd am y croeso a roesoch i Heléna Herklots, y penodai newydd sy'n cymryd drosodd oddi wrth Sarah fel comisiynydd pobl hŷn. Rydw i wedi cyfarfod â Heléna mewn un neu ddau o ddigwyddiadau eisoes, gan gynnwys digwyddiad diweddar yn sir Gaerfyrddin, a oedd yn edrych yn benodol ar ein strategaeth ar unigrwydd ac arwahanrwydd, a chredaf ei bod yn croesawu'r gwaith yr ydym yn ei wneud.
Ond roeddech chi hefyd yn rhoi teyrnged i gydnabod gwaith y comisiynydd sy'n ein gadael, Sarah Rochira. Swyddogaeth y Comisiynydd yw herio a phwyso ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy, a dyna yw'r swyddogaeth gywir ar gyfer unrhyw Gomisiynydd, boed yn un cenedlaethau'r dyfodol, comisiynydd plant, ac ati. Ond mae yna hefyd—. Mae'n rhaid imi ddweud, rwy'n croesawu'r ymgysylltiad adeiladol iawn a gawsom, pan oedden nhw'n ein gwthio, ac rydym wedi dweud, 'Wel, dyma pa mor bell y gallwn fynd ar hyn o bryd, a lle gallwn fynd iddo yn y dyfodol.' Ac rydym wedi gadael yn eu lle, rhaid imi ddweud, cynlluniau gweithredu gwirioneddol—ac rwy'n edrych ymlaen at drafod gyda Heléna wrth inni fwrw ymlaen—i weld sut y gallwn wireddu hawliau yn ymarferol yn hytrach na drafftio darnau newydd o gyfraith a rheoleiddio diddiwedd: sut rydym am wneud i hyn gydio ar lawr gwlad?
Felly, rydym eisoes yn gweithio gyda'r comisiynydd pobl hŷn ar ymgorffori hawliau pobl hŷn ar draws amrywiaeth o bortffolios polisi. Gan adeiladu ar ddeddfwriaeth Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), rydym mewn gwirionedd yn cyflwyno, ac yn cydgynhyrchu nawr, ganllawiau ymarferol sy'n dangos sut i wireddu egwyddorion y Cenhedloedd Unedig i bobl hŷn mewn gwirionedd. Mae'r gwaith cychwynnol yn y maes hwnnw yn canolbwyntio ar gomisiynu ac ar ddiogelu ac ar eiriolaeth, a grybwyllais yn gynharach—y rhain yw'r meysydd y mae angen inni eu cael nhw'n iawn os ydym yn dymuno cefnogi ein pobl hŷn i gael llais gwirioneddol a rheolaeth dros eu hiechyd a'u gofal cymdeithasol. Soniais ein bod ni'n diweddaru canllawiau 2009 ar y pryderon sy'n cynyddu mewn cartrefi gofal, gan wireddu hawliau unwaith eto, ac ymgorffori hawliau dynol ym mhrosesau asesu effaith Lywodraeth Cymru hefyd. Rydym yn edrych hefyd, gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, ar saernïo naratif hawliau dynol i mewn i adroddiadau arolygu cartrefi gofal, a'r byrddau iechyd yn cyfeirio at yr egwyddorion yn y datganiadau ansawdd y maen nhw'n eu cynhyrchu yn flynyddol. Ac rydym yn edrych ar agweddau eraill hefyd.
Ond dyma mae'n ei olygu: mae'n rhoi gwir lais a rheolaeth i bobl hŷn gan beidio—. Rydym yn aml yn credu yn y fan hon, os byddwn yn deddfu, byddwn yn cyflawni rhywbeth. Na. Mae'n golygu cymryd y ddeddfwriaeth sydd gennym, gan weithio gyda'r comisiynydd pobl hŷn, a gweithio gyda'r bobl hŷn eu hunain a sefydliadau cynrychiadol, i ddod o hyd i'r ffordd o wneud i hyn gydio mewn gwirionedd o ddydd i ddydd. Felly, rwy'n croesawu'r sylwadau hyn, a'ch dathliad chithau o gyfraniad pobl hŷn i'n cymdeithas.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Yn naturiol, rydym ni'n croesawu'r ffaith ein bod ni'n nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn a'r ffaith bod y Gweinidog wedi cadarnhau'n bersonol ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hawliau dynol pobl hŷn, a'i weledigaeth o wneud Cymru y lle gorau yn y byd i heneiddio.
Mae yna nifer o ddogfennau deddfwriaethol a pholisi gyda ni yng Nghymru sy'n dweud y pethau cywir o ran cefnogi pobl hŷn. Y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, er enghraifft, fel rydym ni wedi clywed eisoes, a oedd yn arloesol o ran ei hamcanion, ond mae'r profiad ar lawr gwlad yng Nghymru ar hyn o bryd yn golygu bod gyda ni ffordd bell i fynd cyn y gallwn ddweud mai Cymru wir yw'r lle gorau yn y byd i heneiddio.
Mae'r comisiynydd pobl hŷn, Age Cymru, Gofalwyr Cymru, a llu o sefydliadau eraill wedi'n nodi'n glir y pryderon sydd ganddynt o ran sut mae gwasanaethau yn cael eu darparu ar lawr gwlad. Mae'r neges yn glir: mae deddfwriaeth a datganiadau polisi yn iawn, ond mae angen inni weld cynnydd ar lawr gwlad yn y gefnogaeth sydd ar gael i bobl hŷn, a hefyd cynnydd yn y gefnogaeth a hawliau go iawn i dderbyn gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg wrth ymdrin â gofal dementia, er enghraifft, lle mae siaradwyr Cymraeg efo dementia, wrth gwrs, fel y byddwch chi'n ymwybodol, yn colli eu hail iaith yn gyntaf—sef y Saesneg—a dim ond yn gallu cyfathrebu yn y Gymraeg wedyn achos sgil-effaith dementia.
Felly, sut beth yw byw fel person hŷn yng Nghymru heddiw? Bob wythnos, rydym yn clywed am bryderon ynglŷn â darparu gwasanaethau, er gwaethaf y darpariaethau yn y Ddeddf Lles a Gwasanaethau Cymdeithasol ac er gwaethaf ymdrechion gorau'r comisiynydd pobl hŷn ac eraill. Rydym yn clywed am bobl hŷn nad ydyn nhw'n cael asesiadau o anghenion gofalwyr, er enghraifft; rydym yn clywed am bobl hŷn yn gweld eu canolfannau dydd yn cael eu cau gan awdurdodau lleol; rydym yn clywed am y niferoedd mawr o bobl hŷn sy'n teimlo'n unig ac ynysig, fel y dywedodd y Gweinidog; ac rydym yn clywed am bobl hŷn yn gorfod talu ffioedd afresymol am ofal cartref neu breswyl. Rydym yn clywed sôn am bobl hŷn nad ydynt yn derbyn gwasanaethau gofal seibiant ac mewn amgylchiadau anodd a difrifol. Mae'n amlwg bod ffordd bell i fynd eto os ydych yn dymuno cyflawni eich uchelgais o sicrhau mai Cymru yw'r wlad orau yn y byd i heneiddio ynddi. Felly, i orffen fy sylwadau ar y datganiad yn unig.
Beth, felly, sydd angen inni ei wneud? Yn y bôn, rydw i'n credu, y mae angen inni feddwl am y gwerthoedd sydd gennym ni fel cymdeithas, ac mae angen inni ddatblygu sgwrs genedlaethol ynghylch yr hyn y mae'n ei olygu i ofalu, sut yr ydym yn edrych ar bobl hŷn a sut yr ydym ni'n rhoi grym i bobl hŷn i fyw bywydau cyflawn. Fel plaid, rydym ni wedi sefydlu comisiwn gofal cenedlaethol i edrych yn fanwl ar y mater yma, ac edrych i ad-drefnu'r holl system a sefydlu gwasanaeth gofal cenedlaethol yn y pen draw. Manylion i ddilyn.
Ac fel llefarydd y blaid ar ofal cymdeithasol, rydw i'n benderfynol o roi gofal cymdeithasol a phobl hŷn yng nghanol y ddadl wleidyddol. Beth sy'n glir, fodd bynnag, yw na fydd y ddeddfwriaeth a'r dogfennau polisi yn unig yn gallu delifro'r newid rydym ni am weld. Os ydym am weld cynnydd gwirioneddol yn y maes yma, bydd angen adnoddau arnom hefyd i gyflawni'r weledigaeth honno. Felly, Weinidog, pa sicrwydd a allwch chi ei roi i bobl hŷn Cymru, yn ogystal â geiriau cynnes ac amcanion polisi canmoladwy, y bydd yr arian, yr adnoddau a'r gweithlu angenrheidiol ar gael yn y blynyddoedd nesaf wrth inni geisio sicrhau gwelliannau yn y ffordd yr ydym yn cefnogi pobl hŷn yma yng Nghymru? Diolch yn fawr.
Diolch, Dai. Mae'n ddiddorol mai un o'r agweddau yr oeddech yn sôn amdano oedd y siarad am wasanaeth gofal cenedlaethol neu system ofal genedlaethol. Mae'n ymddangos mewn rhyw ffordd mai dyma'r ffasiwn ar hyn o bryd, siarad am sut yr ydym am ddatblygu dull o weithredu gofal sy'n adeiladu ar yr hyn a wnaethom 'nôl yn y blynyddoedd wedi'r rhyfel ynghylch y gwasanaeth iechyd. Mae'n ddiddorol iawn. Wrth gwrs, byddwch yn ymwybodol mai'r dull o weithredu sydd ar hyn o bryd yn cael ei gymryd dan 'Cymru Iachach', y cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, yw dwyn y ddau gylch at ei gilydd. Rwy'n credu y byddai hwn yn rhywbeth y byddai penseiri gwreiddiol y gwasanaeth iechyd gwladol, pe byddent yn fyw heddiw, yn edrych arno ac yn cydnabod ei fod yn hanfodol, fel bod gan bobl hŷn ac eraill rywbeth sy'n teimlo'n wirioneddol ddi-dor, fel eu bod nhw'n cael eu codi pan fo angen a'u helpu i fyw'n annibynnol gyda gofal di-dor, gofal integredig, o'u cwmpas yn eu cartrefi.
Mae cymaint o enghreifftiau da i'w gweld o'n cwmpas. Roeddwn yn y gogledd ddoe yn edrych ar enghreifftiau ardderchog: y timau sy'n gweithio o Ysbyty Wrecsam Maelor, timau ailalluogi Cwm Taf, y timau cadw'n iach gartref. Mae mwy a mwy o hyn ar gael. Rydym mewn gwirionedd yn rhoi'r arian at hynny, Dai, hefyd. Felly, rydych chi'n gofyn am adnoddau. Rydym yn gwneud hyn mewn nifer o ffyrdd, nid yn lleiaf drwy gyllid yr ICF, ac rydym wedi cyhoeddi £80 miliwn yn ychwanegol o ariannu eleni i sbarduno'r mathau hynny o fentrau gofal canolraddol. Ydym, rydym wedi newid yr ICF ryw ychydig—yn gwbl briodol yn fy marn i—i gynnwys hefyd, er enghraifft, y modd yr ydym yn dod o hyd i atebion creadigol i ddarparu ar gyfer anghenion y plant gydag anghenion cymhleth ac ati. Ond roedd y prif ffocws, ac felly mae'n para i fod hefyd, ar anghenion ein poblogaeth sy'n heneiddio a sut y darparwn hynny orau.
Felly, hyd yn oed mewn amseroedd anodd—fel y nodwyd gan yr Ysgrifennydd cyllid nawr—rydym yn ceisio dod o hyd i arian i hybu arloesedd, ond mae'n fwy na hynny. Yr hyn yr oedd 'Cymru Iachach' yn ei ddangos i ni hefyd, gan adeiladu ar y gefnogaeth drawsbleidiol i'r adolygiad seneddol a'i rhagflaenodd, oedd bod yn rhaid i hyn fod mewn gwirionedd yn rhywbeth creiddiol. Felly, caiff rhan o genedl iachach ei chefnogi gan £100 miliwn o gyllid trawsnewid, nad yw wedi ei gynllunio i efelychu'r hyn sy'n digwydd o fewn yr ICF, felly, gadewch i bob un fynegi ei farn; ac ystyr hyn yw edrych ar yr hyn sy'n digwydd a dweud, 'Sut y gwnawn ni'n siŵr fod hyn yn digwydd nid yn unig mewn un man ond ar draws y rhanbarth?' Ac os gallwn godi hynny a gwneud newid sylweddol ar draws y rhanbarth hwnnw, sut y gallwn wneud hynny mewn ffordd a all gael ei efelychu wedyn mewn rhanbarthau eraill? Felly, rydym yn adeiladu'n gadarn ar y creadigrwydd yr ydym wedi ei weld.
Mae ffyrdd eraill i'w cael: y buddsoddiad a roddwn yn hyn, er enghraifft, nid yn unig i'n strategaeth gofalwyr, ond yr arian y tu ôl i'r gofalwyr hefyd, oherwydd rydym yn sylweddoli os nad ydych yn gofalu am ofalwyr, gan gynnwys rhai gofalwyr hŷn, y nhw eu hunain fydd y bobl fydd angen y gofal. Felly, mae gennym nifer o ffyrdd i geisio rhoi arian i mewn yn y system yn y ffordd gywir ac amlinellwyd rhai ohonyn nhw gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn gynharach.
Rydych chi'n iawn, fodd bynnag, Dai. Ni allwn orffwys ar ein rhwyfau gyda hynny, mae gennym ffordd hir i'w theithio. Rwy'n credu y bu'r comisiynydd pobl hŷn blaenorol, ac rwy'n siŵr y bydd y comisiynydd pobl hŷn newydd, yn ddi-flewyn iawn ar dafod wrth groesawu'r camau yr ydym wedi eu cymryd. Credaf ein bod yn gwneud rhai pethau anhygoel yng Nghymru, a dweud y gwir, ond rydym hefyd yn dweud bod angen inni fynd ymhellach. Rhan o hynny, rhaid imi ddweud, yw, fel sydd wedi cael ei grybwyll sawl tro, gwireddu'r ddeddfwriaeth yr ydym yn ei phasio fel deddfwyr yn y fan hon.
Rwyf wedi crybwyll ychydig o ffyrdd y gallwn wneud hyn, ond un o'r rheini yw dwyn y syniad ymlaen gyda phobl hŷn o ran sut mae gwireddu hyn, ac mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd gyda'r fframwaith ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio. Mae'n edrych ar sut y mae gwneud cyfranogiad gwirioneddol, gan ymdrin â materion trafnidiaeth mewn ardaloedd trefol a gwledig, byw yn y gymuned, yr hyn sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl sy'n byw yn annibynnol yn y gymuned, a hefyd baratoi ar gyfer y dyfodol. Mae rhywfaint o hynny yn cyffwrdd ag unigrwydd ac arwahanrwydd.
Felly, bydd y fforwm cynghori gweinidogol sy'n gyrru'r gwaith hwnnw, ynghyd ag ymgysylltu â phobl hŷn hefyd, yn gweithredu o nawr tan y gwanwyn y flwyddyn nesaf. Yna, byddan nhw'n cyflwyno'r fframwaith a byddwn ninnau'n bwrw ymlaen gyda'r gwaith y maen nhw'n cyfeirio ato ac yn dweud, 'Dyma sut y gwnewch chi i hyn ddigwydd mewn gwirionedd ar lawr gwlad ac adeiladu ar y gwaith a wnaethom ni.' Felly, mae ffyrdd o fwrw ymlaen â hyn, ond croesawaf unwaith eto'r gefnogaeth i sbarduno ac arloesi yn y maes hwn. Nid ydym wedi cyrraedd yno eto ac nid wyf yn credu y cyrhaeddwn byth. Os eisteddwn yn ôl a dweud ein bod ni'n fodlon, byddwn wedi methu. Mae angen inni ddal ati a phwyso ar gyfer gwireddu'r hawliau hyn.
Mae'n bleser gennyf siarad ar y datganiad hwn heddiw, a hoffwn ganolbwyntio yn arbennig ar stori am lwyddiant yn fy etholaeth i fy hun. Cynhaliwyd Diwrnod Gwybodaeth i rai 50 a Throsodd, a gynhelir yn flynyddol, yng Nghasnewydd ddydd Sadwrn diwethaf. Caiff y diwrnod ei drefnu gan Fforwm 50 a throsodd y ddinas ac mae wedi cael cefnogaeth cyngor y ddinas ers dros 20 mlynedd. Roedd yn gyfle gwych i'r comisiynydd pobl hŷn newydd ar gyfer Cymru, Heléna Herklots, weld yr egni a'r brwdfrydedd yng Nghasnewydd i gefnogi heneiddio'n dda, ac roedd pawb yn falch o glywed am ei hymrwymiad i fod yn ddadleuwr dros bobl hŷn a'u hawliau. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda hi yn y dyfodol.
Mae'r diwrnod gwybodaeth yn anhygoel o boblogaidd ac wedi tyfu o flwyddyn i flwyddyn. Nid cyfle yn unig yw hyn i'r cyhoedd gael gwybod pa wybodaeth a chyngor sydd ar gael, ond mae hefyd yn gyfle gwych i grwpiau lleol rwydweithio. Mae'r stondinwyr yn amrywio o grwpiau gweithgarwch cymunedol a rhwydweithiau cymorth gofalwyr i'r rhai sy'n darparu cyngor tai a materion cyfreithiol. Eleni, roedd yn canolbwyntio'n benodol ar gydweithio rhwng y cenedlaethau, gyda grŵp o fyfyrwyr o Ysgol Basaleg, yn ogystal â chadetiaid, yn gwirfoddoli i gefnogi'r Pwyllgor dros 50 oed. Daeth y syniad o gynnwys pobl ifanc oddi wrth aelodau'r fforwm eu hunain, ac maen nhw'n grŵp ymroddedig o wirfoddolwyr.
Tan eleni, cadeiriwyd y grŵp gan yr ysbrydoledig Shirley Evans. Dangosodd Shirley ymroddiad mawr i'r fforwm a'r bobl y mae'n eu cynrychioli am tua 20 mlynedd. Ac fel gyda llawer o bethau, grŵp bychan o wirfoddolwyr sy'n aml yn sbarduno'r digwyddiadau a'r gweithgareddau, ac roedd Shirley yn sicr yn arwain y ffordd. Mae Peter Walters nawr wedi dod â'i allu i'r gadair, gan sicrhau y bydd y fforwm yn parhau i wrando a hyrwyddo achos pobl hŷn ein dinas. Mae Shirley yn dal i ddod i'r cyfarfodydd yn rheolaidd, ac yn enghraifft wych o rywun sy'n parhau i fod yn weithgar heb ganiatáu i oedran fod yn rhwystr.
I nodi dechrau Wythnos Positif am Oed, roedd y digwyddiad ddydd Sadwrn yn ddathliad gwirioneddol o bobl hŷn a'r cyfan y maen nhw'n ei gyfrannu at ein dinas. Ac fel y dywed y Gweinidog, mae pobl hŷn yn ffurfio asgwrn cefn ein cymdeithas. Mae digwyddiadau fel y rhain yn bwysig felly i arddangos y gwasanaethau a'r gweithgareddau sydd ar gael i bobl hŷn. Felly, efallai y gall y Gweinidog sicrhau bod yr arfer da hwn yn cael ei fwydo i ardaloedd eraill yng Nghymru, ac rwy'n siŵr bod y byddai fforwm 50 a throsodd Casnewydd yn croesawu'r Gweinidog yn gynnes i'r digwyddiad poblogaidd hwn y flwyddyn nesaf. Diolch.
Diolch. Gan fod y gwahoddiad wedi dod ymhell o flaen llaw, nid wyf yn credu y bydd gennyf i unrhyw esgus dros beidio â mynd yno nawr. Jayne, diolch yn fawr iawn i chi am hyn, ac rwyf i o'r farn fod hynny'n dangos bob gennym ni i gyd mewn gwirionedd ran i'w chwarae yn lleol yn y digwyddiadau a fynychwn ni a'r digwyddiadau a drefnwn ni yn y ffordd yr ydym mewn gwirionedd yn dathlu bywydau pobl hŷn, a'r cyfraniad a wnânt. Mae angen parhau â hyn, oherwydd rydym ar y blaen, ond mae'n rhaid i ni wneud fel hyn yn amlach er mwyn gwyrdroi'r cysylltiadau negyddol hyn a bortreadir yn aml yn y cyfryngau am bobl hŷn—eu bod yn faich, ac ati. Mewn gwirionedd, heb y bobl hŷn hyn sy'n gwirfoddoli, sy'n gofalu am eu plant, yn edrych ar ôl eu hanwyliaid, sy'n gwneud cymaint, sy'n rhedeg cynlluniau trafnidiaeth cymunedol, sy'n gweithio mewn banciau bwyd, sy'n hebrwng plant i'r ysgol, ac yn y blaen, byddai pethau'n disgyn yn ddarnau, a dweud y gwir—byddent wir. Ond hefyd mae'n ymwneud â'r doethineb a'r profiad. Mae swyddogaeth ar gyfer pobl hŷn—mae'n rhaid dweud hyn fel rhywun sydd newydd droi 55 oed—wrth fod yn rhan o sylfaen y cymunedau hynny. Nid doethineb sefydliadol mohono; y doethineb cymunedol yw hwn. Mae ganddyn nhw flynyddoedd o brofiad ac, mewn gwirionedd, rydych chi'n cyffwrdd ar yr agwedd ryng-genedlaethol honno.
Mae modd ennill ym mhob ffordd. Rydym yn gweld hyn fwyfwy yn sgil mentrau enwog, proffil uchel fel Pimp my Zimmer, a chynlluniau cyfnewid lle mae pobl hŷn yn mynd i mewn i ysgolion a dosbarthiadau darllen a helpu cynorthwywyr athrawon o fewn dosbarthiadau, ond hefyd bobl iau sy'n mynd i gartrefi preswyl. Mae'r ymgysylltiad hwn yn beth gwych i'w weld, ac mae enillion ym mhob ffordd—pobl iau yn mynd o'r ysgol, weithiau fel rhan o Fagloriaeth Cymru, i siarad am atgofion gyda phobl sy'n dioddef dementia, ac yn gweithio gyda nhw yn hynny o beth. Ceir nifer fawr o enillion yn sgil hyn.
Mae gan bawb ohonom ran i'w chwarae, ac rwy'n cefnogi'r achos. Rwy'n siŵr y bydd tîm fy swyddfa i sy'n gwrando ar y ddadl hon wedi clywed y gwahoddiad ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac yn ei roi yn y dyddiadur gydag arddeliad. Byddaf yn awyddus iawn i fynd yno, ac rwyf wedi bod yn y ganolfan honno sawl gwaith. Yn fwyaf diweddar, roeddwn yno gyda grŵp mawr o sefydliadau pobl hŷn—a phobl iau hefyd—yn sôn am faterion unigrwydd a theimlo'n ynysig. Felly, byddaf yn hapus i geisio dod i'r digwyddiad hwnnw'r flwyddyn nesaf, ond diolch yn fawr iawn i chi am eich agwedd tuag at hyn. Gwn fod John, eich cydweithiwr yng Nghasnewydd, wedi dweud yr un peth hefyd: mae gennym ni i gyd ran i'w chwarae wrth ddathlu pobl hŷn.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad heddiw ac am rai o'r mentrau cadarnhaol y mae ef yn eu hamlinellu? Rwy'n teimlo'n weddol gymwys i gymryd rhan yn y ddadl hon, ac efallai y dylwn ddatgan buddiant yn y fan hon.
Caiff llawer o'r pryderon mwyaf sy'n ymwneud â phobl hŷn eu nodi yn eu gallu i ymdrin ag awdurdodau statudol ar faterion fel pryderon ariannol, tai, iechyd, troseddu a theimlo’n ynysig. Mae'r anghenion hyn yn rhan fawr o fyw mewn henaint. Rydym i gyd yn cydnabod bod ysmygu, deiet ac ymarfer corff yn cyfateb yn uniongyrchol i amddifadedd ac iechyd gwael wrth fynd i oedran teg. Mae hyn yn arwain at rai pobl hŷn yn gweld cyfyngiadau gwirioneddol ar eu gallu i ofalu amdanyn nhw eu hunain yn eu henaint. Mae llawer o bobl hŷn yn profi problemau yn eu bywydau bob dydd oherwydd salwch cronig neu anableddau sy'n gysylltiedig ag iechyd. Mae bywydau yn hwy ond nid yw iechyd yn well o reidrwydd. Mae dirywiad y teulu mwy estynedig o'i gymharu â'r oes o'r blaen yn ffactor sy'n gosod llawer o bobl hŷn mewn cartrefi gofal ac i ffwrdd o'u cymunedau ymhell cyn y dylai hynny ddigwydd, ac mae hynny'n ychwanegu at eu hunigedd i ffwrdd o'u ffrindiau a chyfoedion.
Mae'n galonogol i ddarllen yn y datganiad heddiw am y broses o sefydlu tîm ymateb acíwt yn Ysbyty Tywysog Philip, a gynlluniwyd i gadw a thrin pobl yn eu cartrefi. Wrth gwrs, mae hyn yn codi'r cwestiwn, Ysgrifennydd y Cabinet: pa mor gyflym y caiff y rhain eu sefydlu mewn ysbytai eraill?
Unwaith eto, rydym yn cydnabod mai sicrhau nad yw pobl hŷn dan anfantais yn syml oherwydd eu hoedran yw un o heriau mwyaf y cyfnod modern. Yr her honno yw sicrhau bod pob un o'n pobl hŷn yn gallu byw bywydau llawn ac nad ydyn nhw'n cael eu hystyried yn faich ond yn cael eu cydnabod am y cyfraniad a wnaethon nhw gydol eu bywydau i'r economi a'r gymuned yn gyffredin a hefyd i gydnabod bod llawer ohonyn nhw'n dal i gyfrannu at gymdeithas mewn llawer o ffyrdd, gan fod yn aml yn asgwrn cefn llawer o elusennau a gweithgareddau cymdeithasol. Felly, mae'n ddyletswydd ar awdurdodau statudol i sicrhau bod gwasanaethau craidd prif ffrwd ar gael i drigolion hŷn yn yr un modd ag y maen nhw i bobl eraill.
Mae gofal cymdeithasol yn golygu mwy na chael pobl i ymolchi a gwisgo amdanyn nhw. Dylai anelu at helpu pobl i fyw bywydau llawn, gydag urddas. Dylid rhoi trefniadau ariannol ar waith cyn gynted â phosibl, gan ragweld y galw cynyddol ar gostau i ddarparu gwasanaethau i'r dyfodol. Mae crynswth o faterion yn cronni fel dyfroedd mewn argae. Oni fyddwn yn gweithredu'n bendant i atal hyn, bydd yr argae yn torri ryw ddiwrnod gyda chanlyniadau dinistriol, i'r henoed yn arbennig.
Fel y gwyddom, mae Whitehall yn mynnu lleihau cyllid i awdurdodau lleol, sydd wrth gwrs yn effeithio'n sylweddol ar y gwasanaethau y maen nhw'n gallu eu darparu. Rydym yn gwybod hefyd fod Llywodraeth y DU yn mynnu cynyddu ein cyllideb o ran cymorth tramor, er ei bod yn ffaith sydd wedi'i dogfennu'n helaeth fod symiau enfawr o'r arian hwn yn cael eu gwastraffu gan nifer o dderbynwyr mewn llywodraethau tramor ar brosiectau balchder neu ystordai arfau enfawr. Onid yw hi'n hen bryd atal y camddefnydd hwn o arian cyhoeddus a'i wario'n llawer doethach yn nes i gartref a gwneud bywydau ein pobl hŷn yn brofiad llawer gwell nag y bu hyd yn hyn.
David, diolch yn fawr iawn, ac roeddwn gyda chi bob cam o'r ffordd—yr holl ffordd, yr holl ffordd—tan y paragraff terfynol yna. [Chwerthin.] A byddwn yn dweud yn syml mai'r gwahaniaeth rhyngom ni yw hyn: i mi, nid yw cyfiawnder cymdeithasol a chael pobl i fyw bywydau sy'n dda iddyn nhw, eu teuluoedd, eu hanwyliaid yn dechrau nac yn gorffen yn y cartref; mae hynny'n teithio'n rhyngwladol. Gelwais heibio mewn digwyddiad amser cinio heddiw gyda grŵp o blant o Ysgol Hafod yn etholaeth Mike Hedges, rwy'n credu, ac roedden nhw'n codi arian ar gyfer cyfleoedd addysgol i bobl ifanc mewn rhannau o Affrica, gyda sefydliad yn eu helpu, ac roedden nhw wedi codi, rwy'n credu tua £4,000 neu £5,000—roedden nhw'n bwriadu dyblu hynny a datblygu cyfleusterau ar gyfer ysgol. Yr hyn a'm trawodd i oedd bod y bobl ifanc hynny yn deall ac yn mynegi yn eu gweithredoedd yn glir iawn nad oedd eu syniadau am yr hyn sy'n gwneud byd da yn dod i ben yn yr Hafod, nac yn dod i ben yn Abertawe—roedd yn ymestyn dros y byd. A dyna lle'r wyf i'n anghytuno. Gallwn wneud y ddau, David—[Torri ar draws.] Nid wyf i'n credu y gallaf. Mae'n ddrwg gennyf i, David, fe wnelwn fel arall.
Chewch chi ddim, mae'n ddrwg gen i. Datganiad yw hwn, mae'n ddrwg gen i.
Yn anffodus, mewn datganiad, ni allaf wneud hynny. Ond rwy'n credu y byddwch chi'n parhau i ddadlau'r achos dros ganolbwyntio ar ein cynefin, a byddaf innau'n parhau i ddadlau'r achos dros, 'Dylem weithredu o ewyllys da fel hyn yn ein cynefin a thramor hefyd.'
Ond gadewch imi fynd ar drywydd rai o'r pwyntiau lle credaf y cawsom gytundeb gwirioneddol arnynt. Roeddech yn sôn am y trawsnewid—sut yr ystyriwn ni enghreifftiau da fel Ysbyty'r Tywysog Philip? Credaf i mi grybwyll yn fy nghyfraniad cynharach bod enghraifft Ysbyty'r Tywysog Philip a llawer o rai eraill a welaf wrth i mi deithio o amgylch Cymru—nid yw'n enghraifft unigryw mwyach—yn cael ei hysgogi gan arian yr ICF, ac weithiau'n cael eu hysgogi, mae'n rhaid imi ddweud, gan fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol, heb fod cyllid yr ICF yn ei wneud ei hun. Y rheini, trwy eu partneriaeth ranbarthol yn gweithio nawr, sydd weithiau wedi penderfynu cyflwyno hynny. Os edrychwch chi, er enghraifft, ar gadw'n iach gartref Cwm Taf, heb lawer o arian ychwanegol, maen nhw wedi cyflwyno hynny ar draws ardaloedd eang, ond nid yn gwbl gyffredinol. Felly, rydym yn gobeithio y bydd y rhaglen drawsnewid sydd gennym, a gefnogir gan £100 miliwn o gyllid, yn caniatáu hyn i godi hyd at gyfradd lefel ranbarthol ac yn cael ei hefelychu hefyd. Felly, mae'r hyn sy'n aruchel a newydd yn dod yn gyffredin a phrif-ffrwd. Ond, wrth gwrs, nid yw cyllid ICF o £80 miliwn y flwyddyn hon, a'r gronfa drawsnewid o £100 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf, yn ddim o'u cymharu â £9 biliwn yn y gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol. Felly, os oes modd inni mewn gwirionedd gael y pethau hyn wedi eu prif ffrydio i'r gyllideb honno, i'r meddylfryd hwnnw, yna rydym mewn gwirionedd wedi torri asgwrn cefn hyn. Ac rwy'n dechrau gweld—Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a minnau, sy'n mynd ar deithiau diddiwedd o'r wlad ar y cyd yn siarad â'r byrddau partneriaeth rhanbarthol—rydym yn gweld nawr eu bod nhw'n gynyddol berchnogi'r broses hon eu hunain ac yn dod atom ni ac yn dweud, 'Dyma'r hyn yr ydym yn credu y gallwn ei wneud, nid yn unig gydag arian ychwanegol, ond fel rhan o'r cyllid craidd, oherwydd hynny fydd yn gwneud gwahaniaeth i bobl hŷn.'
Ond mae gennym ni hefyd, wrth gwrs, yn sail i hyn, y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant. Ni allaf gymryd unrhyw glod am hynny—rhoddwyd hynny ar waith gan ragflaenwyr yn y Cynulliad blaenorol—ond rwy'n dweud wrthych chi, pan ymwelais â chyfleuster preswyl Hafod yng Nghaerffili tua dau neu dri mis yn ôl, aeth y bachgen ifanc oedd yn ein dangos ni o gwmpas, Geraint, â ni i ymweld â theulu ag unigolyn â dementia: yn gwbl wahanol i'r hyn fyddech chi efallai wedi ei weld flynyddoedd yn ôl, oherwydd roedd gan y gŵr bonheddig a gyflwynwyd i mi ddementia cynyddol—roedden nhw'n gwybod o drafodaethau gydag ef, ond hefyd gyda'i deulu, ei fod yn arddwr brwd iawn, ac wedi bod felly erioed. Felly, roedden nhw wedi paratoi cynllun unigol iddo—roedd y cynllun unigol, yn unol â Deddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant—cynllun unigol iddo ef a'i deulu, yn golygu mai ef mewn gwirionedd oedd yr un â chyfrifoldeb am yr holl waith garddio o gwmpas y lle. Y budd iddo ef, o ran ei annibyniaeth ac urddas a statws, oedd nad oedd yn cael ei ystyried yn rhywun a eisteddai yno'n dawel—ac nid oedd angen llawer iawn o feddyginiaeth ac ati arno; roedd yn rhan annatod o redeg y cyfleuster hwnnw, yn rhan bwysig ohono—ac roedd aelodau ei deulu wrth eu bodd ac roedd ef wrth ei fodd.
Felly, rydym yn dechrau gwneud y pethau hyn yn ymarferol, ond mae pethau eraill y gallwn eu gwneud hefyd. Er enghraifft, yn ogystal â'r rheoliadau RISCA yr ydym yn eu rhoi gerbron yn y fan hon ar hyn o bryd, mae gennym strategaeth gwella cartrefi gofal sy'n mynd rhagddi a fydd—. Nid yw'n fater o ddweud ein bod yn cyrraedd pwynt ac yn ei dderbyn—gwelliant cyson ydyw, ac rwy'n gobeithio y bydd llawer o'r Aelodau yma, wrth iddyn nhw ymweld â chartrefi preswyl y dyddiau hyn, yn gweld y gwahaniaeth sydd yn y dull gweithredu. Ac ar ben hynny, rydym yn ychwanegu cofrestru'r gweithlu gofal cartref ac yn symud ymlaen at gofrestru a phroffesiynoli gweithlu'r cartrefi preswyl. Bydd yr holl bethau hyn yn cael effaith sylweddol ar ansawdd bywyd ein pobl hŷn.
Ac yna, ar gyfer y rheini sy'n byw yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, y cyllid cyfalaf a gyhoeddodd y Gweinidog tai a minnau yn ddiweddar fydd yn galluogi awdurdodau lleol i weithio gyda chymdeithasau tai gydag arian cyfalaf i ddarparu cymunedau sy'n gyfeillgar i dementia, er enghraifft. Felly, nid oes rhaid i hynny fod o reidrwydd mewn cartref preswyl, gallai fod mewn bwthyn lle cânt gymorth i fyw yn annibynnol, gyda darpariaeth ddigidol gofleidiol i gadw llygad arnyn nhw ac ati: ffyrdd newydd o feddwl, yn canolbwyntio'r arian ar y canlyniadau iawn. A chan ddod yn ôl at bwynt Dai, ni fyddwn yn cyrraedd yno dros nos, ond mae hon yn ffordd wahanol o feddwl sy'n rhoi'r unigolyn yn y canol—dymuniadau ydyn nhw, dyheadau ydyn nhw—ac yna rydych yn ei saernïo o'u cwmpas nhw, ac rydym yn dechrau gwneud pethau diddorol iawn.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.