Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 3 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:41, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Nid wyf yn eich amau ​​pan ddywedwch wrthym mai polisi Llafur Cymru yw eich polisi chi, ond rwy'n dweud wrthych ei fod hefyd yn un o bolisïau Torïaid y DU, sy'n amlwg braidd yn anghyfforddus i chi a'ch Aelodau ar y meinciau cefn, rwy'n siŵr. Nawr, yn ogystal â chael gwared ar y rhwyd ​​ddiogelwch y cyfeiriais ati i ffermwyr Cymru yn y cyfnod anodd hwn o ran Brexit, o dan eich cynigion, wrth gwrs, bydd cyllid bellach ar gael—neu argymhellir ei fod ar gael—i bob rheolwr tir, yn hytrach na’i fod ar gael i ffermwyr gweithredol yn unig. Nawr, bydd hyn, wrth gwrs, yn seiffno buddsoddiad oddi wrth y teuluoedd ffermio pan wyddom fod pob punt a fuddsoddir mewn fferm yn cynhyrchu £7 i'r economi wledig. O dan eich cynigion, bellach gallem weld sefydliadau bancio, cronfeydd pensiwn a ffermwyr anweithredol eraill—nad ydynt yn gwneud unrhyw gyfraniad, mewn gwirionedd, i'r economi neu'r gymuned leol—yn elwa o gynigion Llafur a chynigion Torïaid y DU hefyd. Nawr, cred Plaid Cymru y dylai unrhyw system newydd ôl-Brexit gyfeirio’r cymorth at ffermwyr gweithredol, yn hytrach na gwobrwyo perchnogaeth tir ynddi'i hun. Felly, a wnewch chi ailystyried y cynnig a sicrhau bod cymorth i ffermio yng Nghymru yn cael ei dargedu at y ffermwyr gweithredol, sef y rhai sy'n cymryd y risg ariannol sy'n gysylltiedig â chynhyrchu ein bwyd?