Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 3 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:43, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Ymddengys fod yr Aelod yn awyddus iawn i glymu’r ddau beth gyda'i gilydd—cynigion Cymru a chynigion Llywodraeth y DU. Os edrychwch yn galed iawn, fe welwch fod llawer o wahaniaethau—cynhyrchu bwyd, i ddechrau. Rydym wedi sicrhau bod cynhyrchu bwyd wrth wraidd y cynllun cadernid economaidd. Yn sicr, rwyf am gadw ffermwyr gweithredol ar y tir. Rwyf wedi dweud hynny'n glir iawn. Rydych yn gofyn a fyddaf yn ailystyried. Mae’n destun ymgynghoriad. Rydym eisoes wedi cael oddeutu 3,000 o ymatebion, rwy'n credu, hyd at yr wythnos diwethaf. Rwy'n gystadleuol iawn. Rwyf am weld mwy o ymatebion nag y cafodd DEFRA, pro rata. Felly, rwy'n awyddus iawn i annog pobl i ddweud eu barn. Ond holl bwynt yr ymarfer hwn yw sicrhau bod ein ffermwyr yn parhau i ffermio. Mae arnom angen iddynt wneud hynny, a dyna fydd yn digwydd gyda'n polisi.