Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 3 Hydref 2018.
Diolch, Lywydd. Pan argymhellodd eich rhagflaenydd newidiadau arfaethedig i gyllid amaethyddol yng Nghymru, Ysgrifennydd y Cabinet, cyhoeddwyd asesiadau manwl a modelu helaeth gan y Llywodraeth o'r effaith y byddai'r newidiadau arfaethedig yn ei chael ar bob math o fferm, ar bob sector amaethyddol, hyd yn oed yr effaith ar swyddi yn yr holl ardaloedd awdurdod lleol sydd gennym yma yng Nghymru. Nawr, o ystyried y gallai eich cynigion diweddaraf yn 'Brexit a'n tir' arwain at y newid mwyaf—neu fe fyddant, yn ddiamau, yn arwain at y newid mwyaf—o ran cymorth fferm yng Nghymru ers cenedlaethau, a allwch ddweud wrthym pa ddadansoddiad a pha asesiadau effaith rydych wedi'u cynnal fel y gall eich safbwynt fod mor wybodus â phosibl, ond hefyd fel y gall y bobl sy'n ymateb i'r ymgynghoriad wneud hynny mewn modd trwyadl a chadarn?