Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 3 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:37, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Felly, bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod yn ymgynghori, a dyna lle rydym ar hyn o bryd. Rwyf wedi dweud yn glir iawn nad oes penderfyniad wedi'i wneud mewn perthynas â chyfansoddiad y cynlluniau. Rydym wedi dweud y bydd taliadau uniongyrchol yn dod i ben. Ond bydd y gwaith modelu y credaf y byddwch ei eisiau yn digwydd ar y polisi ar gyfer y dyfodol. Felly, gan ein bod yn ymgynghori ar natur lefel uchel y polisi hwnnw yn gyntaf, nid wyf am weld unrhyw ragfarnu ynghylch unrhyw ymarfer ymgynghori. Mae gennym waith modelu manwl o'r hyn y gallai Brexit ei olygu i'r sector amaethyddol, ond nid ydym wedi gwneud gwaith modelu manwl ar y pwyntiau rydych newydd eu gwneud.