Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 3 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 1:56, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs, mae hwn wedi bod yn bwnc llosg yn y Pwyllgor Deisebau, lle profwyd bod ymateb aruthrol i'w gael ledled Cymru o blaid gosod teledu cylch cyfyng. Er fy mod yn derbyn bod cynnydd yn cael ei wneud yn hyn o beth, bydd teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai yn bendant yn sicrhau y datgelir ac yr eir i'r afael â chamdriniaeth. Mae hwn yn gam pwysig o ran sicrhau bod gennym lefelau diogelwch uchel iawn mewn perthynas â lles anifeiliaid yng Nghymru ac y gallwn fod yn esiampl i eraill. Rydych wedi crybwyll y cynllun buddsoddi mewn busnesau bwyd gwerth £1.1 miliwn, sef pecyn cymorth grant ar gyfer lladd-dai bach a chanolig yng Nghymru, ond pa brosesau rydych am eu rhoi ar waith i sicrhau bod y rheini sy'n derbyn y cymorth grant yn defnyddio'r arian hwnnw ar gyfer gosod teledu cylch cyfyng, a beth rydych yn mynd i'w wneud am y rhai sydd ond yn gwneud sioe fawr o'r canllawiau a'r cymorth ar gyfer hyn, o ran y lladd-dai llai o faint sy'n gwrthwynebu ei osod? Beth sydd gan bobl i'w guddio?