Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 3 Hydref 2018.
Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig gwybod bod nifer o reolaethau eisoes ar waith mewn lladd-dai. Mae milfeddygon swyddogol yn bresennol ym mhob lladd-dy pan fydd anifeiliaid yn cael eu lladd er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'r rheoliadau. Mewn ymateb i'ch cwestiwn ynglŷn â sut y gallwn sicrhau bod y cyllid yn cael ei ddefnyddio at y diben y gwnaed cais amdano, yn amlwg, caiff hyn ei fonitro yn agos iawn, ond rydym hefyd yn gweithio gyda'r lladd-dai bach a chanolig hyn yn y lle cyntaf i'w cynorthwyo i wneud y cais ac i sicrhau wedyn, fel y dywedwch, fod yr arian hwnnw'n cael ei ddefnyddio at y diben cywir. Rydym wedi darparu canllawiau helaeth, er enghraifft. Ychydig iawn o ladd-dai sydd heb deledu cylch cyfyng bellach. Felly, mae modd gweithio gyda hwy yn agosach o lawer na phe bai nifer helaeth ohonynt.