Tipio Anghyfreithlon

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 3 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 1:58, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn anffodus, mae rhannau o fy etholaeth yn dal i ddioddef problemau helaeth yn sgil tipio anghyfreithlon. Mae'n anodd deall meddylfryd pobl sy'n gyrru cerbyd i fyny bryn ac yn dympio sbwriel, ac yn achosi malltod gweledol mewn ardaloedd o harddwch naturiol fel comin Gelligaer. Credaf fod llawer o'r problemau hyn yn deillio o weithredwyr didrwydded sydd wedi cael eu talu gyda phob ewyllys da i gael gwared ar sbwriel tai a'r diwydiant adeiladu. Os mai'r canlyniad y mae pob un ohonom yn dymuno'i weld yw llai o dipio anghyfreithlon, a allwch roi gwybod i mi a yw Llywodraeth Cymru neu unrhyw un arall wedi archwilio'r cydbwysedd rhwng yr abwyd a'r ffon yn y sefyllfaoedd hyn a allai annog agwedd fwy cyfrifol, ac a ydych, er enghraifft, wedi ystyried costeffeithiolrwydd cael gwared ar daliadau ar safleoedd gwaredu yn erbyn cost clirio tipio anghyfreithlon i awdurdodau lleol?