Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 3 Hydref 2018.
Iawn, ond a yw hynny'n golygu, yn amlwg, fod barn wedi'i cheisio a'u bod yn cydymffurfio â rheolau Sefydliad Masnach y Byd? Diolch am nodi hynny, Ysgrifennydd y Cabinet.
O ran yr asesiadau o'r effaith economaidd a grybwyllwyd gan y siaradwr blaenorol rwy'n credu, o gofio nad yw'r asesiadau effaith hynny wedi'u gwneud, fel y dywedasoch, mae'n bwysig iawn fod y diwydiant a’r rhai sy’n cymryd rhan yn y broses hon yn deall yn eglur y bydd yna amserlen ar gyfer gwneud yr asesiadau hynny. Pa amserlen y gallwch ei rhoi inni heddiw? Credaf y byddai'r rhan fwyaf o bobl wedi hoffi rhyw fath o ddealltwriaeth fod yr asesiadau effaith hyn eisoes wedi'u cwblhau ar y gwahanol gynigion gan y byddai'r broses fodelu honno'n dylanwadu'n fawr ar rai o'r penderfyniadau yr oedd angen eu gwneud. Ond yn absenoldeb yr asesiadau hynny, yn ôl pa amserlen y gweithiwch i sicrhau bod yr asesiadau hynny'n cael eu cwblhau, o gofio'r amserlen dynn iawn rydych wedi'i gosod ar gyfer y cyfnod pontio wrth ddiwygio'r polisïau hyn?