Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 3 Hydref 2018.
Rydym wedi ymrwymo i gynnal asesiadau effaith llawn yn amlwg, ac unwaith eto, wrth weithio gyda'r rhanddeiliaid o gwmpas y ford gron, maent yn ymwybodol iawn o hynny. Felly, daw'r ymgynghoriad i ben ar 30 Hydref. Wedyn, bydd yn rhaid inni asesu'r ymatebion a gawsom. Rwyf wedi dweud yn glir iawn y byddwn yn ymgynghori eto yn y gwanwyn ar y cynigion a gaiff eu cyflwyno yn sgil yr ymgynghoriad, felly buaswn yn dweud os—erbyn diwedd mis Tachwedd, pan gaiff y ffair aeaf ei chynnal, er enghraifft, buaswn yn gobeithio gallu bod mewn sefyllfa erbyn diwedd mis Tachwedd i bennu amserlen fwy pendant, os mynnwch, ar gyfer yr adeg y bydd y cynigion hyn yn cael eu cyflwyno. Ond fel y dywedaf, rydym wedi dweud y gwanwyn, byddwn yn ymgynghori eto yn y gwanwyn, felly bydd hynny'n digwydd rhwng y ddwy adeg honno. Ond rwy'n gobeithio bod fod yn fwy penodol, yn ôl pob tebyg tua diwedd mis Tachwedd.