Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 3 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 2:26, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, mae Castell-nedd Port Talbot, fel pob un o gynghorau Cymru, yn gorfod lleihau'r ddarpariaeth gofal cymdeithasol o ganlyniad i ddiffygion enfawr yn eu cyllidebau. Mae'r ddarpariaeth gofal cymdeithasol yn un o'r gwasanaethau pwysicaf y mae awdurdod lleol yn eu darparu. Pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch cydweithwyr mewn llywodraeth leol ynglŷn â'r camau y gallant eu cymryd i ddiogelu a gwella'r ddarpariaeth gofal cymdeithasol fel y gallant osgoi cau gwasanaethau y mae cymaint o bobl yn dibynnu arnynt?