Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 3 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:25, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cytuno â hynny, a bydd yr Aelod yn gwybod o'i brofiad ei hun fod awdurdodau lleol yng Nghymru wedi'u diogelu mewn ffordd nad ydynt wedi cael eu diogelu yn Lloegr. Er ein bod yn cael sgyrsiau anodd iawn weithiau yn ein gwahanol gyfarfodydd â llywodraeth leol, wyddoch chi, rwyf eto i glywed arweinwyr llywodraeth leol yn dweud, 'Yr hyn sydd ei angen arnom yw'r polisïau sy'n cael eu darparu dros y ffin yn Lloegr'? Felly, rydym yn gwneud ein gorau i ddiogelu llywodraeth leol, ond rwyf hefyd yn cydnabod bod hynny'n anodd i arweinwyr awdurdodau lleol ar hyn o bryd, ac y bydd yn parhau i fod yn anodd am beth amser yn y dyfodol. Rwy'n hyderus fod y fformiwla ariannu bresennol a'r strwythurau cyllido sydd gennym ar waith yn golygu bod Castell-nedd Port Talbot, fel pob awdurdod lleol arall, yn cael yr hyn y mae ganddynt hawl i'w gael—setliad teg—er nad dyma'r setliad y byddent hwy na minnau wedi dymuno'i gael. Clywsom Brif Weinidog y DU y bore yma yn dweud bod oes cyni wedi dod i ben. Wel, rwy'n edrych ymlaen at weld ei llyfr siec.