Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 3 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 2:24, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, er fy mod yn gwerthfawrogi'r datganiad ddoe a oedd yn n nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu'r cynnydd mewn cyflogau athrawon, mae cyngor Castell-nedd Port Talbot yn dal i wynebu diffyg enfawr yn eu cyllideb, a byddant yn wynebu'r heriau y mae'n rhaid iddynt eu hwynebu er mwyn gwneud toriadau nad oes unrhyw un am eu gwneud i'n gwasanaethau cyhoeddus. A wnewch chi felly edrych ar anghenion y cymunedau, gan mai honno yw'r elfen allweddol? Yn aml, mae angen inni fyfyrio ar yr anghenion a'r amddifadedd yn y bwrdeistrefi sirol i sicrhau eu bod yn cael eu trin yn deg gan Lywodraeth Cymru fel y gallant ddarparu'r gwasanaethau y maent wedi blino ar orfod eu torri hyd at yr asgwrn bob blwyddyn. Credaf ei bod hi'n bryd inni gefnogi'r cynghorau lleol er mwyn sicrhau eu bod yn gallu darparu gwasanaethau i'r bobl leol.