Atal Tanau Trydanol

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 3 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:57, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Ers peth amser, rydym wedi ariannu tri awdurdod tân ac achub yng Nghymru i ddarparu archwiliadau diogelwch yn y cartref yn rhad ac am ddim i ddeiliaid tai. Bydd y gwiriadau hyn yn cwmpasu pob agwedd ar ddiogelwch tân, yn ogystal â pheryglon eraill fel codymau, a deallaf fod oddeutu 60,000 o wiriadau o'r fath yn cael eu cynnal bob blwyddyn, ac maent yn canolbwyntio ar y risg mwyaf o dân yn y cartref. Ond credaf fod y pwynt ehangach gan yr Aelod dros Sir Fynwy wedi'i wneud yn dda. Rydym wedi gweld gostyngiad yn nifer yr achosion o danau domestig, ac mae hynny'n golygu bod angen inni sicrhau yn awr y gallwn barhau i hysbysu'r boblogaeth am ffyrdd y gallant leihau eu risg ymhellach. Credaf fod rôl y diffoddwyr tân a'r awdurdodau tân yn hynny o beth yn parhau i fod yn ganolog i hynny, ac rydym yn cynnal sgyrsiau â'r diffoddwyr tân a'r awdurdodau tân ynglŷn â sut y gallwn wneud hynny, gan gynnwys edrych ar rôl newidiol y diffoddwyr tân ar gyfer y dyfodol.