Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 3 Hydref 2018.
Mae Joyce Watson wedi rhoi sylw i'r rhan fwyaf o elfennau'r cwestiwn hwn yn ei chwestiwn atodol. Rwyf finnau hefyd wedi darllen yr un adroddiad ac chredaf ei fod yn ddiddorol os edrychwch ar yr hyn nad yw'n achosi'r cynnydd hwn mewn tanau domestig lawn cymaint â'r hyn sy'n ei achosi—mae e-sigaréts wedi cael eu diystyru, mae poblogaeth sy'n heneiddio wedi cael ei ddiystyru, ac ysmygu hefyd. Felly, mae'n gynnydd penodol iawn, o sylfaen isel, rhaid cyfaddef, mewn un math penodol o dân yng Nghymru yn gyffredinol. Mae'n rhaid i hyn fod yn fater o godi ymwybyddiaeth ac mae'n rhaid iddo fod yn fater o addysg. Ni ellir gadael hyn i ddiffoddwyr tân, sy'n aml yn gorfod dod i'r adwy a diffodd y tân yn y pen draw. Tybed a allech chi ddweud rhywfaint mwy wrthym, Ysgrifennydd y Cabinet, ynglŷn â sut rydych yn bwriadu codi ymwybyddiaeth a sut rydych yn bwriadu addysgu'r boblogaeth, gan weithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg o bosibl, ac o oedran cynharach efallai er mwyn gwneud yn siŵr fod pobl yn yn ymwybodol o beryglon hen osodiadau trydanol, peryglon hen gyfarpar, a'r angen i wneud yn siŵr fod cartrefi'n cael eu monitro er mwyn sicrhau ein bod yn dileu holl achosion posibl tanau domestig.