Atal Tanau Trydanol

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 3 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 2:54, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Roeddwn yn falch iawn o weld adroddiad diweddar sy'n dangos bod tanau yng Nghymru bellach ar y lefel isaf erioed. Mae'r ymchwil yn dangos eu bod wedi bod yn gostwng yn raddol dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae'r gwasanaethau tân ac achub wedi gwneud gwaith gwych drwy addysg ac ymgysylltiad cymunedol, ac mae hynny wedi chwarae rhan fawr yn y gostyngiad. Ond mae'r adroddiad sy'n nodi bod tanau trydanol domestig wedi mynd yn groes i'r duedd honno, ac wedi cynyddu mewn gwirionedd, yn peri pryder i mi. Mae hynny'n bennaf yn cynnwys tanau sy'n tarddu o'r cyflenwad trydan mewn cartrefi, megis gwifrau, byrddau ffiws a socedi. Ysgrifennydd y Cabinet, yn sgil y canfyddiad hwnnw, rwy'n awyddus i wybod pa rwymedigaethau sydd ar landlordiaid preifat i sicrhau bod eu heiddo mor ddiogel â phosibl rhag tanau trydanol domestig?