Atal Tanau Trydanol

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 3 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:55, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r darpariaethau a wnaed o dan y ddeddfwriaeth rhentu cartrefi diweddar, a'n bwriad ni yw sicrhau bod y darpariaethau hynny'n cael eu gorfodi. Os oes gan yr Aelod unrhyw dystiolaeth i ddangos nad ydynt yn cael eu gorfodi, buaswn yn hapus iawn i fynd i'r afael â hynny gyda hi. Fe ddywedaf hyn: rydym wedi gweld gostyngiad sylweddol mewn tanau yn y sector domestig yng Nghymru ers amser maith, ac maent bellach ar y lefel isaf erioed. Mae cynnal y duedd yn galw am ddealltwriaeth lawn o risgiau newidiol tân. Lywydd, bydd yr Aelodau'n gwybod fy mod wneud gwneud datganiad ysgrifenedig ar y mater hwn cyn toriad yr haf, ym mis Gorffennaf. Rydym yn parhau i weithio gydag awdurdodau tân ac achub i sicrhau ein bod yn deall pam fod tanau'n cael eu hachosi a pham fod cynnydd wedi bod mewn tanau trydanol, a hefyd i sicrhau ein bod yn gallu gwneud y gwaith gorfodi angenrheidiol er mwyn gwneud yn siŵr fod pobl yn ddiogel yn eu cartrefi.