6. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau: Deiseb P-04-682 Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 3 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 3:25, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Yn ein hadroddiad ar y ddeiseb hon, rydym wedi gwneud 10 argymhelliad i Lywodraeth Cymru. Credwn y byddai'r rhain yn helpu i wneud diagnosis a rhoi triniaeth amserol ar gyfer diabetes math 1. Mae'r pwyllgor yn croesawu'r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi derbyn pob un o'n hargymhellion mewn egwyddor o leiaf. Rydym yn gobeithio bod hyn yn dangos ymrwymiad a rennir i wneud cynnydd yn y maes hwn, er y byddaf yn gofyn am ragor o wybodaeth ar rai agweddau ar ei ymateb yn ystod y ddadl y prynhawn yma.

Fel y dywedais eisoes, mae diagnosis amserol o ddiabetes math 1 yn hollbwysig. Mae DKA yn gyflwr sy'n peryglu bywyd ac yn brofiad trawmatig i blant a'u teuluoedd. Yn wir, mae cynllun cyflawni Llywodraeth Cymru ar gyfer diabetes yn tynnu sylw at yr angen am archwiliad brys o lefel y glwcos yn y gwaed ac atgyfeirio at wasanaethau arbenigol ar unwaith os ceir unrhyw amheuaeth o ddiabetes. Fodd bynnag, nododd ein hymchwiliadau nifer o rwystrau i ddiagnosis cynnar. Mae'r rhain yn cynnwys: lefel isel o ymwybyddiaeth a gallu i adnabod diabetes math 1 yn gyffredinol; diffygion posibl yng ngwybodaeth a hyfforddiant staff; a phryderon ynglŷn â diffyg mynediad at offer profi cyflym mewn gofal sylfaenol.

Mae ein hargymhellion yn ceisio mynd i'r afael â’r rhwystrau hyn. Mae argymhelliad 1 yn galw ar Lywodraeth Cymru i geisio sicrhau y gofynnir ynglŷn â'r symptomau 4T fel mater o drefn wrth weld plant sâl mewn gofal sylfaenol, a bod profion priodol yn cael eu gwneud os oes angen. Mae ein hail argymhelliad yn ymwneud â gweithredu canllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal mewn perthynas â’r mater hwn. Wrth dderbyn yr argymhellion hyn, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cymeradwyo canllawiau NICE ac wedi pwysleisio’r angen i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ddefnyddio eu crebwyll clinigol.

Rydym yn falch, wrth gwrs, fod y Llywodraeth wedi derbyn byrdwn ein hargymhellion. Serch hynny, rydym yn gwybod, nid yn lleiaf o achos Peter Baldwin, nad yw clinigwyr bob amser yn gofyn am y 4T yn benodol ac mae’n bosibl na fydd rhieni'n eu crybwyll heb gael eu hatgoffa. Felly, hoffwn ailadrodd barn y pwyllgor fod ymgyngoriadau meddygon teulu yn gyfle allweddol i wneud diagnosis o ddiabetes math 1. Credwn y dylai Llywodraeth Cymru gymryd pob cam posibl i sicrhau bod y cwestiynau cywir yn cael eu gofyn ym maes gofal sylfaenol, er mwyn ceisio osgoi rhagor o achosion lle nad yw diabetes math 1 yn cael ei ganfod hyd nes ei bod yn rhy hwyr.

Yn hyn o beth, un cam mawr ymlaen yn ystod oes y ddeiseb hon yw datblygiad y llwybr atgyfeirio cenedlaethol ar gyfer diabetes math 1. Mae'n pwysleisio’r 4T ac y dylid trin unrhyw achos lle y ceir unrhyw amheuaeth o ddiabetes math 1 fel argyfwng meddygol. Cafodd y llwybr hwn ei ddatblygu gan Rwydwaith Diabetes Cymru i Blant a Phobl Ifanc, a’i dreialu ym mwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro, ac mae bellach wedi cael ei ddosbarthu i bob bwrdd iechyd. Mae'r pwyllgor yn croesawu'r ffaith bod y llwybr hwn wedi cael ei gyflwyno mor gyflym.

Wrth dderbyn argymhelliad 6 yn ein hadroddiad, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi datgan y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrwydd gan y byrddau iechyd fod y llwybr yn cael ei fabwysiadu'n lleol. Rwy'n gobeithio y bydd hefyd yn gallu cadarnhau heddiw ei fod yn disgwyl i fyrddau iechyd gynnig hyfforddiant i feddygon teulu i gyd-fynd â’r llwybr newydd, gan ein bod yn deall bod hyn yn un o gryfderau'r ymarfer peilot yng Nghaerdydd a'r Fro.

Mynegwyd pryderon wrthym hefyd ynglŷn ag argaeledd offer profi mewn gofal sylfaenol. Mae’r deisebwyr wedi galw am sicrhau bod gan bob meddyg teulu fynediad ar unwaith at offer profi pigo bys ar gyfer mesur lefel y glwcos yn y gwaed, ac mae’r pwyllgor wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru geisio sicrwydd gan y byrddau iechyd i'r perwyl hwn. Rydym yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi datgan bod canllawiau eisoes wedi'u dosbarthu ac y bydd sicrwydd yn cael ei geisio. Byddai'r pwyllgor yn croesawu unrhyw wybodaeth newydd y gall ei rhoi am y gwaith hwn heddiw.

Roedd argymhelliad 7 yn ein hadroddiad yn cyfeirio at yr angen i fonitro cynnydd mewn perthynas â diagnosis o ddiabetes math 1. Yn ei ymateb, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn cyfeirio at yr archwiliad diabetes pediatrig cenedlaethol a oedd eisoes yn bodoli. Mae'r pwyllgor yn deall bod hwn yn cynnwys dynodiad o nifer yr achosion lle cafwyd diagnosis pan fo DKA eisoes yn bresennol. Fodd bynnag, nid yw'n casglu manylion am y broses o wneud diagnosis ac mae ein hargymhelliad yn herio'r Llywodraeth a'r byrddau iechyd o ran sut y gellir monitro gwelliannau ar y cam hwn o'r broses. Felly, gofynnaf i Ysgrifennydd y Cabinet fynd i'r afael â sut y gellid cyflawni'r gwaith monitro hwn. Un dull posibl fyddai drwy fonitro’r cynllun cyflawni ar gyfer diabetes bob blwyddyn. Er bod y cynllun yn amlygu pwysigrwydd canfod diabetes math 1 yn gynnar, nid oes unrhyw fanylion ynglŷn â diagnosis yn y datganiad cynnydd diweddaraf a gyhoeddwyd. Felly, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet ystyried sut y gall y Llywodraeth adrodd ar gynnydd yn y maes hwn yn well wrth roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun cyflawni ar gyfer diabetes yn y dyfodol.

Y mater olaf a godwyd gan y teulu Baldwin a’n hadroddiad yw ymwybyddiaeth y cyhoedd o ddiabetes math 1 a’i symptomau. Rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru wneud rhagor o waith i dynnu sylw at symptomau diabetes math 1 ac i ddarparu gwybodaeth ychwanegol yn y deunydd a roddir i ddarpar rieni a rhieni newydd, megis drwy gofnod iechyd personol y plentyn, a adwaenir hefyd fel 'y llyfr coch'.

Tra bo dau o'n hargymhellion yn y cyswllt hwn wedi'u derbyn mewn egwyddor, nid yw’r naratif sy’n cefnogi hyn i'w weld yn dangos llawer o weithgarwch newydd neu wahanol. Y cyfiawnhad a roddwyd i ni yw bod symptomau diabetes math 1 yn aml yn ymddangos gryn dipyn o amser ar ôl genedigaeth. Wel, er ein bod yn cydnabod bod hyn yn wir, mae’r pwyllgor o’r farn fod rhieni'n agored iawn i negeseuon iechyd plant yn ystod y blynyddoedd cynnar ac mae'r 4T yn neges syml, hawdd ei chofio, yn yr un ffordd ag a ddigwyddodd gyda llid yr ymennydd er enghraifft. Byddem ni a’r deisebwyr yn gwerthfawrogi pe baech yn archwilio’n llawn y dulliau o ledaenu negeseuon am symptomau diabetes math 1 ymysg rhieni ac eraill sydd mewn cysylltiad â phlant a phobl ifanc. Rydym yn credu bod hyn yn eithriadol o bwysig o ystyried yr angen i weithredu'n gyflym pan fo symptomau diabetes math 1 yn ymddangos.

I gloi, Lywydd, hoffwn bwysleisio bod ystyried amgylchiadau’r ddeiseb hon wedi bod yn brofiad trist a sobreiddiol iawn i’r Pwyllgor Deisebau, ond hefyd yn fraint fawr. Dylai dewrder aruthrol teulu Peter wrth iddynt geisio sicrhau bod newid cadarnhaol yn deillio o amgylchiadau mor ofnadwy ennyn parch enfawr. Rwy’n diolch i bob un ohonynt, ar ran y Pwyllgor Deisebau, am eu gwaith parhaus. Rwyf hefyd yn croesawu ymatebion cadarnhaol Ysgrifennydd y Cabinet i'n hargymhellion, ac rwy'n gobeithio y bydd yn ystyried y pwyntiau ychwanegol a godir gan y pwyllgor a chan Aelodau eraill y prynhawn yma. Diolch yn fawr.