7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Colli Babanoad

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 3 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 4:10, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i agor y ddadl Aelodau unigol ar golli babanod. Yn anffodus, nid yw colli baban yn ystod beichiogrwydd a marwolaeth baban yn ddigwyddiadau anghyffredin. Daw un o bob pedwar beichiogrwydd i ben drwy gamesgoriad, ac ar draws y DU, mae 15 o fabanod yn marw bob dydd naill ai cyn, yn ystod neu'n fuan ar ôl genedigaeth, sy'n golygu bod miloedd o rieni yn mynd drwy drasiedi marwolaeth eu baban.

Mae'r rhan fwyaf o farwolaethau ymhlith plant yn y DU yn digwydd o fewn y flwyddyn gyntaf o fywyd. Marwolaethau newyddenedigol—marwolaeth baban o fewn pedair wythnos gyntaf bywyd—yw rhwng 70 y cant ac 80 y cant o'r holl farwolaethau babanod ledled y DU. Ac yng Nghymru, yn 2016, aeth teuluoedd 263 o fabanod drwy artaith eu baban yn marw neu'n cael eu geni'n farw-anedig. Golyga hyn fod y mwyafrif helaeth o rieni a fydd angen cymorth ar ôl marwolaeth plentyn yn rhieni i fabanod ifanc iawn sy'n 28 diwrnod oed neu'n iau. Mae ansawdd y gofal y bydd teuluoedd mewn profedigaeth yn ei gael ar ôl colli baban yn ystod beichiogrwydd neu farwolaeth baban yn allweddol i'w hadferiad. Ni all gofal da ddileu poen a gofid rhieni, ond mae'n gallu eu helpu i ddod trwy'r drasiedi. Ar y llaw arall, gall gofal gwael ychwanegu'n sylweddol at eu gofid. Dyna pam y mae'r cynnig heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi camau ar waith i wella'r gofal y bydd rhieni'n ei gael ar ôl colli baban yn ystod beichiogrwydd neu farwolaeth baban, i sicrhau bod teuluoedd yn cael gwasanaethau neu gymorth priodol.

Nid yw'r anawsterau y bydd teuluoedd yn eu hwynebu i gael gwasanaethau profedigaeth yn dilyn camesgoriad neu farw-enedigaeth yn fater newydd i ni yng Nghymru. Yr wythnos diwethaf, cyflwynwyd adroddiad i Lywodraeth Cymru yn galw am well mynediad at arbenigwyr a mwy o ofal tosturiol i fenywod sy'n dioddef camesgoriad. Mae'r adroddiad, sy'n cyflwyno'r achos dros well gofal camesgoriad yng Nghymru, yn amlinellu safbwyntiau menywod ynglŷn â'r gofal a gawsant ar ôl cael camesgoriad. Ymhlith ei argymhellion, mae'n galw am lefelau uwch o gymorth seicolegol ac emosiynol, a chreu dau glinig pwrpasol yng Nghymru ar gyfer menywod sydd wedi colli baban yn ystod beichiogrwydd sawl gwaith.

Clywodd y pwyllgor rwy'n ei gadeirio, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, am y diffyg cymorth seicolegol i rieni mewn profedigaeth ar ôl colli babanod newyddenedigol yn ei ymchwiliad diweddar i iechyd meddwl amenedigol. Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru wrthym fod effeithiau colli baban ar iechyd meddwl y fam wedi'i gydnabod yn dda, a thynnodd sylw at alwad Coleg Brenhinol y Bydwragedd am fydwragedd arbenigol i gefnogi teuluoedd mewn profedigaeth. Dywedodd Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr wrthym fod ei arolwg ledled y DU o fenywod a oedd wedi dioddef problemau iechyd meddwl amenedigol wedi canfod nad oedd rhai o'r ymatebwyr a oedd wedi profi camesgoriad a marw-enedigaethau yn teimlo eu bod wedi cael digon o gymorth yn dilyn y digwyddiadau hyn neu yn ystod beichiogrwydd dilynol. A dywedodd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol wrthym fod profedigaeth yn sgil camesgoriad, marw-enedigaeth neu farwolaeth newyddenedigol yn fwy tebygol o arwain at broblemau iechyd meddwl yn y ddau riant.

Ac eto, ar yr adegau pan gynigiwyd cymorth i fenywod, clywsom na chafodd ei gynnig i'w partneriaid, gyda llawer o fenywod yn nodi'r teimlad fod yna ragdybiaeth nad oedd y digwyddiadau hyn yn effeithio ar ddynion yn yr un modd ag y maent yn effeithio ar fenywod. Clywsom hefyd fod rhai menywod wedi nodi na chawsant gynnig unrhyw gymorth profedigaeth, er iddynt ofyn amdano, neu eu bod wedi'i gael ormod o amser ar ôl y digwyddiad. Yn amlwg nid yw hyn yn dderbyniol.

Cyhoeddwyd adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar iechyd meddwl amenedigol ym mis Hydref y llynedd. Ymhlith ein hargymhellion roedd galwad ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y mae'n disgwyl i'r diffyg cymorth seicolegol ar gyfer rhieni mewn profedigaeth newyddenedigol gael ei ddatrys, a'r safonau sydd i'w cyrraedd, a pha gamau y bydd yn eu rhoi ar waith os na chydymffurfir â'r safonau. Cyhoeddwyd trydydd argraffiad o safonau newyddenedigol Cymru ym mis Mai—yn hwyrach nag y gobeithiem fel pwyllgor. Ceir cyfeiriad yn y safonau at gymorth seicolegol ar gyfer rhieni, cymorth y dylai pob bwrdd iechyd weithio i'w gyflawni. Mae'r safonau'n datgan bod mynediad amserol at gymorth seicolegol yn hanfodol i atal unrhyw effaith ar iechyd meddwl y rhiant, ac y dylai pob uned newyddenedigol sicrhau bod digon o seicolegwyr, cwnselwyr a gweithwyr iechyd meddwl eraill ar gael, fel bod rhieni, brodyr a chwiorydd a staff yn gallu cael cymorth.

Mae papur briffio gan Bliss, yr elusen ar gyfer babanod sy'n cael eu geni'n gynnar neu'n sâl, yn dweud eu bod wedi canfod bod rhieni mewn mwy na hanner yr unedau newyddenedigol heb gael mynediad at gymorth seicolegol, er gwaethaf y gofynion clir yn y safonau, ac nid oes gan yr un o'r tair uned gofal dwys i'r newyddanedig weithiwr iechyd meddwl dynodedig. Yn amlwg, nid yw hyn yn ddigon da, ac mae'n fater y byddaf yn mynd ar ei drywydd gyda Llywodraeth Cymru gan fod y safonau newydd wedi'u cyhoeddi bellach, fel rhan o'r gwaith dilynol y mae'r pwyllgor yn ei wneud ar ein hymchwiliad i iechyd meddwl amenedigol. Dyna pam rwy'n falch o gael y cyfle hwn i godi'r mater eto heddiw. Rwy'n ddiolchgar hefyd i fy nghyd-gyflwynwyr—David Rees, a thad newydd ac arweinydd newydd Plaid Cymru, Adam Price—am gefnogi'r cynnig hwn, a hefyd i'r holl Aelodau sydd wedi nodi eu cefnogaeth iddo.

Yr wythnos nesaf yw Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod ledled y DU. Bydd yn cael ei chynnal rhwng 9 a 15 Hydref. Fe'i trefnir gan gynghrair o fwy na 60 o elusennau sy'n gweithio i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gofal profedigaeth ardderchog ar gyfer pob rhiant ar ôl colli baban yn ystod beichiogrwydd neu farwolaeth baban. Drwy gydol yr wythnos, bydd rhieni mewn profedigaeth, eu teuluoedd a'u ffrindiau yn uno gyda'i gilydd ac eraill i goffáu bywydau babanod a fu farw yn ystod beichiogrwydd, wrth gael eu geni neu'n fuan ar ôl eu geni, ac yn ystod babandod. Mae digwyddiad goleuo cannwyll yn cael ei noddi gan fy nghyd-Aelod Mark Drakeford ym mhrif neuadd y Pierhead ddydd Mercher 10 Hydref, o 12:15 i 12:45, fel rhan o'r Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod, ac rwy'n gobeithio y bydd llawer o'r Aelodau'n ymuno yn y digwyddiad hwnnw.

Mae'r sefydliadau sydd y tu cefn i'r Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod a thu cefn i'r cynnig rwy'n ei gyflwyno heddiw yn galw ar weithwyr gofal iechyd proffesiynol, llunwyr polisi a seneddwyr i wneud yn siŵr fod rhieni sy'n dioddef yn sgil colli baban yn ystod beichiogrwydd neu farwolaeth baban yn cael y cymorth gorau posibl pryd bynnag y bo'i angen arnynt ni waeth ble maent yn byw. Ni ddylai ansawdd gofal i rieni mewn profedigaeth fod yn loteri. Mae rhieni Cymru'n haeddu gwell. Dyna pam y mae'r cynnig hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru a GIG Cymru i roi camau pendant ar waith i wella'r gofal y mae rhieni'n ei gael ar ôl colli baban.

Rwy'n deall bod Lloegr a'r Alban wedi gwneud cynnydd sylweddol yn y 18 mis diwethaf ar ddatblygu a darparu llwybr gofal profedigaeth cenedlaethol a luniwyd i wella ansawdd y gofal i rieni a theuluoedd ar bob cam o golli baban yn ystod beichiogrwydd a marwolaeth baban. Mae'r llwybr yn cynnwys adnoddau, pecynnau cymorth a hyfforddiant ar gyfer gweithwyr proffesiynol. Ni ddylai fod y tu hwnt inni yng Nghymru allu sicrhau bod ein rhieni ninnau hefyd yn cael gofal o ansawdd da ar ôl colli baban yn ystod beichiogrwydd neu farwolaeth baban. Dyna pam y mae'r cynnig hwn heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru a GIG Cymru i fabwysiadu set graidd o safonau gofynnol ar gyfer gofal profedigaeth i rieni sydd wedi colli baban.

Er bod angen gwneud llawer mwy i gefnogi teuluoedd sydd wedi colli babanod, ceir rhai mentrau gwych yng Nghymru. Un cynllun o'r fath yw'r cymorth profedigaeth newyddenedigol a ddarperir gan y tîm allgymorth newyddenedigol ym Mwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda. Yn sicr, mae'n ddyletswydd arnom i fynnu bod cymorth o ansawdd yn cael ei roi i bob rhiant ar ôl colli baban yn ystod beichiogrwydd neu farwolaeth babi. Mae'n bryd rhoi'r gorau i siarad a gwneud rhywbeth, ac rwy'n gobeithio y bydd pob Aelod yn cefnogi'r cynnig hwn heddiw.