7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Colli Babanoad

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:27 pm ar 3 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 4:27, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i Lynne, Adam a David am gyflwyno'r ddadl bwysig hon. Mae'r wythnos nesaf yn Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod a pha well ffordd i'w nodi na thrafod y cymorth y mae Cymru'n ei roi i'r teuluoedd yr effeithir arnynt gan farwolaeth baban?

Mae'n ffaith drist nad yw colli baban yn ystod beichiogrwydd a marwolaeth baban yn ddigwyddiadau anghyffredin. Mae un o bob pedwar beichiogrwydd yn dod i ben drwy gamesgoriad a phob dydd yn y DU mae 15 o fabanod yn marw cyn, yn ystod neu'n fuan ar ôl genedigaeth. Mae hyn yn drychinebus i'r rhieni ac yn anffodus, yn aml ni chânt yr help a'r cymorth sydd ei angen arnynt, ond rydym yn diolch i bawb sy'n rhoi eu hamser a'u cymorth, ac sy'n llwyddo i wneud pethau'n well. Gallwn wneud cymaint mwy i'r cannoedd o deuluoedd yng Nghymru sy'n dioddef yn sgil colli baban. Yn anffodus, nid oes gan Gymru glinig camesgor arbenigol ac mae cleifion Cymru'n ei chael hi'n anodd cael atgyfeiriad i glinig Tommy's yn Coventry.

Yn ddiweddar, cyflwynodd ymgyrchwyr adroddiad 24 tudalen i Lywodraeth Cymru yn manylu ar gamau gweithredu y gellid eu cymryd i wella gwasanaethau ar gyfer teuluoedd sydd wedi dioddef camesgoriad sawl gwaith. Mae'r adroddiad 'Making the Case for Better Miscarriage Care in Wales' yn gwneud 11 o argymhellion, sy'n cynnwys creu clinigau pwrpasol yng Nghymru ar gyfer menywod sydd wedi colli babanod yn ystod beichiogrwydd sawl gwaith.

Rydym yn darparu gofal i rai sy'n dioddef yn sgil colli baban yn ystod beichiogrwydd, ond mae'n rhaid iddo wella, ac weithiau rhoddir taflen i famau a'u hanfon adref ar ôl camesgoriad ac nid oes unrhyw gymorth profedigaeth ar gyfer y fam na'r tad nac unrhyw ofal dilynol. Mae rhai teuluoedd yn dioddef hyn sawl gwaith, ac os ydynt yn ffodus, mae'n bosibl y cânt eu hatgyfeirio at gynecolegydd. Dywedwyd wrth un pâr, ar ôl eu pumed camesgoriad, fod rhai pobl yn anghymharus ac y dylent ystyried mabwysiadu. Felly mae angen mwy o ddealltwriaeth ynglŷn â sut i drin teuluoedd mewn profedigaeth. Er ein bod yn llwyddo mewn sawl man a bod llawer o bobl yn cael y cymorth sydd ei angen, mae rhai'n llithro drwy'r rhwyd.

Yn anffodus, mae llai na hanner y byrddau iechyd lleol yn darparu hyfforddiant gofal profedigaeth gorfodol ar gyfer staff ac mae'r rhai sy'n cynnig hyfforddiant yn darparu llai nag awr ohono bob blwyddyn. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru yn derbyn bod gofal a chymorth profedigaeth tosturiol yn rhan allweddol o'r ddarpariaeth gwasanaethau mamolaeth. Fodd bynnag, nid yw hyn yn digwydd ar lawr gwlad. Ceir amseroedd aros hir iawn ar gyfer cwnsela profedigaeth yng Nghymru ac fel rheol, nid yw'r gwasanaethau hyn yn cael eu cynnig i deuluoedd sy'n dioddef camesgoriad.

Gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet, wrth ymateb i'r ddadl hon, yn dangos cefnogaeth i argymhellion yr adroddiad 'Making the Case for Better Miscarriage Care in Wales'. Mae'n rhaid inni wneud yn well ar ran teuluoedd yng Nghymru sy'n dioddef colli baban. Er ein bod yn gwneud llawer iawn, mae mwy y gallem ei wneud. Felly, gadewch i ni nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod drwy wella gwasanaethau ar gyfer teuluoedd yng Nghymru a gweithio gyda'n gilydd. Diolch i'r rheini sydd eisoes yn llwyddo ac yn helpu pobl yng Nghymru i symud ymlaen a chael y cymorth sydd ei angen arnynt. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn. Diolch yn fawr iawn.