Treftadaeth Ddiwydiannol yng Nghasnewydd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 9 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative 1:35, 9 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch o glywed y bydd Llywodraeth Cymru o leiaf yn cefnogi gwaith i weld os gallwn ni sicrhau cyllid ar gyfer y bont gludo, a gobeithiaf efallai y bydd yn ei chefnogi gyda'i chyllid ei hun, yn dibynnu ar sut mae'r gwaith hwnnw'n datblygu. Tybed, felly, a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog a fyddai hefyd yn cefnogi treftadaeth ddiwydiannol Casnewydd trwy ariannu pont newydd sy'n cynnig yr un fath o ysbrydoliaeth dros ddociau Casnewydd ar gyfer ffordd liniaru'r M4.