1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 9 Hydref 2018.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar gyfer treftadaeth ddiwydiannol yng Nghasnewydd? OAQ52710
Rydym ni'n falch, a hynny'n gwbl briodol, o dreftadaeth ddiwydiannol gyfoethog ein gwlad. Mae dros 1,000 o strwythurau diwydiannol yng Nghymru wedi eu diogelu'n statudol, gan gynnwys adeilad eiconig, rhestredig gradd I, pont gludo Casnewydd, wrth gwrs—adeiledd hanesyddol wirioneddol arwyddocaol nid yn unig i Gasnewydd, ond i Gymru gyfan.
Ydy, Prif Weinidog, mae'r bont gludo, a adeiladwyd ar droad yr ugeinfed ganrif, yn un o ddim ond chwech o bontydd sy'n gweithio yn y byd heddiw. Fe'i hadeiladwyd yn wreiddiol i gludo gweithwyr dur ar draws afon Wysg i'w gweithle ac mae gan bobl leol lawer iawn o atgofion ohoni. Rwy'n cofio bod ar y bont gludo yn mynd i gemau ysgol, yn yr ysgol gynradd, gan sefyll ar un goes pan oedd yn taro ar y diwedd, i weld a allech chi aros ar un goes, cerdded dros y top, ac, wrth gwrs, hanes streic y glowyr, pan gafodd ei meddiannu gan lowyr ar streic, a phan oedd dyn busnes o UDA eisiau ei phrynu, ei datgymalu, a'i chludo i'r Unol Daleithiau i'w hailadeiladu. Ceir cymaint o straeon am bont gludo Casnewydd—y tranny, fel y'i gelwir yn lleol. Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod hyn yn gynyddol. Mae gan Gyfeillion Pont Gludo Casnewydd brosiect pwysig, gyda Chronfa Dreftadaeth y Loteri, i ddiogelu ei dyfodol, ac ymrwymodd Dafydd Elis-Thomas, dim ond wythnos neu ddwy yn ôl, wrth ateb cwestiwn gan fy nghyd-Aelod Jayne Bryant, i'w gwneud yn flaenllaw ym mholisi Llywodraeth Cymru ar gyfer treftadaeth ddiwydiannol yng Nghymru. Tybed a allech chi atgyfnerthu'r ymrwymiad hwnnw gan Lywodraeth Cymru heddiw, Prif Weinidog, ac efallai rhoi ychydig mwy o fanylion ynghylch sut bydd yn cael ei ddatblygu.
Clywais yr Aelod dros Ddwyrain Casnewydd yn awgrymu ei fod wedi cerdded dros y bont—pa un a oedd ef i fod i wneud hynny ai peidio, nid yw'n esbonio ymhellach. Ond mae'n iawn i ddweud, wrth gwrs, bod y bont wedi chwarae rhan enfawr yn hanes Casnewydd a bod ganddi le annwyl iawn yng nghalonnau pobl ei etholaeth ac, yn wir, Gorllewin Casnewydd hefyd. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw bod y Gweinidog wedi gofyn i'w swyddogion weithio'n agos gyda Chyngor Dinas Casnewydd i sicrhau'r prosiect—y bont—trwy ddarparu cymorth a chyngor technegol, a thrwy helpu i nodi ffynonellau cyllid posibl er mwyn helpu i lenwi'r bwlch cyllid presennol ar gyfer y bont, a gwn yn sicr y gofynnwyd i'r Gweinidog am gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau.
Rwy'n falch o glywed y bydd Llywodraeth Cymru o leiaf yn cefnogi gwaith i weld os gallwn ni sicrhau cyllid ar gyfer y bont gludo, a gobeithiaf efallai y bydd yn ei chefnogi gyda'i chyllid ei hun, yn dibynnu ar sut mae'r gwaith hwnnw'n datblygu. Tybed, felly, a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog a fyddai hefyd yn cefnogi treftadaeth ddiwydiannol Casnewydd trwy ariannu pont newydd sy'n cynnig yr un fath o ysbrydoliaeth dros ddociau Casnewydd ar gyfer ffordd liniaru'r M4.
Wel, nid yw hynny'n rhan o bortffolio'r Gweinidog, gallaf ei sicrhau o hynny, a byddwn bob amser yn ceisio sicrhau y bydd treftadaeth ddiwydiannol Casnewydd sydd gennym ni yn parhau i gael ei diogelu.