Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 9 Hydref 2018.
Clywais yr Aelod dros Ddwyrain Casnewydd yn awgrymu ei fod wedi cerdded dros y bont—pa un a oedd ef i fod i wneud hynny ai peidio, nid yw'n esbonio ymhellach. Ond mae'n iawn i ddweud, wrth gwrs, bod y bont wedi chwarae rhan enfawr yn hanes Casnewydd a bod ganddi le annwyl iawn yng nghalonnau pobl ei etholaeth ac, yn wir, Gorllewin Casnewydd hefyd. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw bod y Gweinidog wedi gofyn i'w swyddogion weithio'n agos gyda Chyngor Dinas Casnewydd i sicrhau'r prosiect—y bont—trwy ddarparu cymorth a chyngor technegol, a thrwy helpu i nodi ffynonellau cyllid posibl er mwyn helpu i lenwi'r bwlch cyllid presennol ar gyfer y bont, a gwn yn sicr y gofynnwyd i'r Gweinidog am gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau.