Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 9 Hydref 2018.
Prif Weinidog, cynhaliodd IFF Research arolwg o hawlwyr credyd cynhwysol yn ddiweddar ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau. Canfuwyd tystiolaeth ganddynt o ganlyniadau cyflogaeth cadarnhaol i hawlwyr credyd cynhwysol gyda chyfran yr hawlwyr a oedd mewn swydd gyflogedig wyth mis i mewn i'w hawliad bron yn dyblu. Hysbyswyd ganddynt hefyd gynnydd i nifer yr oriau a weithiwyd a lefelau incwm cyffredinol. A yw'r Prif Weinidog yn cydnabod bod credyd cynhwysol yn mynd i'r afael â diweithdra cynhenid mewn ardaloedd fel Torfaen ac, o ganlyniad, bod pobl yn symud i mewn i waith ynghynt? Diolch.