Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 9 Hydref 2018.
Yn gyntaf, a gaf i ychwanegu fy niolch a'm llongyfarchiadau, wrth gwrs, i'r enghraifft wych o weithio ar y cyd yr ydym ni wedi ei weld yno, gan helpu'r bobl sydd fwyaf agored i niwed ar adeg pan fo angen iddynt wybod pa gyfeiriad i symud iddo ac i ganfod beth yn union beth y mae ganddyn nhw hawl i'w gael. Ond, ydy, mae'n gwbl eglur i mi ac i lawer yn y Siambr hon, nad yw credyd cynhwysol, fel y mae ar hyn o bryd, wedi gweithio. Ac mae'n gwbl hanfodol, pan fo problem, bod y broblem honno'n cael ei datrys yn hytrach na'i datrys ar ôl i fwy o bobl ddioddef, ac yn anffodus dyna'r sefyllfa yr ydym yn canfod ein hunain ynddi nawr.