1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 9 Hydref 2018.
6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effaith credyd cynhwysol yn Nhorfaen? OAQ52752
Wel, mae pobl yn ei chael hi'n anodd ymdopi, nid yn unig yn Nhorfaen, ond mewn mannau eraill, oherwydd cymhlethdodau credyd cynhwysol. Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU fynd i'r afael â'r materion hyn ar frys cyn iddyn nhw fwrw ymlaen ag unrhyw gam i symud hawlwyr budd-daliadau presennol i gredyd cynhwysol mewn modd a reolir.
Prif Weinidog, mae'r gwasanaeth credyd cynhwysol wedi bod yn cael ei gyflwyno'n llawn yn Nhorfaen ers dros flwyddyn erbyn hyn. Yn ystod y flwyddyn honno, rydym ni wedi gweld pobl yn aros chwech i wyth wythnos am daliad, cynnydd i ddyledion ac ôl-ddyledion rhent, mwy a mwy o bobl yn gorfod defnyddio banciau bwyd a llinell gymorth credyd cynhwysol lle mae pobl yn aros oriau yn llythrennol i gael siarad ag aelod o staff. Rwy'n credu mai pedair awr yw'r record yn lleol yn Nhorfaen, gyda'r rhan fwyaf o bobl, pobl agored i niwed yn enwedig, yn rhoi'r gorau i aros yn ystod y cyfnod hwnnw.
A wnewch chi ymuno â mi i dalu teyrnged i'r glymblaid ragorol sydd gennym ni o gyngor Torfaen, swyddfa cyngor ar bopeth Torfaen, TRAC2 a darparwyr tai, sydd i gyd yn gweithio mor galed i gael pobl drwy'r ddrysfa credyd cynhwysol hon? Ond a wnewch chi hefyd ymuno â mi i alw ar Lywodraeth y DU i gydnabod ei bod hi'n amser rhoi terfyn ar hyn nawr a datrys y problemau hyn cyn iddyn nhw achosi mwy o ddioddefaint?
Yn gyntaf, a gaf i ychwanegu fy niolch a'm llongyfarchiadau, wrth gwrs, i'r enghraifft wych o weithio ar y cyd yr ydym ni wedi ei weld yno, gan helpu'r bobl sydd fwyaf agored i niwed ar adeg pan fo angen iddynt wybod pa gyfeiriad i symud iddo ac i ganfod beth yn union beth y mae ganddyn nhw hawl i'w gael. Ond, ydy, mae'n gwbl eglur i mi ac i lawer yn y Siambr hon, nad yw credyd cynhwysol, fel y mae ar hyn o bryd, wedi gweithio. Ac mae'n gwbl hanfodol, pan fo problem, bod y broblem honno'n cael ei datrys yn hytrach na'i datrys ar ôl i fwy o bobl ddioddef, ac yn anffodus dyna'r sefyllfa yr ydym yn canfod ein hunain ynddi nawr.
Prif Weinidog, cynhaliodd IFF Research arolwg o hawlwyr credyd cynhwysol yn ddiweddar ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau. Canfuwyd tystiolaeth ganddynt o ganlyniadau cyflogaeth cadarnhaol i hawlwyr credyd cynhwysol gyda chyfran yr hawlwyr a oedd mewn swydd gyflogedig wyth mis i mewn i'w hawliad bron yn dyblu. Hysbyswyd ganddynt hefyd gynnydd i nifer yr oriau a weithiwyd a lefelau incwm cyffredinol. A yw'r Prif Weinidog yn cydnabod bod credyd cynhwysol yn mynd i'r afael â diweithdra cynhenid mewn ardaloedd fel Torfaen ac, o ganlyniad, bod pobl yn symud i mewn i waith ynghynt? Diolch.
Wel, a ddylwn i synnu bod yr adran sy'n gyfrifol am gredyd cynhwysol wedi comisiynu arolwg i ddweud ei fod yn iawn? Byddai gen i gwestiynau ynghylch gwrthrychedd—nid wyf yn gwybod mwy amdano—arolwg o'r fath. Ond gadewch i mi ddweud wrtho mai gwir effaith credyd cynhwysol yw hyn: dywedodd Tai Cymunedol Cymru yn ddiweddar bod tenantiaid cymdeithasau tai ar gredyd cynhwysol yng Nghymru eisoes mewn gwerth dros £1 filiwn o ddyled o ran ôl-ddyledion rhent. Yn ôl eu harolwg nhw, sampl o 29 o gymdeithasau tai yng Nghymru—cynhaliwyd yr arolwg hwnnw gyda 3,475 o bobl sy'n byw mewn cartrefi cymdeithasau tai yng Nghymru, ac mae hynny'n dangos bod pob person, ar gyfartaledd, £420 yn waeth eu byd oherwydd ôl-ddyledion rhent. Dyna realiti'r sefyllfa pan ddaw i gredyd cynhwysol, a dyna pam mae'n rhaid rhoi terfyn arno a'i wrthdroi.