1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 9 Hydref 2018.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau adfywio yng Ngorllewin De Cymru? OAQ52751
Mae buddsoddiad adfywio Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynlluniau sy’n creu swyddi, gwella sgiliau a chyflogadwyedd, ac sy’n cynnig yr amgylchedd cywir i fusnesau dyfu a ffynnu ynddo a sicrhau bod llewyrch yn cyrraedd pob rhan o Gymru.
Prif Weinidog, fel yr ydym ni wedi ei drafod yn y Siambr hon ar sawl achlysur, mae gan forlyn llanw bae Abertawe y potensial nid yn unig i'n helpu ni yng Nghymru i gynyddu ein cynhyrchiad o ynni adnewyddadwy, ond hefyd i roi hwb y mae wir ei angen i economi de-orllewin Cymru gyfan. Bu sôn am fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, a sefydlwyd tasglu gan ddinas-ranbarth bae Abertawe i ystyried hyn yn fwy manwl. Fodd bynnag, o ran modelau perchnogaeth, a wnewch chi gadarnhau pa un a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried creu cwmni ynni Cymru i fwrw ymlaen â'r prosiect hwn, pryd ydych chi'n disgwyl i'r tasglu gwblhau ei waith, a phryd ydych chi'n rhagweld gwneud penderfyniad ar swyddogaeth eich Llywodraeth yn y cynllun cyfan hwn?
Y peth cyntaf y mae'n rhaid ei sefydlu yw'r farchnad, ac yn benodol, wrth gwrs, y pris taro. Mae'r pethau hyn yn eithriadol o bwysig o ran pennu hyfywedd y prosiect. Yr hyn na wnaeth Llywodraeth y DU oedd edrych ar y contract ar gyfer gwahaniaeth a'r pris taro o ran gwneud y morlyn yn hyfyw; penderfynodd y byddai'n talu mwy o arian am fathau eraill o ynni. Felly, y peth cyntaf y mae'n rhaid ei sefydlu yw'r farchnad—mae ffordd o wneud hynny, gan weithio gydag awdurdodau lleol ac eraill. Gwn fod cyngor dinas Abertawe yn ystyried ffyrdd eraill o ariannu'r morlyn, ac rydym ni eisiau gweld beth yw'r syniadau hynny, wrth gwrs, a byddwn yn gweithio gyda nhw os bydd prosiect hyfyw a all ddatblygu, ar ôl penderfyniad di-groeso Llywodraeth y DU. Mae hynny'n rhywbeth y byddwn ni'n parhau i weithio gyda nhw arno.
Wel, mae Abertawe a Chaerdydd, wrth gwrs, yn elwa ar rywfaint o waith adfywio ar hyn o bryd, nid lleiaf drwy'r fargen ddinesig, ond mae Pen-y-bont ar Ogwr, fel y gwyddoch, ar gyrion eithafol ôl-troed bargen ddinesig dinas Caerdydd. Er bod trethdalwyr Pen-y-bont ar Ogwr yn cyfrannu dros £11 miliwn neu fwy ar gyfer y prosiect, mae trigolion yn dechrau gofyn i mi nawr ble mae'r budd ynddo ar eu cyfer nhw, ac maen nhw'n gofyn ym Mhorthcawl hefyd. Yn benodol, maen nhw'n gofyn: a yw Llywodraeth Cymru yn disgwyl mwy o fuddsoddiad yng ngorsaf drenau Pen-y-bont ar Ogwr neu'r orsaf drenau Bracla sydd wedi ei haddo ers talwm? A ydych chi'n meddwl y dylai'r fargen ddinesig fod yn adfywio canol tref Pen-y-bont ar Ogwr, ac nid canol y dinasoedd yn unig? Efallai mai dyma'r catalydd ar gyfer cael gwared yn rhannol ar barth cerddwyr y mae masnachwyr, fel y gwyddoch, yn awyddus iawn i'w weld yn digwydd.
Wel, yn gyntaf oll, dim ond newydd gael ei hailwampio y mae gorsaf reilffordd Pen-y-bont ar Ogwr, wrth gwrs, fel y bydd hi'n gwybod yn iawn. Roedd problem mynd drwy'r gatiau, felly mae hynny i'w groesawu'n fawr iawn. O ran y dref ei hun, mae Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid wedi cael effaith ar y dref. Bydd ailddatblygu maes parcio y Rhiw i'r hyn sydd bellach yn gampfa, yn faes parcio ac yn llety preswyl—bydd hynny'n dod â mwy o bobl sy'n byw yn y dref ac felly'n darparu nifer yr ymwelwyr sydd ei hangen ar y dref yn ystod y dydd a min nos. Mae gennym ni'r ardal gwella busnes hefyd y gwn sydd wedi cael ei chroesawu gan fasnachwyr y dref. Yn wir, er tegwch, mae nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yng nghanol y dref erbyn hyn sy'n denu pobl i mewn, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n ei groesawu'n fawr.
Mae hi'n sôn am gael gwared yn rhannol ar barth cerddwyr. Mae'n rhywbeth, yn bersonol, yr wyf i'n ei gefnogi, ond dim ond y darn yna, oherwydd rwy'n cofio sut yr oedd y dref pan oedd traffig. O'i wneud yn briodol, rwy'n credu ei bod hi'n bosibl cael llwybr drwy'r dref nad yw'n achosi perygl i bobl eraill, nad yw'n gadael i bobl oedi ychwaith, mewn lleoedd parcio ceir, ond yn caniatáu i bobl stopio, casglu a mynd—neu stopio, gollwng a mynd—a gwn fod hynny'n rhywbeth y mae'r cyngor yn awyddus i'w wneud ac yn bwriadu datblygu cynnig er mwyn gwneud hynny.
Prif Weinidog, mae adfywio economaidd yn amlwg yn dibynnu ar nifer o faterion yn y saith etholaeth ar draws y de, gan gynnwys Aberafan. Mae trafnidiaeth yn fater pwysig i sicrhau y gallwn ddenu busnesau a dod â buddsoddiad. Nawr, bu adroddiad i Lywodraeth Cymru ar faterion llygredd yr M4 sy'n gwneud cynnig i Lywodraeth Cymru ystyried cau cyffordd 41. Y tro diwethaf y gwnaeth hynny, roedd anhrefn traffig yn fy etholaeth i, ac ni fyddai hynny'n denu busnesau i ddod oherwydd roedd yr anhrefn yn digwydd yn ystod oriau brig a byddai'n tarfu'n aruthrol ar fusnesau. A wnewch chi ailddatgan y safbwynt a gyflwynwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet ddwy flynedd yn ôl i gadw'r ffordd honno ar agor ac na fydd Llywodraeth Cymru yn cau cyffordd 41 ac yn ailgyflwyno'r anhrefn traffig i bobl Port Talbot?
Wel, mae hwn yn fater sy'n dal, rwy'n credu, yn destun ymgynghoriad. Wrth gwrs, fel y digwyddodd y tro diwethaf, bydd ystyriaeth lawn yn cael ei rhoi i'r sylwadau y mae pobl yn eu gwneud.