Môr Iwerddon

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 9 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:08, 9 Hydref 2018

Yn siarad ar Channel 4 News yn y dyddiau diwethaf, mi ddywedodd Dirprwy Brif Weinidog Gweriniaeth yr Iwerddon, Simon Coveney, ei bod hi’n hurt i ddadlau bod modd osgoi ffin galed os oes yna ddim cytundeb yn ei le ar adael yr Undeb Ewropeaidd. Mi ddywedodd o bod 1,077 yn rhagor o swyddogion tollau ac archwilwyr milfeddygol a diogelwch am gael eu recriwtio mewn meysydd awyr a phorthladdoedd i ddelio efo masnach o’r dwyrain i’r gorllewin. Onid ydy hi’n anochel, dan sefyllfa felly, y bydd niwed mawr yn cael ei wneud i fasnach drwy borthladd Caergybi yn fy etholaeth i? Onid ydy hynny’n dangos mor anghyfrifol ydy cefnogwyr Brexit caled y Blaid Geidwadol a pha mor anghyfrifol ydy Llafur dan arweiniad Jeremy Corbyn i beidio â bod wedi mynnu o’r dechrau fod yn rhaid, yn ddiamod, cadw aelodaeth o’r farchnad sengl a’r undeb tollau?