Môr Iwerddon

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 9 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:09, 9 Hydref 2018

Yn gyntaf, wrth gwrs, nid oes neb yn dadlau y dylai fod unrhyw fath o ffin galed rhwng Gweriniaeth Iwerddon a’r Deyrnas Unedig—nid oes neb yn dweud eu bod nhw eisiau gweld hynny. Wrth gwrs, y perygl yw efallai y bydd hynny’n digwydd heb unrhyw fath o gytundeb. Yn y dyddiau cyn y farchnad sengl, roedd checks yng Nghaergybi—nid oedd pawb yn cael ei check-o, os cofia i, ond mi oedd yna checks ta beth. Nid oedd dim checks ynglŷn â phasborts o gwbl. Ond mae yna berygl, wrth gwrs: fel y dywedais i o'r blaen, os byddai'n edrych fel ei fod e'n rhwyddach i fynd drwy borthladdoedd Gogledd Iwerddon na phorthladdoedd Cymru, wel, wrth gwrs, bydd masnach yn cael ei effeithio o achos hynny, a bydd hynny'n cael effaith negatif ar fasnach porthladdoedd Cymru. So, unwaith eto, beth yw'r ateb? Yr ateb yw sefyll tu mewn i'r undeb tollau ac, wrth gwrs, cael y mynediad mwyaf i'r farchnad sengl. Nid oes rhaid sefyll yn yr Undeb Ewropeaidd er mwyn cael y rheini.