– Senedd Cymru am 2:15 pm ar 9 Hydref 2018.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i'n galw ar arweinydd y tŷ, Julie James, i wneud ei datganiad. Julie James.
Diolch, Llywydd. Ceir dau newid i fusnes yr wythnos hon: cyn bo hir, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad ar wasanaethau mamolaeth Cwm Taf, yn hytrach nag un ar y cynllun gweithredu ar gyfer trawiad ar y galon allan o'r ysbyty, a fydd bellach yn cael ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig. Hefyd, mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i dynnu'r ddadl yfory yn ei hôl, sef yr un ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ynglŷn â'u hymchwiliad i ffynonellau ariannu ar gyfer y celfyddydau nad ydyn nhw'n rhai cyhoeddus. Bydd busnes drafft ar gyfer yr ychydig wythnosau nesaf yn cael ei nodi yn y cyhoeddiad a'r datganiad busnes, y gellir ei weld yn y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Arweinydd y Tŷ, a oes modd i mi alw am ddau ddatganiad heddiw, os gwelwch yn dda? Un gan Ysgrifennydd y Cabinet dros seilwaith trafnidiaeth. Roeddwn yn falch iawn o weld y cyhoeddiad am fuddsoddiad ym Metro De Cymru a gyhoeddwyd yr wythnos hon—£119 miliwn—ond mae wedi gadael blas cas braidd yng nghegau pobl y gogledd, sydd hefyd yn awyddus i gael buddsoddiad yn eu seilwaith eu hunain. Bydd arweinydd y tŷ yn ymwybodol fy mod i wedi crybwyll, dim ond rai wythnosau yn ôl, y pryderon ynghylch y ffaith bod yr A55 wedi'i thagu, a bod seilwaith ein rheilffyrdd yn dioddef hefyd. Credaf ei bod yn hen bryd inni weld buddsoddiad sylweddol yn ffyrdd a seilwaith rheilffyrdd y gogledd. Felly, tybed a allwn ni gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar y mater penodol hwnnw?
Hefyd, a gaf i ofyn am ddatganiad ar lyfrgelloedd yng Nghymru? Bydd arweinydd y tŷ yn gwybod ei bod yn wythnos llyfrgelloedd. Achubais ar y cyfle ddoe ddiwethaf i ymweld â Llyfrgell Bae Colwyn yn fy etholaeth i, er mwyn dysgu mwy am eu prosiect Darllen yn Well yn ogystal â'u cynllun Presgripsiwn llyfrau Cymru, rhywbeth y maen nhw'n cymryd rhan ynddo—cynllun gwych sy'n dod â phobl ynghyd, ac yn helpu i oresgyn materion sy'n ymwneud â dementia, yn arbennig, ac yn helpu i oresgyn ynysu cymdeithasol. Felly, fel darllenwr brwd — fel sawl un arall yn y Siambr hon rwy'n siŵr—rwy'n credu y byddai'n dda cael gwybod pa strategaeth sydd gan Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol llyfrgelloedd yng Nghymru, fel bo modd i gynlluniau tebyg i'r rhai a welais ar stepen fy nrws, mewn lleoedd fel Bae Colwyn, gael eu hymestyn i rannau eraill o'r wlad.
O ystyried, am yn ôl, ein bod yng nghanol Wythnos Llyfrgelloedd, dyma gyfle i mi ddweud y byddaf innau yn ymweld â llyfrgell ganolog Abertawe ddydd Gwener yn rhan o'm gwaith yn fy etholaeth. A dweud y gwir, bûm i mewn llyfrgell arall yn Abertawe ddydd Gwener diwethaf hefyd. Rwyf innau'n ddarllenwr brwd, ond mae'n bwysig nodi bod llyfrgelloedd yn darparu ystod enfawr o wasanaethau eraill hefyd. Er bod ganddynt lyfrau, digwydd bod. Ces fy mhlesio'n arw, felly, o weld y gwasanaethau a ddarparwyd gan y llyfrgell leol lle bûm i'n cynnal cymhorthfa ddydd Gwener diwethaf. Yn eu plith roedd amrywiaeth o wasanaethau cyfathrebu digidol; ambell wasanaeth cymdeithasol, o ran ateb anghenion ynysu cymdeithasol a chyfleoedd cymunedol i gwrdd; yn ogystal â gwasanaethau ar gyfer plant ac amrywiaeth o wasanaethau cymunedol eraill. Mae'n debyg y byddai'r llyfrgellydd yno'n cywilyddio o weld nad ydw i'n cofio rhai o'r pethau a ddangosodd i mi, ond gwnaeth dipyn o argraff, a byddem yn annog pob Aelod i gymryd rhan yn wythnos llyfrgelloedd, ac, yn wir, i gefnogi eu llyfrgelloedd lleol. Rwy'n siŵr bod yr holl Aelodau'n gwneud hynny eisoes.
O ran ei gwestiwn ar drafnidiaeth, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi arwydd i mi y byddai'n fodlon iawn i gyflwyno datganiad a fydd yn caniatáu iddo dynnu sylw at y swm mawr iawn o fuddsoddiad a'r gwaith sydd wedi bod yn digwydd yn y rhwydwaith trafnidiaeth.
Arweinydd y tŷ, byddwch yn ymwybodol bod siopau llyfrau ar draws Cymru yn ei chael hi’n anodd wrth wynebu ardrethi busnes a chystadleuaeth gan lyfrwerthwyr ar y rhyngrwyd. O ganlyniad, dros y blynyddoedd diwethaf, mae nifer fawr o siopau llyfrau annibynnol wedi eu cau. Mae Cymdeithas y Llyfrwerthwyr yn nodi bod gan werthwyr llyfrau ar y rhyngrwyd fantais fasnachol enfawr o’i gymharu â siopau llyfrau ar y stryd fawr, sy’n talu llawer mwy mewn treth. Rwy’n siŵr y byddai llawer ohonom yn cytuno bod siopau llyfrau yn chwarae rhan bwysig yn niwylliant Cymru ac am gefnogi’r busnesau yma yn wyneb tirlun economaidd anodd iawn.
Wrth ddeall y cyfraniad y mae llyfrwerthwyr yn ei roi i gymdeithas, diwylliant ac economi Cymru, a fyddai Llywodraeth Cymru yn barod i gyflwyno datganiad ynghylch y gefnogaeth ychwanegol y gall ei darparu, yn enwedig yn nhermau ardrethi busnes? Gwyddom fod gwarchodwyr plant yng Nghymru bellach wedi’u heithrio rhag ardrethi busnes. Felly, a all Llywodraeth Cymru edrych i roi rhyddhad ardrethi busnes pellach i siopau llyfrau yn sgil eu rôl gymdeithasol a diwylliannol?
Rwy'n credu i'r Aelod wneud pwynt da o ran swyddogaeth siopau llyfrau, ond yn anffodus mae gwasanaethau manwerthu yn newid yn gyflym iawn, ac mae'r effeithiau y mae'n eu crybwyll wedi dod yn sgil gwerthiant ar-lein o bron i bob math gwahanol o nwyddau manwerthu. Mae gennym eisoes gynllun rhyddhad ardrethi annomestig hael iawn yng Nghymru. Rwy'n siŵr bod maint y rhan fwyaf o siopau llyfrau yn golygu y gallent fanteisio ar hynny. Rwy'n ofni bod y ffordd y mae pobl yn prynu llyfrau, a phopeth arall, wedi newid yn sylfaenol ac na fydd modd i ni ddychwelyd i'r hen ffyrdd.
Fodd bynnag, mi ddywedaf fod sawl siop lyfrau yn fy ardal i—ac, mewn gwirionedd, yr un ardal â Dai Lloyd, ac mi fydd yntau'n gyfarwydd â hwy—wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth arallgyfeirio, gan gynnal nifer fawr o ddigwyddiadau o fathau eraill y tu mewn i'r siop, ac mae ganddynt gaffis a grwpiau trafod ac ati, a bydd ef yr un mor ymwybodol â minnau o lwyddiant rhai ohonyn nhw. Rwy'n sicr yn rhoi fy nghymeradwyaeth iddynt, gan fy mod i fy hunan yn hoff iawn o fynychu siopau llyfrau.
Hoffwn ofyn am ddau ddatganiad. Yn gyntaf, hoffwn ddatganiad gan y Llywodraeth sy'n cynnig y wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth a chynnydd Llywodraeth Cymru o ran y rhaglen i ddigideiddio ar draws holl sector gyhoeddus Cymru. Yn ail—rwy'n gwybod ein bod wedi cael datganiad ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet ddoe a oedd yn trafod cau Virgin Media, a'r camau a fydd yn cael eu cymryd, ond hoffwn ofyn pe cawn ddatganiad llafar hefyd, ar fy nghyfer i ac, mae'n debyg, chithau ac aelodau eraill sy'n cynrychioli'r ardal. Bydd colli bron i 900 o swyddi yn ergyd sylweddol i'r ardal. Rwy'n gobeithio y cawn ddatganiad llafar er mwyn i ni gael cyfle i holi Ysgrifennydd y Cabinet am fater yr ydych chi, fel minnau, yn ei ystyried yn un pwysig iawn.
Gwnaf, byddaf yn sicr yn trafod posibilrwydd hynny gydag Ysgrifennydd y Cabinet, neu sut y gallwn egluro ein sefyllfa ni a'r tasglu o ran Virgin Media. Rhannaf bryder yr Aelod ynghylch gweithredoedd y cwmni a rhai o'r straeon yr ydym wedi'u clywed. Felly, byddaf yn siŵr o gael y drafodaeth honno gydag Ysgrifennydd y Cabinet i weld sut y gallwn hwyluso'r trafodaethau a chynnig gwybodaeth i'r cyhoedd ar hynny.
O ran digideiddio, a dweud y gwir, rwy'n bwriadu gwneud datganiad ar drawsnewid digidol rywbryd cyn y Nadolig, a byddaf yn sicrhau ei fod yn cael lle priodol yn yr amserlen felly.
Arweinydd y Tŷ, a oes modd i mi ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Tai ynglŷn â'r hyn arall y gallwn ni ei wneud i fynd i'r afael â digartrefedd yng Nghymru, os gwelwch yn dda? Cysylltodd etholwr â mi yn ddiweddar er mwyn dwyn ei achos i'm sylw. Cefais lythyr, a dweud y gwir, wedi'i ysgrifennu gan berson digartref ar stryd fawr Casnewydd. Dim ond 24 oed ydyw. Yn hytrach na darllen ei lythyr, sy'n hynod emosiynol, byddai'n well gennyf gynnig ychydig frawddegau i ddisgrifio'i brofiadau gwirioneddol. Mae'n dweud iddo fod yn gweithio mewn tafarn a gaewyd gan y bragdy. Cafodd fis o rybudd cyn gadael. Aeth at Gyngor Dinas Casnewydd am gymorth, a chlywed nad oedd ei achos yn flaenoriaeth gan ei fod yn sengl ac nad oedd ganddo blant—cofiwch mai 24 oed yn unig ydyw. Cafodd ei roi ar restr aros ar gyfer hostel. Yn hynny o beth eto, mae 18 mis o restr aros ar gyfer pobl ddigartref. Mae'n dweud mai'r unig beth y mae ei eisiau yw rhywle i fyw sy'n ddiogel iddo, fel bod modd iddo gael swydd a pharhau gyda'i fywyd. A gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog ar yr hyn y gellir ei wneud i helpu ein hetholwyr sydd mewn sefyllfaoedd neu amodau tebyg ledled Cymru, os gwelwch yn dda? Mewn cymdeithas waraidd, mae'n rhaid inni ofalu am bobl ddigartref ac mae'n rhaid llunio mesurau cyfreithiol i beidio â chael pobl yn cysgu ar y stryd, yn enwedig o ystyried y math o dywydd yr ydym yn ei wynebu, gyda gaeafau a hafau eithafol. Diolch.
Bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad fis nesaf ar y newidiadau i'n polisïau digartrefedd. Ond, rwy'n credu y dylai'r Aelod ystyried yr effaith a gafwyd ar ddigartrefedd gan gyflwyniad ei blaid ei hun yn Llywodraeth y DU o gredyd cynhwysol, yn ogystal â'r teimlad cyffredinol y gallai pobl ifanc fynd i fyw gartref, gan ei fod ef ei hun newydd amlygu nad yw hynny'n wir yn aml iawn.
Buaswn i'n licio gofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd iechyd, os yw'n bosib, ynglŷn â gallu cwmnïau preifat i gael mynediad i ysbytai. Mae’r cwmni Bounty, rydym ni’n gwybod, yn cynnig starter packs i nifer o famau newydd ac maen nhw hefyd yn dod i wardiau i gynnig tynnu lluniau o’r babanod, ac maen nhw yn hel gwybodaeth sydd wedyn yn cael ei defnyddio i ddanfon gwybodaeth a deunydd marchnata i'r mamau hynny. Nawr, mae'n debyg, yn ôl cais rhyddid gwybodaeth, fod Bounty wedi talu £1,922 i fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr er mwyn cael mynediad didramgwydd i'r unedau mamolaeth yma ar hyd a lled a gogledd. Buaswn i'n licio gwybod a ydy'r Llywodraeth yn teimlo bod hyn yn dderbyniol. A ydy'r Llywodraeth yn hyderus bod mesurau yn eu lle i sicrhau bod hyn yn ddiogel? Rydw i wedi cael mamau, er enghraifft, yn cwyno bod y bobl yma'n tarfu arnyn nhw a'u babanod ar y wardiau sydd mewn golwg. Mae rhai mamau hefyd yn dweud eu bod nhw wedi derbyn cannoedd o e-byst marchnata yn y misoedd a'r blynyddoedd ar ôl rhoi'r wybodaeth yna i gwmnïau fel hyn. Rŷm ni angen sicrwydd bod diogelwch babanod, mamau a diogelwch data yn bwysicach, i bob pwrpas, na'r incwm eithaf pitw, a dweud y gwir, y mae Betsi Cadwaladr yn ei gael am y fath wasanaeth.
Ie, mewn gwirionedd, rwyf innau'n rhannu ei bryder ynghylch y data. Fi yw'r Gweinidog sy'n gyfrifol am hynny, mewn gwirionedd, felly byddaf yn ymchwilio i hynny ac yn dod yn ôl at yr Aelod.
Tybed a gawn ni esboniad o pam y cafodd y datganiad ar gynllun trawiad ar y galon y tu allan i oriau ei dynnu yn ôl? Byddwn yn deall os yw o ganlyniad i ddigwyddiadau hynod drist y penwythnos hwn, ond byddwn wir yn gwerthfawrogi pe byddem ni'n cael cadarnhad y byddwn yn cael datganiad llafar yn hytrach na datganiad ysgrifenedig ar hyn. Fe fyddwn i, yn un, yn sicr yn falch o'r cyfle i ofyn cwestiynau am y cynllun yn y Siambr. Felly, pe byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd yn ailystyried ac yn cyflwyno datganiad llafar, cyn bo hir efallai, yna fe fyddwn i yn un yn ddiolchgar iawn. Diolch.
O ran tegwch i Ysgrifennydd y Cabinet, problem o ran faint o fusnes y gallwn ei gynnwys oedd hynny. Yr oedd e'n fwy na—[Torri ar draws.] Wel, yr oedd yn fwy na pharod i wneud hynny, ond digwyddodd nifer o bethau yn ystod yr ychydig ddyddiau pan oedd pethau'n dod i mewn ac yn mynd allan o'r agenda. Felly, bydd yn cael ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig. Fy nghyfrifoldeb i yw gweld a oes gennym ddigon o amser, a byddaf yn trafod gydag ef i weld os bydd cyfle i gyflwyno datganiad llafar, ond mewn gwirionedd mae gennym ni agenda eithaf llawn. Felly, byddaf yn edrych i weld os oes cyfle i wneud hynny. Ond, er tegwch, nid oedd—. Roedd yn ddigon bodlon i wneud y datganiad llafar; busnes a berodd iddo beidio.
Diolch i arweinydd y tŷ.