Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 9 Hydref 2018.
Ac rydym ar y trywydd iawn gyda'n prif ymrwymiadau eraill: mae 16,000 o bobl wedi dechrau yn ein rhaglen brentisiaeth flaenllaw i bob oedran yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf yn unig. Rydym eisoes wedi cynyddu'r swm o arian y gall pobl ei gadw cyn bod rhaid ariannu cost lawn eu gofal preswyl i £40,000. Rydym wedi cynyddu nifer y gweithleoedd lle gall rhieni sy'n gweithio gael 30 awr o ofal plant am ddim i'w plant tair a phedair blwydd oed, gyda mwy na hanner yr awdurdodau lleol yn rhan o'n cynlluniau peilot erbyn hyn. A bydd Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru), sydd gerbron y Cynulliad ar hyn o bryd, yn ein cynorthwyo i gyflawni ein cynnig gofal plant. Rydym wedi parhau hefyd i flaenoriaethu gwariant ar ysgolion, ac rydym ar y trywydd iawn i fuddsoddi £100 miliwn ar wella perfformiad ein hysgolion, ochr yn ochr â newidiadau arfaethedig i'r cwricwlwm.
Dirprwy Lywydd, eleni, cyflwynwyd contract economaidd newydd, sy'n elfen hanfodol o'n cynlluniau ar gyfer Cymru ffyniannus a diogel. Rydym yn symleiddio'r cyllid ar gyfer busnesau ac yn buddsoddi yn eu dyfodol. Yn gyfnewid am hyn, disgwyliwn iddyn nhw chwarae eu rhan lawn yn ehangu ffyniant, yn mabwysiadu'r arferion cyflogaeth gorau, yn buddsoddi yn eu staff ac yn cynllunio ar gyfer dyfodol cynaliadwy, oherwydd rydym eisiau cefnogi swyddi o ansawdd uchel sy'n talu'n dda. Mae'r cynllun gweithredu cyflogadwyedd yn nodi, er enghraifft, sut y byddwn yn buddsoddi mewn pobl, sut y byddwn yn helpu pobl i gael swyddi, a sut y byddwn yn rhoi iddynt y sgiliau i ddatblygu. Rydym yn diwygio sut y byddwn yn ariannu addysg ôl-16 i fod yn fwy ymatebol i anghenion yr economi ac adlewyrchu blaenoriaethau rhanbarthol.
Rydym wedi ymrwymo i wasanaeth iechyd modern a chynaliadwy, 70 mlynedd ar ôl ei sefydlu. Gwyddom fod anghenion a disgwyliadau pobl o'r GIG wedi newid. Yn 'Cymru Iachach', nodwyd sut y byddwn ni bellach yn integreiddio gofal cymdeithasol ac iechyd, gan roi dull ataliol wrth wraidd ein gwasanaethau, ac rydym yn cefnogi hyn gyda chronfa trawsnewid £1 miliwn. Rydym yn buddsoddi mewn mesurau i helpu pobl i fod yn iach ac yn egnïol drwy ein cronfa iach ac egnïol gwerth £5 miliwn. Ac mae ein rhaglen aer glân Cymru yn adlewyrchu dull traws-lywodraethol, ochr yn ochr â chronfa ansawdd aer newydd gwerth £20 miliwn, a fydd yn helpu i wella ansawdd aer.
Llywydd, rydym wedi parhau i fuddsoddi mewn gwelliannau i ysgolion ac mewn ystâd addysg fodern drwy ein rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain sy'n werth £1.4 biliwn. Eleni, cwblhawyd y canfed prosiect. Mae buddsoddi mewn adeiladau ysgol yn mynd law yn llaw â 'n buddsoddiad yn y proffesiwn addysgu, drwy'r Academi Genedlaethol ar gyfer arweinyddiaeth addysgol a'n newidiadau i'r cwricwlwm. Drwy weithio law yn llaw ag athrawon, rydym yn datblygu system addysg a fydd yn diwallu anghenion y genedl. Dylai'r gallu i gael mynediad i ddysgu gydol oes fod ar gael i bawb, ac rydym yn buddsoddi i gau'r bwlch mewn cyrhaeddiad drwy becyn amddifadedd disgyblion ehangach—y pecyn mwyaf hael yn y DU—ac mae hynny wedi helpu i ddileu rhwystrau ariannol, ac mae'n rhoi cymorth i fyfyrwyr rhan-amser ac ôl-raddedig, gan gyflwyno cyfleoedd newydd.
Rydym yn cysylltu cymunedau â'i gilydd, yn buddsoddi mewn prosiectau seilwaith ar hyd a lled Cymru. Eleni dyfarnodd Trafnidiaeth Cymru gontract gwerth £5 biliwn ar gyfer gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a'r Gororau. Mae hyn wedi ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau rheilffyrdd a pharatoi'r ffordd ar gyfer metro de Cymru. A chwblhawyd y prosiect Cyflymu Cymru, sydd wedi darparu mynediad i fand eang ffeibr cyflym i 733,000 o safleoedd ledled Cymru.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gosod y sylfeini i gyrraedd ein targed o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg—Cymraeg 2050. Rwy'n gobeithio bod yno i weld y targed hwnnw'n cael ei wireddu, er nad yn y swydd hon yn benodol. Rydym wedi dyfarnu £4.2 miliwn i sefydliadau ledled Cymru i hyrwyddo'r Gymraeg fel iaith fyw lewyrchus.
Llywydd, gwyddom fod llywodraeth leol gref yn hanfodol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus integredig o ansawdd da yn effeithiol, a chaiff Bil ar lywodraeth leol ei gyflwyno yn ystod y flwyddyn i ddarparu pecyn mawr o newidiadau, gyda'r nod o ddiwygio a chryfhau democratiaeth yr awdurdodau lleol, eu hatebolrwydd a'u perfformiad.
Dirprwy Lywydd, rydym wedi cyflawni pob un o'r gwelliannau hyn er gwaethaf degawd o doriadau a orfodwyd gan Lywodraeth y DU. Ond nid ydym wedi caniatáu i hyn fod yn nodwedd ddiffiniol o'r Llywodraeth hon. Gwyddom fod cyni yn parhau i effeithio ar fywydau pobl yng Nghymru, a bod angen ein cymorth arnyn nhw yn fwy nag erioed. Rydym nawr yn paratoi ein hunain ar gyfer y realiti o ddyfodol y tu allan i'r UE. Beth bynnag fo ffurf Brexit, bydd yn amharu arnom ni, ac mae'n rhaid inni barhau i gynllunio ar gyfer pob canlyniad posibl. Mae'r gwaith hwn yn anochel yn effeithio ar ein rhaglen ddeddfwriaethol, ac ar draws busnes y Llywodraeth. Ond ein blaenoriaeth o hyd yw brwydro am y canlyniad gorau i Gymru, gan fod Cymru yn parhau i fod yn lle gwych i fuddsoddi a gweithio ynddo—neges sydd wrth wraidd y cynllun gweithredu economaidd.
Felly, Dirprwy Lywydd, mae'r Llywodraeth hon yn cyflawni ar gyfer pob rhan o Gymru, gan fwrw ymlaen gyda'n hagenda heriol. Rydym yn darparu gwelliannau sy'n cael effaith uniongyrchol ar fywydau pobl, ac yn gosod sylfeini cadarn er budd cenedlaethau'r dyfodol.