6. Dadl: Adroddiad Blynyddol Ffyniant i Bawb a'r Rhaglen Ddeddfwriaethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 9 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 3:24, 9 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Dirprwy Lywydd, rydym wedi ymrwymo i gyflawni gwelliannau gwirioneddol i bobl Cymru nawr, ond hefyd drwy osod y sylfeini ar gyfer y dyfodol. Cyhoeddais adroddiad blynyddol ddydd Mawrth diwethaf yn nodi'r cynnydd a wnaed wrth gyflawni ymrwymiadau tuag at ein hamcanion hirdymor. Rydym wedi cyflawni dau ymrwymiad mawr, er enghraifft, yn gyfan gwbl. Yn gyntaf oll, y gronfa triniaethau newydd gwerth £80 miliwn, sy'n sicrhau y gall pawb yng Nghymru gael yr un mynediad cyflym i gyffuriau a thriniaethau newydd. A hefyd, ein cynllun rhyddhad ardrethi'r stryd fawr, sydd wedi cyflwyno toriadau mewn trethi i fusnesau bach ledled Cymru.