6. Dadl: Adroddiad Blynyddol Ffyniant i Bawb a'r Rhaglen Ddeddfwriaethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 9 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 3:30, 9 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Rwyf yn falch i gynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.

Mae'r Aelodau ar yr ochr hon i'r Siambr yn dal o'r farn bod Llywodraeth Cymru wedi cael digon o amser i gyflwyno rhaglen sy'n gwella bywydau pobl Cymru, ond, yn anffodus, nid yw rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru wedi gwneud digon i fynd i'r afael â rhai o'r problemau hir sefydlog sy'n wynebu pobl Cymru. Mae hefyd yn destun pryder mawr fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod gwneud mwy i gefnogi ymgyrchoedd deddfwriaethol o'r tu allan i'w charfan ei hun yn y Cynulliad hwn. Yn wir, fe wn i o'm profiad personol fy hun pa mor llwythol ac anodd y gall hi fod i gael cefnogaeth ar gyfer deddfwriaeth sylfaenol, hyd yn oed pan allai'r ddeddfwriaeth honno wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl yng Nghymru. Felly, rwyf yn gobeithio, wrth ymateb i'r ddadl hon, y bydd y Prif Weinidog yn myfyrio ar ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at gynigion deddfwriaethol, a pham, yn y Cynulliad hwn yn arbennig y mae'r Llywodraeth wedi bod yn amharod i gefnogi galwadau o'r tu allan i'w Llywodraeth ei hun.

Nawr, mae'r Prif Weinidog wedi dweud yn glir fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth i osod dyletswydd o ansawdd ar gyfer y GIG yng Nghymru, a dyletswydd gonestrwydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Yn wir, mae'r digwyddiadau parhaus ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dangos bod atebolrwydd yn ddifrifol o wael yn ein gwasanaeth iechyd. Ac mae'r cyhoeddiad diweddar i israddio ysbytai yn y gorllewin heb warantu arian ar gyfer ysbyty yn dangos yn benodol y diffyg tryloywder ac atebolrwydd mewn rhai byrddau iechyd, ac mae angen mynd i'r afael â hyn ar fyrder. Mae'n gwbl hanfodol bod unrhyw ddeddfwriaeth a gyflwynir yn cryfhau llais y claf ar gyfer y dyfodol. Felly, efallai, wrth ymateb i'r ddadl hon, y gallai'r Prif Weinidog ddweud ychydig mwy wrthym ni am yr amserlenni y mae ei Lywodraeth yn eu hystyried ar hyn o bryd o ran darparu'r ddeddfwriaeth hon, a sut y bydd y ddeddfwriaeth hon yn effeithio ar unrhyw benderfyniadau a wnaed gan fyrddau iechyd yn ddiweddar sydd yn amlwg wedi mynd yn erbyn dymuniadau'r bobl y maen nhw mewn gwirionedd yn eu cynrychioli.

Nawr, mae adroddiad blynyddol 'Ffyniant i Bawb' yn dangos y bydd Bil Llywodraeth Leol yn cael ei gyflwyno a fydd yn cynnwys diwygio trefniadau etholiadol awdurdodau lleol a newidiadau i drefniadau llywodraethu a pherfformiad ar gyfer Llywodraeth Leol, ymhlith cynigion eraill. Gwnaeth Llywodraeth Cymru hi'n glir mai'r mater o rymuso cynghorau lleol sydd wrth wraidd y Bil hwn. Ac mae e'n gwybod beth yw barn yr Aelodau ar yr ochr hon i'r Siambr, sef nad yw creu awdurdodau mwy o faint yn golygu y byddan nhw yn awdurdodau gwell. O gofio bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cadarnhau y bydd yn datblygu atebion ar y cyd ag awdurdodau lleol, rwyf yn gobeithio y gallwn ni erbyn hyn anghofio'r strwythur anferthol sy'n cael ei fygwth bob ychydig o flynyddoedd.

Nawr, mae'r ddogfen 'Ffyniant i Bawb' yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi 'cyflawni gwelliannau parhaus o ran cyrhaeddiad addysgol', sydd yn fy marn i yn gwbl groes i'r canlyniadau A* i C TGAU diweddaraf yng Nghymru, sydd fel y gwyddom, yr isaf ers 2005. Mae Estyn wedi nodi nad yw bylchau cyrhaeddiad addysgol wedi lleihau ar gyfer disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim, ac rydym hefyd yn gwybod bod Estyn wedi canfod, mewn traean o ysgolion cynradd a thair o bob pum ysgol uwchradd, bod diffygion yn y modd y maen nhw'n sicrhau bod disgyblion yn defnyddio ac yn datblygu sgiliau rhifedd. Felly, efallai y gallai'r Prif Weinidog ddweud wrthym ymhle y mae gwelliannau cyson wedi digwydd mewn cyrhaeddiad addysgol, oherwydd mae'n ymddangos nad yw hyn yn wir.

Dirprwy Lywydd, ceir hefyd ddatgysylltiad sylweddol rhwng amcanion 'Ffyniant i bawb', rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, a'r gyllideb ddrafft ar gyfer 2019-20. Mae'r syniad o ddarparu mwy o integreiddio, mwy o wasanaethau ataliol, a darparu gwasanaethau cyhoeddus addas ar gyfer y dyfodol, yn cael ei danseilio'n sylweddol gan doriadau pellach i wariant awdurdodau lleol, toriadau mewn termau real i gyllidebau cyfalaf ym maes iechyd, a mwy o gyfuno llinellau cyllideb allweddol, sy'n atal tryloywder mewn gwariant hyd yn oed ymhellach. Yn anffodus, nid ydym yn nes at ddeall sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â diffyg cywirdeb a dibynadwyedd y costau a amcangyfrifir ac a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru yn yr asesiadau o effaith rheoleiddiol sy'n dod gyda'r ddeddfwriaeth. Felly, unwaith eto, byddai mwy o ganllawiau ynghylch y mater hwn yn cael eu croesawu.

Mae hefyd yn bwysig bod Llywodraeth Cymru yn canfod yn union sut yr ariennir unrhyw gostau a nodwyd yn yr asesiadau o effaith rheoleiddiol, ac efallai y dylai Llywodraeth Cymru gynnig mwy o eglurder i bwyllgorau wrth i ddeddfwriaeth fynd drwy'r broses ddeddfwriaethol. Bob blwyddyn, mae'r Cynulliad yn pasio mwy a mwy o ddeddfwriaeth, ac rwy'n credu erbyn hyn fod angen inni efallai fod yn fwy ystyriol o ddeddfwriaeth sydd wedi'i phasio o'r blaen, gan ganolbwyntio'n ddigonol ar waith craffu ôl-ddeddfu. Ac fe fyddai'n ddiddorol clywed barn gyffredinol y Prif Weinidog ar sut y cafodd deddfwriaeth o'r fan hon ei hailystyried a'i rhoi drwy'r broses graffu yn y blynyddoedd dilynol er mwyn sicrhau ei heffeithiolrwydd, ac a yw e'n credu bod lle i wella yn y maes penodol hwn. Prin yw'r ddealltwriaeth, manylion a chyfarwyddyd yn nogfen 'Ffyniant i Bawb' y Llywodraeth ynghylch sut y bydd unrhyw un o'i hamcanion yn cael eu gyrru ymlaen, ac y mae hefyd yn hanfodol bod unrhyw ddeddfwriaeth a ddaw o ganlyniad i'r ddogfen 'Ffyniant i Bawb' yn ystyrlon, yn cael effaith wirioneddol ac yn cyflawni gwerth am arian i drethdalwyr Cymru. Ar yr ochr hon i'r Siambr, fe fyddwn ni'n parhau i ymgysylltu mewn modd adeiladol gyda'r broses ddeddfwriaethol a'r broses ôl-ddeddfu pryd y gallwn ni weld gwelliannau gwirioneddol i bobl Cymru. Diolch.