1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru ar 10 Hydref 2018.
1. Pa ystyriaeth a roddodd Ysgrifennydd y Cabinet i wasanaethau ataliol wrth benderfynu ar y gyllideb ddrafft? OAQ52717
Wel, Ddirprwy Lywydd, ymhlith y penderfyniadau a wnaed wrth ystyried gwasanaethau ataliol, roeddwn yn arbennig o falch o allu adfer rhaglen ymyrraeth gynnar, atal a chymorth Llywodraeth Cymru yn llawn yn y gyllideb ddrafft.
Er hynny, dro ar ôl tro, rydych wedi ymrwymo eich hun, yn ddiffuant rwy’n credu, i hyrwyddo dulliau ataliol mewn iechyd a gofal yng Nghymru. Roedd ffigurau dros dro’r setliad llywodraeth leol ddoe yn dangos gostyngiad cyffredinol o 1 y cant ar gyfer llywodraeth leol, gyda phob awdurdod lleol yng ngogledd Cymru yn wynebu gostyngiad, er bod saith yn ne Cymru wedi aros yr un fath neu wedi cynyddu, gyda chyllid y GIG, fodd bynnag, yn cynyddu 7 y cant, yn hytrach nag ystyried sut y gallem gyllidebu'n fwy deallus er mwyn cyflawni mwy drwy atal ac ymyrraeth gynnar. Felly, sut rydych yn ymateb i'r datganiadau yn y llythyr gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a ddosbarthwyd inni ddoe, ac a arwyddwyd gan arweinwyr CLlLC o bob plaid, lle roedd arweinydd grŵp Ceidwadol CLlLC, Peter Fox, yn dweud:
Gyda £370 miliwn o arian newydd yn dod o San Steffan, roedd angen ymagwedd ddychmygus tuag at ariannu gwasanaethau ataliol er mwyn cadw pobl allan o'r ysbytai. Yn hytrach, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cynnydd o saith y cant i'r GIG ac wedi torri cyllidebau cynghorau am yr wythfed flwyddyn yn olynol.
Nid ydym yn argymell toriad yng nghyllid y GIG; yr hyn yr ydym yn ei argymell yw cyllidebau ataliol dychmygus a chraff sy'n cadw'r pwysau oddi ar wasanaethau iechyd, drwy sicrhau bod y ddau beth yn gweithio'n well gyda'i gilydd.
Wel, rwy’n siŵr, Ddirprwy Lywydd, fod Peter Fox, dyn y mae gennyf barch mawr tuag ato fel arweinydd, yn ddiolchgar iawn ei fod yn arweinydd cyngor yng Nghymru, ac nid yn Lloegr. Drwy weithio'n galed dros yr haf, llwyddasom i leihau'r bwlch yn y grant cynnal refeniw i 0.3 y cant—llai na £15 miliwn. Byddai’r toriadau sy'n wynebu awdurdodau lleol Lloegr y flwyddyn nesaf, pe baent yn cael eu trosi ar gyfer Cymru yn cyfateb i £65 miliwn o doriadau yng nghyllidebau’r grant cynnal refeniw ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru. Felly, rwy'n sicr fod arweinydd Ceidwadol Mynwy yn ddiolchgar iawn ei fod yn byw yn Nghymru’r Blaid Lafur, yn hytrach nag o dan drefn ei blaid ei hun.
Credaf fod y pwynt cyffredinol a wna’r Aelod, fodd bynnag, yn un synhwyrol, wrth gwrs. Pan fo arian mor brin ag y mae, ac yn lleihau bob blwyddyn, mae’n rhaid i bawb ganolbwyntio ar geisio sicrhau bod yr arian hwnnw'n mynd ymhellach, ar ddefnyddio arloesedd, ar gael syniadau newydd. Mae fy nghyd-Aelod, Vaughan Gething, wedi defnyddio £30 miliwn o gyllid canlyniadol iechyd i’w gyflwyno i'r byrddau partneriaeth rhanbarthol yng Nghymru, lle mae'n rhaid i’r bwrdd iechyd a'r awdurdodau lleol cyfansoddol gymeradwyo penderfyniadau ar y cyd. A chredaf fod cynyddu'r gyllideb yn y modd hwnnw yn rhoi gwerth newydd ar allu'r awdurdodau i weithredu yn y ffordd ddychmygus a nododd Mark Isherwood.
A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn ei bod yn anodd diffinio gwariant ataliol? Er enghraifft, mae gwario ar ofal cymdeithasol yn y cartref yn atal yr angen am ofal preswyl a gofal ysbyty. Mae gwariant ar feddygon teulu hefyd yn atal gofal ysbyty. Oni fyddai'n well diffinio'r gwariant fel yr hyn sy'n darparu budd hirdymor?
Diolch i Mike Hedges am ei gwestiwn atodol. Fe fydd yn ymwybodol, pan oeddwn gerbron y Pwyllgor Cyllid yr wythnos diwethaf, fy mod wedi nodi'r diffiniad newydd a gytunwyd ac a ddefnyddiwyd gennym yn y gyllideb hon o'r hyn a olygwn wrth 'gwariant ataliol', diffiniad a ddatblygwyd gan y trydydd sector ac Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn ymgynghoriad â chomisiynydd Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Ac nid yw'n berffaith, rwy'n siŵr, a byddwn yn ei ddatblygu ymhellach, ond mae'n gam go iawn tuag at sicrhau bod gennym iaith gyffredin. Mae'n rhannu'r hyn a olygwn wrth 'gwariant ataliol' yn nifer o gategorïau, o sylfaenol i acíwt. Dim ond hyn a hyn y gall unrhyw ddiffiniad ein cynorthwyo yn y penderfyniadau sy'n rhaid inni eu gwneud, ac o ran syniad Mike Hedges o ddiffinio gwariant yn erbyn budd hirdymor, gallaf weld y synnwyr yn hynny. Ynddo’i hun, ni fyddai'n osgoi'r angen i wneud penderfyniadau.
Ddirprwy Lywydd, cefais fy atgoffa wrth wrando ar y cwestiwn atodol hwnnw o ddiwrnod a dreuliais pan oeddwn yn Weinidog iechyd. Roeddwn wedi cael dau air o gyngor. Un oedd defnyddio swm o arian a fyddai wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau ychydig iawn o bobl yng Nghymru—llai nag 20 o bobl, ar gost uchel iawn y pen. Ar yr un diwrnod, cefais gyngor a ddywedodd wrthyf sut y gallwn wario’r un swm o arian ar gadwyn newydd, yn ôl yr hyn a gofiaf, o nyrsys epilepsi ledled Cymru—pobl a fyddai wedi gallu gwneud pethau da ym mywydau llawer mwy o bobl, ond lle byddai'r gwahaniaeth hwnnw wedi bod yn wahaniaeth cynyddrannol i’r gwasanaethau a ddarperid yn hytrach na gwahaniaeth trawsnewidiol. Roedd y ddau ohonynt yn bosibiliadau a fyddai wedi hyrwyddo budd hirdymor. Felly, pa ddiffiniadau bynnag sydd gennym, ac er mor ddefnyddiol y gallant fod, yn y pen draw, ni allant wneud penderfyniadau drosom, ac mae penderfyniadau bob amser yn anodd pan fo gennych swm cyfyngedig o arian gyda nifer o wahanol ffyrdd y gellid gwario’r arian hwnnw'n ddefnyddiol.