Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 10 Hydref 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Roedd y rheoliadau i ddiddymu'r Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 i fod i ddod i rym ar 3 Hydref. Rwy'n deall na ddigwyddodd hynny am fod angen pleidlais yn y Cynulliad. Felly, yn y lle cyntaf, a all Ysgrifennydd y Cabinet, gan wisgo ei het Brexit, ddweud yn glir na chafodd y Ddeddf parhad ei diddymu ar ddamwain heb bleidlais? Byddai hynny'n tawelu fy meddwl. Ac yn ail, os na ddigwyddodd hynny, a all roi gwybod i'r Cynulliad pam nad ydym wedi cael gwybod am ddyddiad newydd ar wyneb y rheoliadau? Beth yw'r dyddiad newydd? A phryd y cynhelir pleidlais yn y Cynulliad Cenedlaethol?