1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 10 Hydref 2018.
Trown yn awr at lefarwyr y pleidiau i holi Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, ac yn gyntaf heddiw mae llefarydd Plaid Cymru, Steffan Lewis.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Roedd y rheoliadau i ddiddymu'r Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 i fod i ddod i rym ar 3 Hydref. Rwy'n deall na ddigwyddodd hynny am fod angen pleidlais yn y Cynulliad. Felly, yn y lle cyntaf, a all Ysgrifennydd y Cabinet, gan wisgo ei het Brexit, ddweud yn glir na chafodd y Ddeddf parhad ei diddymu ar ddamwain heb bleidlais? Byddai hynny'n tawelu fy meddwl. Ac yn ail, os na ddigwyddodd hynny, a all roi gwybod i'r Cynulliad pam nad ydym wedi cael gwybod am ddyddiad newydd ar wyneb y rheoliadau? Beth yw'r dyddiad newydd? A phryd y cynhelir pleidlais yn y Cynulliad Cenedlaethol?
Wel, mae'n dda iawn cael cyfle i dawelu meddwl unrhyw Aelod o'r Cynulliad, felly gadewch imi wneud hynny i ddechrau drwy roi sicrwydd i'r Aelod nad yw ein Deddf wedi cael ei diddymu ar ddamwain. Fel y dywedodd, mae angen pleidlais ar lawr y Cynulliad hwn er mwyn gwneud hynny.
Mae dod o hyd i amser ar gyfer y nifer o bethau sy'n rhaid eu cyflawni ar lawr y Cynulliad yn dasg i fy nghyd-Aelod, arweinydd y tŷ, yma. Gwn ei bod yn ymdrechu i ddod o hyd i amser er mwyn cynnal y ddadl a'r bleidlais honno, ac os gellir gwneud hynny, y bwriad yw eu cynnal cyn y toriad hanner tymor.
Diolch iddo am dawelu fy meddwl, gyda rhan gyntaf ei ateb o leiaf. Mae ail ran ei ateb, fodd bynnag, yn codi cwestiynau. A yw'r Llywodraeth yn rhoi ystyriaeth i'r achos yn y Goruchaf Lys rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban ar ddeddfwriaeth parhad yr Alban? Wrth gwrs, buaswn yn dadlau na ddylem ddiddymu ein Deddf parhad ar unrhyw gyfrif, ond does bosib, o safbwynt y Llywodraeth, na fyddent yn awyddus i aros am ganlyniad achos y Goruchaf Lys rhwng Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU, gan y byddai hynny'n newid wyneb y trefniant datganoli a'r dulliau o ymadael â'r UE yn gyfan gwbl ar draws yr ynysoedd hyn pe bai gennym un weinyddiaeth ddatganoledig â tharian amddiffynnol o ddeddfwriaeth parhad a ninnau wedi cael gwared ar ein hun ni yn wirfoddol ac yn ddiangen. Felly, a yw'n gallu sicrhau bod y Llywodraeth yn barod i oedi, os bydd angen, hyd nes y gwyddom beth fydd canlyniad achos y Goruchaf Lys?
Wel, Ddirprwy Lywydd, amddiffynnwyd buddiannau Cymru yn y Goruchaf Lys gan fy nghyd-Aelod, y Cwnsler Cyffredinol, a ymyrrodd i sicrhau, lle roedd buddiannau Cymru yn y fantol, fod y Goruchaf Lys yn ymwybodol iawn ohonynt. Wrth gwrs, nid wyf yn cytuno â'r Aelod y byddem yn ddiamddiffyn pe baem yn diddymu'r Bil parhad, gan ein bod wedi ymrwymo i gytundeb rhynglywodraethol gyda Llywodraeth y DU sy'n rhoi dewis amgen inni yn ein tyb ni, ac yn wir, set well o amddiffyniadau yn yr amgylchiadau y lluniwyd y Ddeddf parhad i fynd i'r afael â hwy.
A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud, felly, hyd yn oed os bydd y llysoedd yn dyfarnu o blaid Llywodraeth yr Alban, y byddai'n dderbyniol fod gan un weinyddiaeth ddatganoledig darian amddiffynnol gyfreithiol, a rywsut, fod y cytundeb rhynglywodraethol rhwng ei Lywodraeth ef a Llywodraeth y DU yn gwneud yr angen am Ddeddf parhad yma yn ddiangen? Oherwydd, does bosib nad yw datblygiadau diweddar mewn perthynas â'r gronfa ffyniant gyffredin wedi dangos bod y cytundeb rhynglywodraethol wedi'i dorri. Mae Ysgrifennydd y Cabinet ei hun wedi dweud,
'byddai dull "Cronfa Ffyniant Gyffredin" Llywodraeth y DU, pe byddai’n cael ei weithredu ar draws y DU a’i gyfarwyddo o Lundain, yn ymosodiad ar ddatganoli'.
Ac mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi dweud,
Rwy'n llwyr gydnabod y rôl y mae Llywodraeth Cymru wedi'i chwarae a'r rôl y mae Llywodraeth Cymru wedi'i chwarae mewn penderfyniadau ar gyfer Cymru. Ond yn amlwg, wrth inni edrych ar y gronfa ffyniant gyffredin ar gyfer y DU gyfan, rydym yn awyddus i sicrhau bod y strwythur cywir a'r prosesau cywir yn rhan o hynny fel y gall yr arian a werir gael ei wario mor effeithiol â phosibl gan fod a wnelo hyn â chyflawni ar gyfer pobl ar lawr gwlad— h.y. bydd yr holl beth yn cael ei redeg a'i reoli o San Steffan. A sylwaf gyda diddordeb nad oes unrhyw gyfeiriad yn y cytundeb rhynglywodraethol at bolisi rhanbarthol, ac nad yw datblygu economaidd wedi'i restru yn un o'r 24 eitem ychwaith. Felly, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn hyderus fod y cytundeb rhynglywodraethol yn well na chael deddfwriaeth parhad, er ei bod yn ymddangos bod y cytundeb rhynglywodraethol eisoes yn dechrau ymddatod?
Wel, Ddirprwy Lywydd, fe atebodd yr Aelod ei gwestiwn ei hun, oni wnaeth? Oherwydd, fel y nododd yn ei sylwadau wrth orffen, nid yw'r cytundeb rhynglywodraethol yn gweithredu yng nghyswllt y gronfa ffyniant gyffredin. Mae'r cytundeb rhynglywodraethol yn cynnwys yr eitemau a nodir yn y Bil ymadael sydd, o bosibl, ac yn y dyfodol—oherwydd, cofiwch, nid oes unrhyw rym wedi gadael Cymru o ganlyniad i'r cytundeb—. Cafwyd rhestr o bwerau a oedd yn gweithredu drwyddo nad oedd yn cynnwys hyn, fel y dywedodd yr Aelod ei hun. Felly, mae wedi dwyn dau beth ynghyd nad oes ganddynt y cysylltiad y mae'n ceisio'i wneud rhyngddynt yn fy marn i.
Mae natur anghymesur y tariannau amddiffynnol eisoes wedi'i chyflwyno gan benderfyniad Llywodraeth yr Alban i beidio ag ymrwymo i'r cytundeb rhynglywodraethol. Ein safbwynt ni oedd ei fod yn darparu, mewn perthynas â'r materion a weithredir drwyddo, digon o amddiffyniadau i ni allu bwrw ymlaen yn y ffordd y gwnaethom. Roedd safbwynt Llywodraeth yr Alban yn wahanol. Yn unol â'r cytundeb rhynglywodraethol, rydym yn chwilio am gyfle i gyflwyno pleidlais ar lawr y Cynulliad yn y ffordd a ddisgrifiais wrth ateb cwestiwn cynharach.
Diolch. Trof at lefarydd y Ceidwadwyr, Nick Ramsay.
Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn eich holi ynglŷn â chaffael. Pan grëwyd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn gyntaf yn ôl yn 2013, disgrifiodd eich rhagflaenydd, y Gweinidog Jane Hutt, y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol fel
'ffordd Gymreig iawn o ddiwallu anghenion busnes Cymru ond hefyd gwerth am arian am y bunt Gymreig'.
Ers hynny, fodd bynnag, mae'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi gwneud colledion sylweddol a bu'n rhaid i Weinidogion ei achub, ac yn y pen draw mae hynny wedi arwain at benderfyniad gan Lywodraeth Cymru i gael gwared ar y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn gyfan gwbl.
A gaf fi gofyn i chi amlinellu beth yn eich barn chi yw'r ffactorau craidd sydd wedi cyfrannu at fethiant y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol? Onid yw hon yn ergyd ddifrifol a sylweddol i raglen bolisi gyffredinol Llywodraeth Cymru, o gofio pwysigrwydd caffael a'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn y cynllun gweithredu economaidd?
Wrth gwrs, nid wyf am eiliad yn derbyn yr hyn y mae'r cwestiwn yn ei ddweud gan nad yw'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi bod yn fethiant. Ers ei gyflwyno, mae cyfran y gwariant Cymreig ar gaffael cyhoeddus sy'n mynd i gwmnïau yng Nghymru wedi codi o 35 i 50 y cant. O'r 22,000 o gontractau sydd wedi'u gosod drwy GwerthwchiGymru, mae dwy ran o dair ohonynt yn mynd i gyflenwyr Cymreig ac mae tri chwarter y rheini'n fusnesau bach a chanolig Cymreig, a hynny o ganlyniad i'r gwaith y mae'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi'i wneud ym mhob rhan o Gymru. Mae llawer o bethau eraill y gallem eu nodi sy'n glod i'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, yn enwedig yr hyn a wnaeth drwy gynyddu'r manteision cymunedol yn sgil contractau sydd bellach wedi'u gosod i gyflenwyr o Gymru.
Yr hyn sydd wedi digwydd, Ddirprwy Lywydd, yw bod amgylchiadau wedi newid. Mae anghenion defnyddwyr y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi newid. Maent wedi dod atom ni fel Llywodraeth Cymru i ddweud wrthym eu bod yn credu y gallent wneud mwy pe bai'r gwasanaeth ar gael ar sail fwy rhanbarthol a lleol, ac maent wedi dadlau achos cryf dros hynny. Ac mae Brexit yn cyflwyno set newydd o bosibiliadau ar gyfer caffael cyhoeddus yn y dyfodol, ac yn cyd-destun hwnnw, gofynnais am adolygiad o'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a dyna a arweiniodd at y penderfyniadau a gyhoeddais i'r Cynulliad hwn ym mis Medi.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Roeddech yn amlwg yn gwybod bod problemau yno gan i chi ofyn am yr adolygiad hwnnw, ac wrth gwrs nid fi yn unig sy'n bod yn feirniadol, ond yr archwilydd cyffredinol hefyd, a ganfu mai £150 miliwn yn unig a wariwyd gan gyrff cyhoeddus gyda'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn 2015-16 a £234 miliwn yn y flwyddyn ganlynol. Yn ogystal, er bod y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi gwneud arbedion ar gyfer y cynghorau a'r sefydliadau eraill sy'n defnyddio ei wasanaethau, fe wnaethant golli miliynau o bunnoedd ar eu cyllideb eu hunain a bu'n rhaid iddynt gael eu hachub—defnyddiaf y term hwnnw eto, nid ar chwarae bach—gan eich Llywodraeth. Yn ogystal â hynny, maent wedi cael eu beirniadu mewn adroddiad gan Bwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad am oramcangyfrif gwerth contractau bwyd i gyflenwyr.
Felly, a gaf fi ofyn ichi, pa weithdrefnau rheoli brys a chamau arferion gorau a roddwyd ar waith gennych bellach mewn perthynas â gweithrediadau caffael cyhoeddus Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gwersi wedi'u dysgu o'r methiannau hyn ac y bydd arferion caffael yn Cymru o'r hydref hwn ymlaen yn gwella'n sylweddol? Oherwydd nid yw'n ddigon da dweud wrth y cyhoedd fod popeth yn iawn ac fel y dylai fod pan yw'n amlwg nad yw hynny'n wir.
Wel, Ddirprwy Lywydd, os nad oedd yr achos dros newid yno, ni fyddwn wedi gofyn am adolygiad ac ni fyddem wedi amlinellu prosbectws newydd ar gyfer caffael cyhoeddus yma yng Nghymru o ganlyniad i'r adolygiad. Pan ddywed yr Aelod fod Llywodraeth Cymru wedi gorfod dod o hyd i filiynau o bunnoedd yn ei chyllidebau i gefnogi'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, y ffigur y llynedd oedd £1.5 miliwn, felly credaf fod arnom angen ychydig o bersbectif mewn perthynas â'r cymorth ychwanegol y bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru ei ddarparu. Yn y pen draw, credaf mai'r pwynt pwysig yng nghwestiwn Nick Ramsay yw hwn: os oes gennych sefydliad fel y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, mae'n rhaid i'w gwsmeriaid ei werthfawrogi ac mae'n rhaid i'w gwsmeriaid fod yn barod i ddefnyddio'r gwasanaeth hwnnw. Ac os yw'r gwasanaeth hwnnw yn un y dywed y cwsmeriaid y byddai'n well ganddynt ei sicrhau mewn ffordd wahanol, mae'n rhaid ichi wrando'n astud ar yr hyn sydd gan y defnyddwyr hynny i'w ddweud. O ganlyniad i'r sgwrs honno, lle dywedodd defnyddwyr eu bod yn teimlo y byddai ymagwedd gyfunol at gaffael cyhoeddus yng Nghymru yn cael ei sicrhau'n well drwy haen ranbarthol gryfach, yn hytrach na chyflawni pethau ar lefel genedlaethol—rydym wedi gwrando'n astud ar hynny. Ni fydd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn parhau ar ei ffurf bresennol, a bydd yn newid i fod yn sefydliad gyda phresenoldeb rhanbarthol a lleol cryfach, ac yn sefydliad sydd mewn gwell sefyllfa i sicrhau bod y sefydliadau hynny ledled Cymru sy'n gwario arian cyhoeddus mewn sefyllfa dda i ymateb i'r cyfleoedd newydd a all fod ar gael iddynt.
Dyma lle rydym yn awr, Ysgrifennydd y Cabinet. Os caf sôn am ran olaf eich sylwadau, ac wrth edrych tua'r dyfodol, a throi at y trefniadau ar gyfer caffael yn y dyfodol agos, rydych wedi dweud, ac rydych wedi ailadrodd unwaith eto, yn dilyn y cyhoeddiad y byddai'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn dirwyn i ben dros gyfnod o amser, y byddai corff llai yn cael ei sefydlu wedyn i reoli portffolio llai o gontractau cenedlaethol. A allwch roi mwy o fanylion inni ynglŷn â phryd y bydd gweithrediad llawn y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn dod i ben yn ffurfiol? Beth yw costau rhagamcanol dirwyn y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol i ben? Hefyd, pa drefniadau sydd ar waith i reoli'r broses o ddod â gweithrediadau'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol i ben? A pha adnoddau a chynlluniau busnes sydd ar waith i gefnogi'r broses o sefydlu'r corff newydd llai o faint a ragwelwch?
Mae'r Aelod yn disgrifio'n gywir beth fydd yn digwydd i'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol. Dywed awdurdodau lleol ac eraill wrthym eu bod yn dal i weld gwerth rhai fframweithiau caffael cenedlaethol ac y byddent yn awyddus i'w gweld yn parhau ar lefel Cymru gyfan. Mae defnyddwyr y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn dweud y byddai'n well ganddynt ddefnyddio rhai contractau drwy Wasanaeth Masnachol y Goron, felly mae hynny ar lefel caffael y DU, ac mae'n debyg y byddwn ninnau hefyd yn gwneud defnydd ychwanegol o Wasanaeth Masnachol y Goron.
Bydd y newid o ble mae'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol heddiw i ble bydd yn y dyfodol yn cael ei weithredu'n unol â'r amserlen a awgrymir inni gan randdeiliaid drwy'r trefniadau rydym wedi'u sefydlu gyda'r rheini sy'n dibynnu ar ei wasanaethau. Byddwn yn awyddus i sicrhau bod dewisiadau amgen digonol ar gael cyn i'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol orffen darparu'r pethau y mae'n eu darparu heddiw. Bydd yr amserlen y byddwn yn ei defnyddio, Ddirprwy Lywydd, yn cael ei llywio gan yr hyn y dywed defnyddwyr y gwasanaeth wrthym sy'n addas iddynt hwy, yn hytrach na chynllun a lunnir ym Mae Caerdydd.
Diolch. Llefarydd UKIP, Neil Hamilton.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol iawn fy mod yn awyddus i archwilio'r posibilrwydd y gallwn, drwy dorri cyfraddau treth yng Nghymru, greu mantais dreth o gymharu â Lloegr a thyfu economi Cymru, ac felly, cynyddu maint y sylfaen drethu. Cawsom ddadl gynhyrchiol yn fy marn i yn y Pwyllgor Cyllid ychydig ddyddiau'n ôl, lle roeddwn yn falch o weld bod Ysgrifennydd y Cabinet yn agored i'r posibilrwydd hwn.
Dywedodd pennaeth Trysorlys Cymru wrthyf y dylwn edrych ar yr adroddiad ar bolisi treth Cymru ar gyfer 2018, lle caiff nifer o astudiaethau rhyngwladol ar y pwnc eu rhestru, ac rwyf wedi cael cyfle i edrych ar rai ohonynt—mae pob un ohonynt at ei gilydd yn cefnogi fy namcaniaeth. Hoffwn dynnu ei sylw at un yn benodol gan Isabel Martinez o Sefydliad Ymchwil Economaidd-gymdeithasol Lwcsembwrg, sy'n edrych ar yr hyn a ddigwyddodd yn y Swistir pan roddwyd hyn ar waith gan un o gantonau'r Swistir: Obwalden. Effaith hynny oedd denu pobl ar incwm uwch i'r canton er mwyn gallu fforddio lefel is o drethiant cyffredinol i bawb. Cynyddodd cyfran y trethdalwyr cyfoethog a oedd yn byw yn y canton o 25 i 30 y cant yn y pum mlynedd cyntaf wedi'r newid yn y dreth, ac ni effeithiwyd ar y 99 y cant isaf o drethdalwyr o gwbl gan y newid hwn, felly ymddengys ei bod yn sefyllfa lle roedd pawb ar ei ennill.
Gwn fod cymariaethau rhyngwladol yn anodd yn y meysydd hyn, gan y bydd yr effeithiau ymddygiadol yn wahanol mewn gwahanol wledydd, ond hoffwn ofyn iddo a fydd yn gofyn i'w swyddogion gynnal ymchwiliad ffurfiol i'r posibiliadau hyn fel y gallwn lywio penderfyniadau mewn cyllidebau yn y dyfodol.
Wel, Ddirprwy Lywydd, gŵyr yr Aelod nad wyf yn rhannu ei ddamcaniaeth gychwynnol. Nid wyf wedi fy argyhoeddi y byddai cystadleuaeth dreth, lle byddem yn gostwng cyfraddau treth Cymru yn y gobaith y byddai hynny'n arwain rywsut at bobl yn dod i Gymru i fanteisio arnynt, yn rhywbeth a fyddai'n debygol iawn o ddigwydd. Ond wrth ateb ei gwestiynau yn y Pwyllgor Cyllid, dywedais wrtho ein bod ni yn Llywodraeth Cymru yn credu mewn llunio polisïau ar sail tystiolaeth, ac felly rydym bob amser yn agored i dystiolaeth o rannau eraill o'r byd. Rwy'n gyfarwydd â'r astudiaeth y soniodd amdani ar y canton yn y Swistir, ac mae'r ffaith bod gwybodaeth Llywodraeth Cymru yn cyfeirio ati yn dangos ein bod yn barod i edrych ar bethau sy'n digwydd mewn mannau eraill, ac i weld a oes gwersi i'w dysgu.
Ceir llawer o enghreifftiau gwrthbwysol a fyddai'n dangos y gwrthwyneb i chi. Pan ofynnais y cwestiwn hwn i'r Gweinidog treth yng Ngwlad y Basg, lle mae ganddynt gyfraddau treth sylweddol uwch na'r rhannau o Sbaen sy'n ffinio â hwy, gofynnais iddo: onid oedd ganddo golledion treth ac onid oedd pobl yn gadael Gwlad y Basg i fanteisio ar y cyfraddau treth is dros y ffin? Rhoddodd sicrwydd imi nad oedd honno'n un o nodweddion y ffordd roedd pobl yn ymddwyn yn y gyfundrefn dreth honno.
Felly, i ateb y cwestiwn yn uniongyrchol, o ran y llu o bethau y mae'n rhaid imi ofyn i fy swyddogion fynd i'r afael â hwy wrth inni ymgymryd â chyfrifoldebau cyllidol newydd, wrth inni wynebu her Brexit ac ati, nid oes bwriad gennyf ar hyn o bryd i ddargyfeirio eu hegni i archwiliad o'r math y mae'r Aelod yn ei awgrymu.
Efallai y gallaf helpu Ysgrifennydd y Cabinet drwy ddweud wrth fy swyddogion wneud hynny, ac anfon canlyniadau eu gwaith ato maes o law.
Ond hoffwn dynnu sylw Ysgrifennydd y Cabinet at y datganiad ar dudalen 56 o'r adroddiad ar bolisi treth Cymru, sy'n crynhoi effeithiau'r nifer o astudiaethau a grybwyllir yn y troednodiadau, ac sy'n dweud
'Roedd y rhain yn dueddol o ddangos bod trethdalwyr ar incwm uwch yn ymateb yn fwy i newidiadau i'r dreth incwm. Y prif esboniad dros hyn yw bod enillwyr incwm uwch yn dueddol o gynllunio'n fwy gweithgar ar sail trethi ac maent o bosibl yn fwy symudol na'r rheini sydd ar incwm is.'
Felly, credaf ein bod yn dechrau o sefyllfa lle mae'r pridd yn ffrwythlon, ac er fy mod yn sylweddoli efallai fod Gwlad y Basg yn wahanol i'r profiad yn y Swistir—ni allwch gymryd bod un arolwg yn ddigon athrylithgar i allu dangos effaith ymddygiadol ledled Ewrop, neu yn y Deyrnas Unedig, neu yng Nghymru—ond serch hynny, credaf fod mantais i'w chael o edrych ar y posibiliadau, o gofio bod y pwerau amrywio trethi sydd gennym yn gyfyngedig, ond mae'r lle sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i symud mewn unrhyw gyllideb wedi'i gyfyngu gan system y grant bloc gan y Trysorlys ac ati. Mae faint o ddisgresiwn sydd gennym yn dibynnu bellach, yn allweddol, ar allu economi Cymru i dyfu'n gyflymach nag y gwnaeth dros yr 20 mlynedd diwethaf.
A hoffwn dynnu ei sylw at rywbeth arall. Cyhoeddodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru adroddiad o'r enw 'Y Sylfaen Drethu Gymreig: Risgiau a Chyfleoedd ar ôl Datganoli Cyllidol', ac mae'n cynnwys tabl sy'n dangos, pe baem yn denu 1,600 yn unig o drethdalwyr ar y gyfradd uwch i Gymru drwy doriad ychwanegol o 5c i'r gyfradd dreth, y byddai hynny'n creu budd o £16 miliwn i Lywodraeth Cymru. Pe byddem yn denu 10,000, byddai hynny'n ychwanegu £230 miliwn i gyllideb Llywodraeth Cymru. Felly, yn sicr, mae'r rhain yn risgiau sy'n werth eu hystyried, gyda'r bwriad o'u cymryd os ydych yn argyhoeddedig y byddant yn cael eu gwireddu.
Wel, Ddirprwy Lywydd, gadewch imi geisio dod o hyd i rywfaint o dir cyffredin gyda Mr Hamilton oherwydd, fel yntau, rwy'n cytuno bod tyfu'r sylfaen drethu Gymreig yn uchelgais pwysig iawn i Lywodraeth Cymru. Yr unig wahaniaeth yw'r ffordd orau o wneud hynny. Byddai ef yn gwneud hynny drwy leihau cyfraddau treth i rai sy'n ennill yn dda yng Nghymru, yn y gobaith y byddem yn denu rhai pobl i ddod i fyw yng Nghymru ar y sail honno. Credaf fod llawer o resymau gwell pam y byddai pobl yn awyddus i ddod i fyw yng Nghymru, nid yn unig am ei bod yn rhad iddynt wneud hynny. Ac mae adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru ar dyfu'r sylfaen drethu Gymreig yn nodi cyfres o ffyrdd eraill y gellid cyflawni hynny; er enghraifft, drwy gadw mwy o raddedigion yma.
Felly, er fy mod yn rhannu'r uchelgais sy'n sail i'w gwestiwn, sef sicrhau ein bod yn tyfu'r sylfaen drethu yma yng Nghymru, credaf fod ffyrdd gwell o wneud hynny na'r un a ffafrir ganddo, a lle credaf fod y dystiolaeth o blaid y mesurau amgen hynny'n gryfach.
Nid gemau sero-swm yw'r rhain; nid yw'n un neu'r llall—gallwn gael y ddau beth yn fy marn i, ac mae gennyf ddiddordeb mewn archwilio hynny ymhellach. Awgryma astudiaeth Bangor y bydd twf trethdalwyr yng Nghymru yn gostwng o gynnydd o 0.007 y cant yn 2019-20 i -0.11 y cant yn 2023, felly mae'r rhagolygon ar gyfer y dyfodol gyda phethau fel y maent ar hyn o bryd—hyd yn oed o gofio bod yr holl ragolygon yn rhai dros dro o reidrwydd ac efallai na fydd pethau'n digwydd fel rydym yn eu rhagweld, serch hynny, bydd pethau'n mynd yn dynnach yn hytrach na'n llai tynn iddo ef. Ac felly, mae'n bwysicach byth ein bod yn gweld beth y gallwn ei wneud i sicrhau bod mwy o bobl gyfoethog yn dod i Gymru, nid yn unig oherwydd y gallent ychwanegu at y sylfaen drethu Gymreig fel trethdalwyr unigol ond oherwydd y gallent ddod â busnesau eraill y maent yn ymwneud â hwy i Gymru hefyd, a gallai Cymru lwyddo i wneud yr hyn y mae Gweriniaeth Iwerddon wedi'i wneud, er nad oes gennym reolaeth dros dreth gorfforaeth eto, a hon yw'r ffordd ymlaen i Gymru.
Wel, Ddirprwy Lywydd, mae amcanestyniadau Bangor yn seiliedig ar ddemograffeg yn hytrach na newidiadau ymddygiadol, a ni chredaf y byddai'r cynnig a wnaed gan yr Aelod y prynhawn yma yn gwneud llawer i newid y sbardunau demograffig sylfaenol hynny. Addawodd mewn ateb cynharach y byddai'n darparu ei dystiolaeth ei hun i ategu'r achos a wnaed ganddo, ac fel y dywedais gerbron y Pwyllgor Cyllid, er nad yw ei achos wedi fy argyhoeddi, rwyf bob amser yn agored i ddarllen tystiolaeth newydd.
Diolch. Trown at y cwestiynau ar y papur trefn. Cwestiwn 3—Janet Finch-Saunders.