Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 10 Hydref 2018.
Dyma lle rydym yn awr, Ysgrifennydd y Cabinet. Os caf sôn am ran olaf eich sylwadau, ac wrth edrych tua'r dyfodol, a throi at y trefniadau ar gyfer caffael yn y dyfodol agos, rydych wedi dweud, ac rydych wedi ailadrodd unwaith eto, yn dilyn y cyhoeddiad y byddai'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn dirwyn i ben dros gyfnod o amser, y byddai corff llai yn cael ei sefydlu wedyn i reoli portffolio llai o gontractau cenedlaethol. A allwch roi mwy o fanylion inni ynglŷn â phryd y bydd gweithrediad llawn y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn dod i ben yn ffurfiol? Beth yw costau rhagamcanol dirwyn y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol i ben? Hefyd, pa drefniadau sydd ar waith i reoli'r broses o ddod â gweithrediadau'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol i ben? A pha adnoddau a chynlluniau busnes sydd ar waith i gefnogi'r broses o sefydlu'r corff newydd llai o faint a ragwelwch?