Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 10 Hydref 2018.
Er nid wyf i'n meddwl bydd trethdalwyr Conwy yn mwynhau codiad o 11 y cant yn y dreth gyngor, chwaith—ac mae hwnnw'n rhywbeth sydd yn cael ei ystyried ar hyn o bryd. Mi godais i gwestiwn gyda'r Ysgrifennydd gwasanaethau cyhoeddus yr wythnos diwethaf: o gofio'r wasgfa ddifrifol, ingol sydd ar awdurdodau lleol yn ariannol erbyn hyn, a oedd e'n hyderus bod yna drefniadau yn eu lle gan y Llywodraeth yma—bod yna broses yn ei lle—i ddelio â sefyllfa, petai hi'n codi, fod yna gyngor yng Nghymru yn mynd yn fethdalwr, fel yr ŷm ni wedi gweld yn digwydd yn Lloegr? Mi wnaeth e gydnabod bod hwnnw'n rhywbeth maen nhw yn edrych arno fe ar hyn o bryd ac yn ei ddatblygu, felly a gaf i ofyn yr un cwestiwn i chi: o safbwynt cyllidol, yng nghyd-destun y gyllideb rŷch chi'n gyfrifol amdani, a ydych chi'n hyderus bod gennych chi'r trefniadau angenrheidiol yn eu lle petai'r fath sefyllfa'n codi?