1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru ar 10 Hydref 2018.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y bydd y gyllideb ddrafft yn helpu awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru yn sgil y pwysau ariannol sydd arnynt? OAQ52739
Ddirprwy Lywydd, mae'r gyllideb ddrafft yn dangos ymdrechion ar draws Llywodraeth Cymru i gynorthwyo awdurdodau lleol i fynd i'r afael â'r pwysau gwirioneddol a wynebir ganddynt. Mae'r gostyngiad o lai na £15 miliwn yn y grant cynnal refeniw yng Nghymru dros 75 y cant yn llai na thoriad Llywodraeth y DU i awdurdodau lleol yn Lloegr y flwyddyn nesaf.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn ôl y llythyr a anfonwyd at yr awdurdodau lleol gan eich cyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol, bydd y cyllid craidd cyffredinol ar gyfer cynghorau a gyhoeddwyd yn y setliad llywodraeth leol ddoe yn cael ei dorri 0.3 y cant yn y flwyddyn sydd i ddod. Fodd bynnag, mae hyn yn cuddio'r ffaith na fydd y toriad yn y gwariant wedi'i rannu'n gyfartal ac yn deg rhwng cynghorau Cymru. Yng ngogledd Cymru, bydd Conwy, Ynys Môn a Sir y Fflint yn wynebu toriad o 1 y cant i'w cyllid—y toriadau uchaf yng Nghymru. Mae fy awdurdod i, Conwy, eisoes wedi gorfod gwneud £48 miliwn o arbedion dros y chwe blynedd diwethaf a bellach mae'n rhaid iddynt ddod o hyd i £16 miliwn er mwyn parhau i weithredu. Serch hynny, mae Rhondda Cynon Taf, a Chaerdydd sydd o dan arweiniad y Blaid Lafur, wedi gweld cynnydd o 0.3 y cant. Gyda £370 miliwn yn dod gan Lywodraeth Geidwadol y DU er mwyn ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus yn well, mae llawer o bobl yma yng Nghymru o'r farn fod y setliad diweddaraf hwn yn dangos ymagwedd lwythol a diog gan Lywodraeth Lafur Cymru. Pa esgus arall y gallech ei roi am setliad llywodraeth leol mor annheg ac anghyfiawn?
Ddirprwy Lywydd, dylai'r Aelod dynnu ei chyhuddiad yn ôl fod natur y fformiwla ariannu ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru rywsut yn llwythol. Gŵyr nad yw hynny'n wir. Cytunir ar y fformiwla ariannu bob blwyddyn gyda llywodraeth leol. Eisteddais yn yr is-grŵp cyllid, lle cytunodd arweinwyr awdurdodau lleol—[Torri ar draws.]—na, na, cytunodd arweinwyr awdurdodau lleol ar y gyfres ddiweddaraf o newidiadau i'r fformiwla. Ar y cyfan, roedd y newidiadau hynny'n ffafrio rhannau mwy gwledig o Gymru am eu bod yn ychwanegu cynnydd ychwanegol i gydnabod teneurwydd poblogaeth yn y ffordd y mae'r fformiwla'n gweithio. Nid Llywodraeth Cymru sy'n gosod y fformiwla. Fe'i gosodir yn unol â chyngor arbenigol a'i chytuno gan lywodraeth leol. Y rheswm pam fod Conwy wedi wynebu gostyngiad yn y cyllid eleni yw am fod ganddynt lai o bobl ddi-waith yn eu hardal nag a oedd ganddynt yr adeg hon y llynedd, mae ganddynt lai o ddisgyblion ysgol uwchradd nag a oedd ganddynt yr adeg hon y llynedd, ac mae ganddynt lai o blant yn hawlio prydau ysgol am ddim yn eu hysgolion cynradd. Nid oes unrhyw beth llwythol ynghylch unrhyw un o'r ffactorau hynny. Mae pob un ohonynt yn fesurau empirig, maent yn bwydo eu ffordd i mewn i'r fformiwla, a bob blwyddyn, mae rhai awdurdodau lleol yn gweld budd a rhai awdurdodau lleol yn gweld llai o fudd, felly heb os, bydd cyngor Conwy'n ddiolchgar fod Llywodraeth Cymru, er mwyn cynorthwyo'r cyngor hwnnw i fynd i'r afael â'r newidiadau yn y fformiwla, yn darparu £513,000 o gyllid ychwanegol i'r cyngor hwnnw y flwyddyn nesaf—nid drwy fynd ag arian oddi wrth rai cynghorau a'i roi i eraill fel y gwnânt lle rydych chi mewn grym, ond drwy'r cyllid canolog y mae'r Llywodraeth hon yn ei roi er mwyn darparu'r cyllid gwaelodol.
Er nid wyf i'n meddwl bydd trethdalwyr Conwy yn mwynhau codiad o 11 y cant yn y dreth gyngor, chwaith—ac mae hwnnw'n rhywbeth sydd yn cael ei ystyried ar hyn o bryd. Mi godais i gwestiwn gyda'r Ysgrifennydd gwasanaethau cyhoeddus yr wythnos diwethaf: o gofio'r wasgfa ddifrifol, ingol sydd ar awdurdodau lleol yn ariannol erbyn hyn, a oedd e'n hyderus bod yna drefniadau yn eu lle gan y Llywodraeth yma—bod yna broses yn ei lle—i ddelio â sefyllfa, petai hi'n codi, fod yna gyngor yng Nghymru yn mynd yn fethdalwr, fel yr ŷm ni wedi gweld yn digwydd yn Lloegr? Mi wnaeth e gydnabod bod hwnnw'n rhywbeth maen nhw yn edrych arno fe ar hyn o bryd ac yn ei ddatblygu, felly a gaf i ofyn yr un cwestiwn i chi: o safbwynt cyllidol, yng nghyd-destun y gyllideb rŷch chi'n gyfrifol amdani, a ydych chi'n hyderus bod gennych chi'r trefniadau angenrheidiol yn eu lle petai'r fath sefyllfa'n codi?
Wel, diolch i Llyr Gruffydd am y cwestiwn. Fel y dywedodd e, nid oedd Janet Finch-Saunders yn codi'r prynhawn yma'r posibiliad am godiad o 11 y cant yn y dreth gyngor yng Nghonwy, lle mae'r mwyafrif o bobl yn y cabinet yn yr awdurdod yna'n aelodau o barti'r Ceidwadwyr. So, cawn ni weld beth sy'n mynd i ddigwydd yna. Yn gyffredinol, rydw i wedi siarad mwy nag unwaith gyda Alun Davies am y pwnc yr oedd Llyr wedi ei godi. Rŷm ni yn hyderus bod pethau gyda ni yn barod lle rŷm ni'n gallu bod yn ymwybodol am ble yn y system mae awdurdodau lleol yn pryderu am y dyfodol.
Credaf ei bod yn werth dweud, Ddirprwy Lywydd, er gwaethaf y pryderon gwirioneddol hynny, ac mae gennyf wir—. Rwy'n cymryd y pethau y mae awdurdodau lleol yn eu dweud wrthyf ynglŷn a'r pwysau y maent yn eu hwynebu wedi naw mlynedd o gyni o ddifrif. Serch hynny, cynyddodd gwariant refeniw gan lywodraeth leol yng Nghymru 1.3 y cant y llynedd—ni ddisgynnodd o gwbl; fe gynyddodd 1.3 y cant—a chynyddodd cyllid cyfalaf gan awdurdodau lleol yng Nghymru 5.5 y cant y llynedd. Ac er mor anodd yw pethau i bob un ohonom, o ran ceisio darparu gwasanaethau cyhoeddus gyda llai o adnoddau a galw cynyddol, gosodwyd y setliad i awdurdodau lleol eleni yn erbyn y cefndir hwnnw.